Ysgol Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ysgol addysg gynradd ym mhentref Trefor yw '''Ysgol Gynradd Trefor'''. Agorwyd yr ysgol ar y 12fed o Awst 1878<ref>Jones, Geraint ''Rhen Sgwl - Canml...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 19 golygiad yn y canol gan 6 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ysgol addysg gynradd ym mhentref [[Trefor]] yw '''Ysgol Gynradd Trefor'''.
Ysgol gynradd pentref [[Trefor]] wrth droed [[Yr Eifl]] a agorwyd ar ddydd Llun y 12fed o Awst, 1878.<ref>Jones, Geraint ''Rhen Sgwl - Canmlwyddiant Ysgol Trefor 1978.'' (Llyfrau Bro'r Eifl Trefor, 1978) t. 17</ref>


Agorwyd yr ysgol ar y 12fed o Awst 1878<ref>Jones, Geraint ''Rhen Sgwl - Canmlwyddiant Ysgol Trefor 1978.'' (Llyfrau Bro'r Eifl Trefor, 1978) t. 17</ref> ar gyfer plant ardal Trefor, ac mae ar agor hyd heddiw. Gelwir yr ysgol yn ''Trefor Welsh Granite Quarry Company's School'' yn ei ddyddiau cynnar, ac aeth ymlaen i'w alw'n ''Trefor Council School'' ac yna ''Ysgol Gynradd Trefor''<ref>Llyfrau Log Ysgol Gynradd Trefor (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) '''XES1/126''' [1878-1979]</ref>.
Perchnogion yr ysgol oedd y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]] Cyf., perchnogion y chwarel ithfaen fawr, [[Chwarel yr Eifl]] ar fynydd [[Garnfor]], y mwyaf gogleddol o dri mynydd yr Eifl. Daeth 156 o ddisgyblion i'r ysgol ar ei diwrnod cyntaf - 64 o enethod a 38 o fechgyn yn yr adran gynradd, a 54 o fabanod. Y prifathro cyntaf oedd [[John Evan Williams]], brodor o Landygái a anwyd ym 1856 ac fe'i cynorthwyid gan athrawes, [[Winifred Williams]], yn wreiddiol o'r un ardal.
 
Oherwydd dirwasgiad mawr yn y fasnach sets (cerrig palmantu), caewyd "Y Gwaith" ar yr 22ain o Fawrth, 1883, gan roi bron i 500 o ddynion ar y clwt. Fis yn ddiweddarach, ar y 27ain o Ebrill, 1883, caewyd yr ysgol hefyd gan ei pherchnogion, gan roi'r staff o dri heb waith.
 
Gyda chwymp y dail daeth tro ar fyd a masnach unwaith eto i'r cerrig palmantu ac ailagorwyd y chwarel. Ar y 1af o Hydref ailagorwyd yr ysgol, gyda phrifathro ac athrawon newydd. Y prifathro oedd [[Benjamin Owen Jones]], brodor o Fethesda a fu'n brifathro ysgol Dwyran ym Môn cyn dod i Drefor. Bu'n brifathro Ysgol Trefor hyd ei ymddeoliad yn haf 1913.
 
Prifathrawon ers hynny<ref>Llyfrau Log Ysgol Gynradd Trefor (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) '''XES1/126''' [1878-1979]</ref> oedd
*[[Robert Lloyd Jones]] (1913-28), yr awdur enwog;
*[[Morris William Jones]] (1928-46),
*[[Thomas Elias Parry]] (1946-67),
*[[Harold Parry Jones]] (1967-1983),
*[[Geraint Jones]] (1983-1997), yr awdur ac ymgyrchydd dros yr iaith
*[[Cai Larsen]] (1997- 2016), gwleidydd Plaid Cymru
*[[Llion Huws]] (2017 -
 
 
{{eginyn}}


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
Llinell 9: Llinell 25:
[[Categori:Addysg]]
[[Categori:Addysg]]
[[Categori:Ysgolion]]
[[Categori:Ysgolion]]
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:24, 16 Chwefror 2022

Ysgol gynradd pentref Trefor wrth droed Yr Eifl a agorwyd ar ddydd Llun y 12fed o Awst, 1878.[1]

Perchnogion yr ysgol oedd y Cwmni Ithfaen Cymreig Cyf., perchnogion y chwarel ithfaen fawr, Chwarel yr Eifl ar fynydd Garnfor, y mwyaf gogleddol o dri mynydd yr Eifl. Daeth 156 o ddisgyblion i'r ysgol ar ei diwrnod cyntaf - 64 o enethod a 38 o fechgyn yn yr adran gynradd, a 54 o fabanod. Y prifathro cyntaf oedd John Evan Williams, brodor o Landygái a anwyd ym 1856 ac fe'i cynorthwyid gan athrawes, Winifred Williams, yn wreiddiol o'r un ardal.

Oherwydd dirwasgiad mawr yn y fasnach sets (cerrig palmantu), caewyd "Y Gwaith" ar yr 22ain o Fawrth, 1883, gan roi bron i 500 o ddynion ar y clwt. Fis yn ddiweddarach, ar y 27ain o Ebrill, 1883, caewyd yr ysgol hefyd gan ei pherchnogion, gan roi'r staff o dri heb waith.

Gyda chwymp y dail daeth tro ar fyd a masnach unwaith eto i'r cerrig palmantu ac ailagorwyd y chwarel. Ar y 1af o Hydref ailagorwyd yr ysgol, gyda phrifathro ac athrawon newydd. Y prifathro oedd Benjamin Owen Jones, brodor o Fethesda a fu'n brifathro ysgol Dwyran ym Môn cyn dod i Drefor. Bu'n brifathro Ysgol Trefor hyd ei ymddeoliad yn haf 1913.

Prifathrawon ers hynny[2] oedd


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Jones, Geraint Rhen Sgwl - Canmlwyddiant Ysgol Trefor 1978. (Llyfrau Bro'r Eifl Trefor, 1978) t. 17
  2. Llyfrau Log Ysgol Gynradd Trefor (Gwasanaeth Archifau Gwynedd) XES1/126 [1878-1979]