Tyddyn Madyn a Llain Fadyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 3: Llinell 3:
Fodd bynnag, mae'n fwy tebygol fod yr elfen ''madyn'' yma'n coffáu dyn o'r enw Madog a oedd unwaith yn gysylltiedig â'r anheddau hyn. Mae ''madyn'' yn ffurf anwes gyffredin ar yr enw ''Madog''. Ceir ''Tyddyn Madyn'' yng [[Clynnog|Nghlynnog]] a cheir y ffurf ''Tyddyn Madyn Goch'' yn Llanystumdwy.  
Fodd bynnag, mae'n fwy tebygol fod yr elfen ''madyn'' yma'n coffáu dyn o'r enw Madog a oedd unwaith yn gysylltiedig â'r anheddau hyn. Mae ''madyn'' yn ffurf anwes gyffredin ar yr enw ''Madog''. Ceir ''Tyddyn Madyn'' yng [[Clynnog|Nghlynnog]] a cheir y ffurf ''Tyddyn Madyn Goch'' yn Llanystumdwy.  


Symudwyd hen fwthyn [[Llain Fadyn]], a adeiladwyd o bosibl ym 1735, i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, lle cafodd ei ail-godi ym 1962.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.248-9.</ref>
Symudwyd hen fwthyn [[Llain Fadyn]], a adeiladwyd o bosibl ym 1735, i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, lle cafodd ei ail-godi ym 1962. Mae'r Amgueddfa'n dweud mai 1765 oedd dyddiad ei godi.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.248-9.</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


[[Categori:Enwau lleoedd]]
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:37, 11 Ebrill 2024

Mae anheddau Tyddyn Madyn a Llain Fadyn yn ardal Rhos-isaf o fewn plwyf Llandwrog. Ceir cyfeiriad at Dyddyn Madyn yn y ffurf Tythyn Madyn ym 1696 (Casgliad Mostyn, Prifysgol Bangor) ac ni welir fawr amrywiad ar sillafiad yr ail elfen dros y blynyddoedd. Gallai'r ail elfen fod yn enw cyffredin madyn, sef llwynog. Felly, mae'n bosib mai cyfeiriad at lwynog sydd yn enwau Tyddyn Madyn a Llain Fadyn. Bu tŷ o'r enw Llain y Llwynog ar Forfa Dinlle ar un adeg. Mae cael enwau anifeiliaid neu adar yn rhan o enw lle yn beth cyffredin iawn.

Fodd bynnag, mae'n fwy tebygol fod yr elfen madyn yma'n coffáu dyn o'r enw Madog a oedd unwaith yn gysylltiedig â'r anheddau hyn. Mae madyn yn ffurf anwes gyffredin ar yr enw Madog. Ceir Tyddyn Madyn yng Nghlynnog a cheir y ffurf Tyddyn Madyn Goch yn Llanystumdwy.

Symudwyd hen fwthyn Llain Fadyn, a adeiladwyd o bosibl ym 1735, i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, lle cafodd ei ail-godi ym 1962. Mae'r Amgueddfa'n dweud mai 1765 oedd dyddiad ei godi.[1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.248-9.