Tyddyn Mansier: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ceir annedd '''Tyddyn Mansier''' rhwng Y Groeslon a Charmel ym mhlwyf Llandwrog. Sillafwyd ail elfen yr enw mewn amrywiol ffurfiau dros...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Ceir annedd '''Tyddyn Mansier''' rhwng [[Y Groeslon]] a [[Carmel|Charmel]] ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Sillafwyd ail elfen yr enw mewn amrywiol ffurfiau dros y blynyddoedd. ''Tuthyn y mansier'' a nodwyd ym 1635 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru). ''Tyddyn Maensier'' a geir yn Rhestr Pennu'r Degwm ym 1842 a ''Tyddyn Meinsier'' yng Nghyfrifiad 1851. ''Tyddyn Meinsier'' sydd yng Nghyfeiriadur y Cod Post heddiw.  
Ceir annedd '''Tyddyn Mansier''' rhwng [[Y Groeslon]] a [[Carmel|Charmel]] ym mhlwyf [[Llandwrog]]. Sillafwyd ail elfen yr enw mewn amrywiol ffurfiau dros y blynyddoedd. ''Tuthyn y mansier'' a nodwyd ym 1635 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru). ''Tyddyn Maensier'' a geir yn Rhestr Pennu'r Degwm ym 1842 a ''Tyddyn Meinsier'' yng Nghyfrifiad 1851. ''Tyddyn Meinsier'' sydd yng Nghyfeiriadur y Cod Post heddiw. Yr ynghaniad lleol yw "Tyddyn Minsha".

Yn yr ail elfen, ''mansier'', yr hyn a geir yw benthyciad o'r Saesneg ''manger'', sef cafn neu focs agored i ddal bwyd anifeiliaid, mewn beudy neu stabal fel rheol. Ceir nifer o amrywiadau ar sillafiad y gair hwn yn Gymraeg. ''Mansier'' yw'r ffurf a gydnabyddir gan ''Geiriadur Prifysgol Cymru'', ond mae hefyd yn nodi'r ffurfiau ''minsiar, mensier, meinsiar, manjar'' a ''manger''. Yr un peth yn ei hanfod ydi ''mansier'' a ''phreseb'', er fod rhai'n awgrymu fod gwahaniaethau rhyngddynt. (Honna rhai fod mansier mewn stabal i ddal bwyd ceffylau a'i fod wedi'i godi oddi ar y llawr ar goesau, tra bo preseb ar lawr mewn beudy yn dal bwyd i wartheg.) Beth tybed oedd mor arbennig ynglŷn â'r ''mansier'' yn yr achos yma iddo gael ei anfarwoli mewn enw tyddyn? <ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.249-50.</ref>

==Cyfeiriadau==
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:41, 11 Ebrill 2024

Ceir annedd Tyddyn Mansier rhwng Y Groeslon a Charmel ym mhlwyf Llandwrog. Sillafwyd ail elfen yr enw mewn amrywiol ffurfiau dros y blynyddoedd. Tuthyn y mansier a nodwyd ym 1635 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Tyddyn Maensier a geir yn Rhestr Pennu'r Degwm ym 1842 a Tyddyn Meinsier yng Nghyfrifiad 1851. Tyddyn Meinsier sydd yng Nghyfeiriadur y Cod Post heddiw. Yr ynghaniad lleol yw "Tyddyn Minsha".

Yn yr ail elfen, mansier, yr hyn a geir yw benthyciad o'r Saesneg manger, sef cafn neu focs agored i ddal bwyd anifeiliaid, mewn beudy neu stabal fel rheol. Ceir nifer o amrywiadau ar sillafiad y gair hwn yn Gymraeg. Mansier yw'r ffurf a gydnabyddir gan Geiriadur Prifysgol Cymru, ond mae hefyd yn nodi'r ffurfiau minsiar, mensier, meinsiar, manjar a manger. Yr un peth yn ei hanfod ydi mansier a phreseb, er fod rhai'n awgrymu fod gwahaniaethau rhyngddynt. (Honna rhai fod mansier mewn stabal i ddal bwyd ceffylau a'i fod wedi'i godi oddi ar y llawr ar goesau, tra bo preseb ar lawr mewn beudy yn dal bwyd i wartheg.) Beth tybed oedd mor arbennig ynglŷn â'r mansier yn yr achos yma iddo gael ei anfarwoli mewn enw tyddyn? [1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.249-50.