Bron Iwrch: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ar Fap y Degwm 1842 ceir annedd o'r enw '''Fron iwrch''' yn rhan ddeheuol Y Groeslon ym mhlwyf Llandwrog. ''Bryn-iwrch'' yw enw'r lle ar Fap Ordna...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 4: Llinell 4:


1. Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg Y Bwthyn, 2011), t.43.
1. Glenda Carr, ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'', (Gwasg Y Bwthyn, 2011), t.43.
[[Categori:Enwau lleoedd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 22:02, 14 Chwefror 2024

Ar Fap y Degwm 1842 ceir annedd o'r enw Fron iwrch yn rhan ddeheuol Y Groeslon ym mhlwyf Llandwrog. Bryn-iwrch yw enw'r lle ar Fap Ordnans 1920 ac yng Nghyfeiriadur presennol y Cod Post mae'n Bron Iwrch. Gwelir bryn a bron yn ymgyfnewid weithiau mewn enwau lleoedd. Math o garw bychan yw iwrch (roe-buck). Fodd bynnag, mae'r iwrch gwyllt wedi diflannu o Gymru ers canrifoedd bellach, sy'n tystio i'r ffaith fod yr enw hwn yn eithaf hen. Ond fe all iwrch gyfeirio at unrhyw fath o garw bychan ei faint yn hytrach nag at rywogaeth benodol. Ceir lle o'r enw Glyn Iwrch hefyd ym mhlwyf Llandwrog.1

Cyfeiriadau

1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg Y Bwthyn, 2011), t.43.