Llwyn Cwla: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ar fap rhagbaratoawl Dawson ar gyfer Arolwg Ordnans 1816-20 lleolir'''Llwyncwla''' rywle rhwng Bethesda-bach a Llandwrog. Mae tŷ o'r enw ''Llwyn'...'
 
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ar fap rhagbaratoawl Dawson ar gyfer Arolwg Ordnans 1816-20 lleolir'''Llwyncwla''' rywle rhwng [[Bethesda-bach]] a [[Llandwrog]]. Mae tŷ o'r enw ''Llwyn'' yn ardal Bethesda-bach heddiw, ac mae posibilrwydd mai Llwyn Cwla oedd enw gwreiddiol yr annedd ar y llecyn hwnnw.  
Ar fap rhagbaratoawl Dawson ar gyfer Arolwg Ordnans 1816-20 lleolir '''Llwyncwla''' rywle rhwng [[Bethesda Bach]] a [[Llandwrog]]. Mae tŷ o'r enw ''Llwyn'' yn ardal Bethesda Bach heddiw, ac mae posibilrwydd mai Llwyn Cwla oedd enw gwreiddiol yr annedd ar y llecyn hwnnw.  


Ceir cyfeiriad at ''Llwyn Cwlla'' ym 1764 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Arhosodd yr ail elfen, ''cwla'', yn bur ddigyfnewid drwy'r blynyddoedd er yr amrywia'r sillafiad gryn dipyn yn asesiadau'r Dreth Dir. Ceir y cyfeiriad olaf yn cynnwys yr elfen ''cwla'' ym 1834 yn llyfr treth plwyf Llandwrog. Mae dwy ystyr i'r ansoddair ''cwla''. Yn Arfon fe'i defnyddir i ddisgrifio rhywun gwael a bregus ei iechyd, ond gall olygu rhywbeth gwantan a gwachul yn gyffredinol. Gallai gyfeirio efallai at lwyn gwywedig yma felly. Ar y llaw arall mae yna bosibilrwydd mai enw personol sydd y tu ôl i'r ffurf. Cyfeirir at un ''Robert Culla'' yng nghofnodion trafodion y llys yng Nghaernarfon ym 1362 ac ym 1369 cyfeirir at ''Ieuan ap Ken' [Cynwrig] Culla''. Nid oes awgrym mai pobl o ardal Llandwrog oedd y rhain, ond mae'n dangos fod ''Cwla'' yn enw neu'n llysenw a fodolai ar un adeg nid nepell o'r ardal hon.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.195-6</ref>
Ceir cyfeiriad at ''Llwyn Cwlla'' ym 1764 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Arhosodd yr ail elfen, ''cwla'', yn bur ddigyfnewid drwy'r blynyddoedd er yr amrywia'r sillafiad gryn dipyn yn asesiadau'r Dreth Dir. Ceir y cyfeiriad olaf yn cynnwys yr elfen ''cwla'' ym 1834 yn llyfr treth plwyf Llandwrog. Mae dwy ystyr i'r ansoddair ''cwla''. Yn [[Arfon]] fe'i defnyddir i ddisgrifio rhywun gwael a bregus ei iechyd, ond gall olygu rhywbeth gwantan a gwachul yn gyffredinol. Gallai gyfeirio efallai at lwyn gwywedig yma felly. Ar y llaw arall mae yna bosibilrwydd mai enw personol sydd y tu ôl i'r ffurf. Cyfeirir at un ''Robert Culla'' yng nghofnodion trafodion y llys yng Nghaernarfon ym 1362 ac ym 1369 cyfeirir at ''Ieuan ap Ken' [Cynwrig] Culla''. Nid oes awgrym mai pobl o ardal Llandwrog oedd y rhain, ond mae'n dangos fod ''Cwla'' yn enw neu'n llysenw a fodolai ar un adeg nid nepell o'r ardal hon.<ref>Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.195-6</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 12:57, 11 Ebrill 2024

Ar fap rhagbaratoawl Dawson ar gyfer Arolwg Ordnans 1816-20 lleolir Llwyncwla rywle rhwng Bethesda Bach a Llandwrog. Mae tŷ o'r enw Llwyn yn ardal Bethesda Bach heddiw, ac mae posibilrwydd mai Llwyn Cwla oedd enw gwreiddiol yr annedd ar y llecyn hwnnw.

Ceir cyfeiriad at Llwyn Cwlla ym 1764 (Casgliad Llanfair a Brynodol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Arhosodd yr ail elfen, cwla, yn bur ddigyfnewid drwy'r blynyddoedd er yr amrywia'r sillafiad gryn dipyn yn asesiadau'r Dreth Dir. Ceir y cyfeiriad olaf yn cynnwys yr elfen cwla ym 1834 yn llyfr treth plwyf Llandwrog. Mae dwy ystyr i'r ansoddair cwla. Yn Arfon fe'i defnyddir i ddisgrifio rhywun gwael a bregus ei iechyd, ond gall olygu rhywbeth gwantan a gwachul yn gyffredinol. Gallai gyfeirio efallai at lwyn gwywedig yma felly. Ar y llaw arall mae yna bosibilrwydd mai enw personol sydd y tu ôl i'r ffurf. Cyfeirir at un Robert Culla yng nghofnodion trafodion y llys yng Nghaernarfon ym 1362 ac ym 1369 cyfeirir at Ieuan ap Ken' [Cynwrig] Culla. Nid oes awgrym mai pobl o ardal Llandwrog oedd y rhain, ond mae'n dangos fod Cwla yn enw neu'n llysenw a fodolai ar un adeg nid nepell o'r ardal hon.[1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.195-6