Morafiaid Drws-y-coed: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Teulu a oedd yn pregethu ac yn dilyn athrawiaeth y ''Brodyr Morafaidd'' yn [[Drws-y-Coed|Nrws-y-Coed]] oedd '''Morafiaid Drws-y-Coed'''.
Teulu a oedd yn pregethu ac yn dilyn athrawiaeth y ''Brodyr Morafaidd'' yn [[Drws-y-coed|Nrws-y-coed]] oedd '''Morafiaid Drws-y-coed'''.


Wrth sôn am y teulu hwn, cyfeiriwn at William ac Alice Griffith a oedd yn ffermio yn Nrws y Coed yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ganwyd iddynt wyth o blant, a aeth ymlaen i astudio'r athrawiaeth newydd hwn a lledaenu ei neges. Yn ôl R. T. Jenkins, roedd y teulu yn derbyn pregethwyr o wahanol enwadau ar eu tir yn aml, ac yn croesawu nifer i'w cartref.  
Wrth sôn am y teulu hwn, cyfeiriwn at William ac Alice Griffith a oedd yn ffermio yn Nrws y Coed yn ail hanner y ddeunawfed ganrif. Ganwyd iddynt wyth o blant, ac aeth rhai ohonynt ymlaen i astudio'r athrawiaeth newydd hon a lledaenu ei neges. Yn ôl R. T. Jenkins, roedd y teulu yn derbyn pregethwyr o wahanol enwadau ar eu tir yn aml, ac yn croesawu nifer i'w cartref.  


Adeiladodd William Griffith addoldy ar ei dir, ac yno y credir iddo ef a'i deulu wrando ar bregethwr dieithr yn sôn am fath wahanol o Brotestaniaeth, sef dysgiadiaeth y Brodyr Morafaidd. Nid oedd y math yma o beth yn gwbl annhebygol, yn ôl Jenkins - ond mae'n bwysig nodi cyfraniad y teulu yma at y ffydd. Aeth rhai o'u plant ymlaen i astudio'r enwad ymhellach, a chyhoeddodd un o'u merched gofiant yn nodi ymdrech ei mam, Alice Griffith yn sefydlu'r enwad mewn rhan anghysbell o Ddyffryn Nantlle.
Adeiladodd William Griffith addoldy ar ei dir, ac yno y credir iddo ef a'i deulu wrando ar bregethwr dieithr yn sôn am fath gwahanol o Brotestaniaeth, sef dysgeidiaeth y Brodyr Morafaidd. Nid oedd y math yma o beth yn gwbl annhebygol, yn ôl Jenkins - ond mae'n bwysig nodi cyfraniad y teulu yma at y ffydd. Aeth rhai o'u plant ymlaen i astudio'r enwad ymhellach, a chyhoeddodd un o'u merched gofiant yn nodi ymdrech ei mam, Alice Griffith, yn sefydlu'r enwad mewn rhan anghysbell o Ddyffryn Nantlle.


==Ffynhonnell==
==Ffynhonnell==

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:24, 24 Tachwedd 2021

Teulu a oedd yn pregethu ac yn dilyn athrawiaeth y Brodyr Morafaidd yn Nrws-y-coed oedd Morafiaid Drws-y-coed.

Wrth sôn am y teulu hwn, cyfeiriwn at William ac Alice Griffith a oedd yn ffermio yn Nrws y Coed yn ail hanner y ddeunawfed ganrif. Ganwyd iddynt wyth o blant, ac aeth rhai ohonynt ymlaen i astudio'r athrawiaeth newydd hon a lledaenu ei neges. Yn ôl R. T. Jenkins, roedd y teulu yn derbyn pregethwyr o wahanol enwadau ar eu tir yn aml, ac yn croesawu nifer i'w cartref.

Adeiladodd William Griffith addoldy ar ei dir, ac yno y credir iddo ef a'i deulu wrando ar bregethwr dieithr yn sôn am fath gwahanol o Brotestaniaeth, sef dysgeidiaeth y Brodyr Morafaidd. Nid oedd y math yma o beth yn gwbl annhebygol, yn ôl Jenkins - ond mae'n bwysig nodi cyfraniad y teulu yma at y ffydd. Aeth rhai o'u plant ymlaen i astudio'r enwad ymhellach, a chyhoeddodd un o'u merched gofiant yn nodi ymdrech ei mam, Alice Griffith, yn sefydlu'r enwad mewn rhan anghysbell o Ddyffryn Nantlle.

Ffynhonnell

Jenkins, R. T. The Moravian Brethren in North Wales (Y Cymmrodor, Cyf. 45, 1938)



Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma