Tafarn yr Engineer's Arms: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 4 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd yr '''Engineer's Arms''' yn dafarn ym mhen gogleddol [[Pen-y-groes]] ger Rhesdai Treddafydd. Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865 nodwyd mai Catherine Hughes oedd y dafarnwraig.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 2.9.1865, t.3</ref> Dichon nad oedd oes hir iawn i'r dafarn, gan nad oes fawr o sôn amdani wedyn yn y ffynonellau arferol. Yr unig gyfeiriad sydd wedi dod i'r fei yw un am "Mr. Hughes" yn chwarae'r piano mewn parti plant yn [[Neuadd y Farchnad]], Pen-y-groes, er mwyn dathlu priodas Owen Parry, ysw. ym 1869.<ref>''Y Tyst Cymreig'', 25.6.1869, t.3</ref>
Roedd yr '''Engineer's Arms''' yn dafarn ym mhen gogleddol [[Pen-y-groes]] yn un o adeiladau Treddafydd. Fe enwyd y dafarn fel "Engineer's Arms" yng Nghyfrifiad 1861. Fodd bynnag, ni nodwyd fod y preswylydd, John Hughes, gwehydd linsi, sidan a gwlân, 24 oed, yn dafarnwr hefyd, na'i fam, Catherine Hughes, 43 oed, a oedd yn cadw tŷ ac yn gweithio fel "waitress". Roedd y teulu yno ddeng mlynedd ynghynt ond nid oes sôn am y dafarn na'i henw bryd hynny nac unrhyw gysylltiad gyda gwerthu diod.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1851-61</ref>  Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865, fodd bynnag, nodwyd mai Catherine Hughes oedd y dafarnwraig.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 2.9.1865, t.3</ref> Dichon na fu oes hir iawn i'r dafarn, gan nad oes fawr o sôn amdani wedyn yn y ffynonellau arferol. Yr unig gyfeiriad sydd wedi dod i'r fei yw un am "Mr. Hughes" (John Hughes mae'n debyg) yn chwarae'r piano mewn parti plant yn [[Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes]], er mwyn dathlu priodas Owen Parry, ysw. ym 1869.<ref>''Y Tyst Cymreig'', 25.6.1869, t.3</ref> Erbyn 1871, roedd Catherine Hughes wedi troi ei llaw at gadw tŷ ar gyfer lletywyr yn yr un adeilad, gyda naw o bobl, yn ferched ac yn ddynion, yn Gymry, yn Wyddelod ac yn Saeson, yn aros yno. Nid oes sôn am werthu diod nac am enw "Engineer's Arms", a rhaid cymryd felly bod y dafarn ei hun wedi cau.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1871</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==


[[Categori:Tafarndai]]
[[Categori:Tafarndai]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:49, 5 Tachwedd 2025

Roedd yr Engineer's Arms yn dafarn ym mhen gogleddol Pen-y-groes yn un o adeiladau Treddafydd. Fe enwyd y dafarn fel "Engineer's Arms" yng Nghyfrifiad 1861. Fodd bynnag, ni nodwyd fod y preswylydd, John Hughes, gwehydd linsi, sidan a gwlân, 24 oed, yn dafarnwr hefyd, na'i fam, Catherine Hughes, 43 oed, a oedd yn cadw tŷ ac yn gweithio fel "waitress". Roedd y teulu yno ddeng mlynedd ynghynt ond nid oes sôn am y dafarn na'i henw bryd hynny nac unrhyw gysylltiad gyda gwerthu diod.[1] Mewn adroddiad papur newydd am gyfarfod blynyddol Llys Trwyddedu ardal Caernarfon ym 1865, fodd bynnag, nodwyd mai Catherine Hughes oedd y dafarnwraig.[2] Dichon na fu oes hir iawn i'r dafarn, gan nad oes fawr o sôn amdani wedyn yn y ffynonellau arferol. Yr unig gyfeiriad sydd wedi dod i'r fei yw un am "Mr. Hughes" (John Hughes mae'n debyg) yn chwarae'r piano mewn parti plant yn Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes, er mwyn dathlu priodas Owen Parry, ysw. ym 1869.[3] Erbyn 1871, roedd Catherine Hughes wedi troi ei llaw at gadw tŷ ar gyfer lletywyr yn yr un adeilad, gyda naw o bobl, yn ferched ac yn ddynion, yn Gymry, yn Wyddelod ac yn Saeson, yn aros yno. Nid oes sôn am werthu diod nac am enw "Engineer's Arms", a rhaid cymryd felly bod y dafarn ei hun wedi cau.[4]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1851-61
  2. Caernarvon and Denbigh Herald, 2.9.1865, t.3
  3. Y Tyst Cymreig, 25.6.1869, t.3
  4. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni 1871