Ffatri wlân Bontnewydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
| (Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
| Llinell 5: | Llinell 5: | ||
Ar fap degwm (c.1841)<ref>[https://lleoedd.llyfrgell.cymru/viewer/4563799#?c=0&m=0&s=0&cv=58&xywh=-732%2C-1%2C2834%2C1190 Cofnod o'r lle yma ar y map degwm]</ref> cyfeirir at y fan yma fel 'Felin'. Ar y rhestr pennu gellir gweld bod llawer o gaeau ynghlwm â'r 'Felin' yma. Gellir gweld fod o leiaf un cae pori, tair gweirglodd a thyddyn yn dod o dan yr un cofnod. Roedd yno William Jones yn denant yn y 'Felin', gyda Catherine Williams yn rhentu tair porfa. Ceir hefyd fod gŵr o'r enw John Ellis yn byw yn y tyddyn. Nid yw'n glir oddi wrth y ffynhonnell hon a oedd y ffatri'n weithredol gan mai melin yn unig sydd wedi ei nodi yma, ac felly ni ellir dweud i sicrwydd fod brethyn yn cael ei gynhyrchu yma cyn gynhared â 1841. | Ar fap degwm (c.1841)<ref>[https://lleoedd.llyfrgell.cymru/viewer/4563799#?c=0&m=0&s=0&cv=58&xywh=-732%2C-1%2C2834%2C1190 Cofnod o'r lle yma ar y map degwm]</ref> cyfeirir at y fan yma fel 'Felin'. Ar y rhestr pennu gellir gweld bod llawer o gaeau ynghlwm â'r 'Felin' yma. Gellir gweld fod o leiaf un cae pori, tair gweirglodd a thyddyn yn dod o dan yr un cofnod. Roedd yno William Jones yn denant yn y 'Felin', gyda Catherine Williams yn rhentu tair porfa. Ceir hefyd fod gŵr o'r enw John Ellis yn byw yn y tyddyn. Nid yw'n glir oddi wrth y ffynhonnell hon a oedd y ffatri'n weithredol gan mai melin yn unig sydd wedi ei nodi yma, ac felly ni ellir dweud i sicrwydd fod brethyn yn cael ei gynhyrchu yma cyn gynhared â 1841. | ||
Rhwng 1848 ac 1881, os nad am gyfnod hirach, David Jones, a aned yn Llanbeblig tua 1806, oedd yn rhedeg y felin, a ddisgrifiwyd fel "Bontnewydd Factory", a hynny wedi iddo symud o'i waith blaenorol yn Sir Fôn. Un o'i weithwyr oedd ei fab, [[Thomas Jones (Eos Beuno)]] a oedd yn byw ger y felin.<ref>Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1851-1881</ref> | |||
Gellir gweld oddi wrth fapiau yr Arolwg Ordnans o 1888 fod y ffatri'n weithredol, a'i bod yn cael ei phweru gan lif [[Afon Gwyrfai]]. Ychydig islaw'r afon mae eiddo o'r enw Dôl-y-pandy, a dichon felly fod pandy hefyd ar un adeg yn cael ei weithredu gan rym y dŵr<ref>[https://maps.nls.uk/view/101606421# Mapiau arlein - Llyfrgell Genedlaethol Yr Alban]</ref>. Mae modd gweld hefyd fod y lle hwn yn weithredol hyd at 1919 gan fod y map y flwyddyn honno'n nodi "Woollen Factory", ac mae annedd o'r enw "Lodge" wedi ei godi erbyn hynny gerllaw. | Gellir gweld oddi wrth fapiau yr Arolwg Ordnans o 1888 fod y ffatri'n weithredol, a'i bod yn cael ei phweru gan lif [[Afon Gwyrfai]]. Ychydig islaw'r afon mae eiddo o'r enw Dôl-y-pandy, a dichon felly fod pandy hefyd ar un adeg yn cael ei weithredu gan rym y dŵr<ref>[https://maps.nls.uk/view/101606421# Mapiau arlein - Llyfrgell Genedlaethol Yr Alban]</ref>. Mae modd gweld hefyd fod y lle hwn yn weithredol hyd at 1919 gan fod y map y flwyddyn honno'n nodi "Woollen Factory", ac mae annedd o'r enw "Lodge" wedi ei godi erbyn hynny gerllaw. | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 13:57, 26 Medi 2025
Ffatri wlân ar lan Afon Gwyrfai, ger Plas-y-Bryn yn y Bontnewydd oedd y lle hwn.
Credir iddi gael ei sefydlu yn hanner cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mae cofnod mewn erthygl papur newydd ym 1850 yn nodi ei bod yn weithredol. Yn yr erthygl hon cawn hanes bechgyn yn dwyn gwlân o ffatri Gydros, Pwllheli a'i gario'r holl ffordd i'r Bontnewydd a'i werthu yn y ffatri hon.[1]
Ar fap degwm (c.1841)[2] cyfeirir at y fan yma fel 'Felin'. Ar y rhestr pennu gellir gweld bod llawer o gaeau ynghlwm â'r 'Felin' yma. Gellir gweld fod o leiaf un cae pori, tair gweirglodd a thyddyn yn dod o dan yr un cofnod. Roedd yno William Jones yn denant yn y 'Felin', gyda Catherine Williams yn rhentu tair porfa. Ceir hefyd fod gŵr o'r enw John Ellis yn byw yn y tyddyn. Nid yw'n glir oddi wrth y ffynhonnell hon a oedd y ffatri'n weithredol gan mai melin yn unig sydd wedi ei nodi yma, ac felly ni ellir dweud i sicrwydd fod brethyn yn cael ei gynhyrchu yma cyn gynhared â 1841.
Rhwng 1848 ac 1881, os nad am gyfnod hirach, David Jones, a aned yn Llanbeblig tua 1806, oedd yn rhedeg y felin, a ddisgrifiwyd fel "Bontnewydd Factory", a hynny wedi iddo symud o'i waith blaenorol yn Sir Fôn. Un o'i weithwyr oedd ei fab, Thomas Jones (Eos Beuno) a oedd yn byw ger y felin.[3]
Gellir gweld oddi wrth fapiau yr Arolwg Ordnans o 1888 fod y ffatri'n weithredol, a'i bod yn cael ei phweru gan lif Afon Gwyrfai. Ychydig islaw'r afon mae eiddo o'r enw Dôl-y-pandy, a dichon felly fod pandy hefyd ar un adeg yn cael ei weithredu gan rym y dŵr[4]. Mae modd gweld hefyd fod y lle hwn yn weithredol hyd at 1919 gan fod y map y flwyddyn honno'n nodi "Woollen Factory", ac mae annedd o'r enw "Lodge" wedi ei godi erbyn hynny gerllaw.
Erbyn 1953, mae modd gweld oddi wrth y mapiau fod y ffatri wedi cau, ac erbyn hyn dim ond y sylfeini sydd ar ôl.
Cyfeiriadau
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
- ↑ North Wales Chronicle, 1850 Tachwedd 16 tt.3
- ↑ Cofnod o'r lle yma ar y map degwm
- ↑ Cyfrifiad plwyf Llanwnda 1851-1881
- ↑ Mapiau arlein - Llyfrgell Genedlaethol Yr Alban