Osborn Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '==Osborn Jones== ==Teuluol== Ganed Osborn Pierce Jones yng Nghefn Uchaf, Rhos-lan, Cricieth. Graddiodd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac y...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 4: Llinell 4:
==Teuluol==
==Teuluol==

Ganed Osborn Pierce Jones yng Nghefn Uchaf, Rhos-lan, Cricieth. Graddiodd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac ymgartrefodd yng Ngwernafalau, Llandwrog, gyda’i briod Glesni – telynores ac arweinydd côr cerdd dant llwyddiannus.   Roedd ei chwaer, y ddiweddar Dora Jones, Tyddyn Gwyn, Rhos-lan, yn briod â W.S. Jones (Wil Sam).  

==Dyfais fyd-enwog==
==Dyfais fyd-enwog==

Dilynodd yrfa fel cemegydd clinigol yn Ysbyty Gwynedd ac o ganlyniad I arbrofi yn y beudai yn ei gartref yn Llandwrog, dyfeisiodd ddull newydd o ddadansoddi gwaed. Denwyd grantiau, cafwyd buddsoddiad gan Awdurdod Datblygu Cymru ac yn 1980 sefydlwyd Alpha Dyffryn Cyfyngedig (ADC), cwmni offer meddygol electronig.  Y Cadeirydd oedd Dafydd Wigley.
Dilynodd yrfa fel cemegydd clinigol yn Ysbyty Gwynedd ac o ganlyniad i arbrofi yn y beudai yn ei gartref yn Llandwrog, dyfeisiodd ddull newydd o ddadansoddi gwaed. Denwyd grantiau, cafwyd buddsoddiad gan Awdurdod Datblygu Cymru ac ym 1980 sefydlwyd Alpha Dyffryn Cyfyngedig (ADC), cwmni offer meddygol electronig.  Y Cadeirydd oedd Dafydd Wigley.
 
Sefydlwyd ffatri yng Nghaernarfon, datblygodd y cwmni o nerth i nerth ac ymunodd â chwmni’r DPC a oedd angen sefydlu ffatri ar gyfer eu Marchnad Ewropeaidd.  Bu Dafydd Wigley ym mhencadlys y cwmni hwnnw yn Los Angeles. Llwyddodd i’w darbwyllo hwy i ystyried safle Glynrhonwy fel y cam nesaf.<ref>https://www.plaidcymruarfon.org/hanes_ffatri_yn_llanberis_sydd_am_greu_100_o_swyddi_newydd.</ref> O ganlyniad i hynny roedd ffatri Glynrhonwy yn dechrau gweithio ym 1992 dan yr enw Euro-DPC ac o fewn 3 blynedd cyflogid 380 o weithwyr yno.
 
Enw’r cwmni erbyn 2022 yw Siemen Healthineers a dyma’r datganiad diweddaraf am ei sefyllfa, dyddiedig Tachwedd 2022, gan y Rheolwr Gyfarwyddwr, yr Athro Fraser Logue:
 
Mae labordai a chlinigau mewn dros 50 gwlad o amgylch y byd yn dibynnu ar yr adweithredyddion IMMULITE rydyn ni'n eu cynhyrchu yn Llanberis, gan gynnwys dros 100 o gyflyrau iechyd a 570 o brofion alergedd. Mae'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn dangos pa mor hanfodol yw'r gwaith mae ein gweithlu presennol o 470 yn ei wneud, a bydd yn ein galluogi i fwrw ymlaen â'n cynlluniau i fuddsoddi yn y safle.
Bydd bron 100 o swyddi ar gyfer gweithwyr medrus iawn yn cael eu creu wrth inni wireddu ein huchelgais gyffredin i drawsnewid Siemens Healthineers yn Llanberis yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer gweithgynhyrchu ac ymchwil a datblygu ym maes diagnosteg labordy.<ref>https://www.llyw.cymru/plaidcymruarfon.org/canolfan-ragoriaeth-newydd-ar-gyfer-gofal-iechyd-yng-ngwynedd-siemens-healthineers-i-uwchraddior.</ref>
 
Sefydlwyd ffatri yng Nghaernarfon, datblygodd y cwmni o nerth i nerth ac ymunodd â chwmni’r DPC a oedd angen sefydlu ffatri ar gyfer eu Marchnad Ewropeaidd.  Bu Dafydd Wigley ym mhencadlys y cwmni hwnnw yn Los Angeles. Llwyddodd i’w darbwyllo hwy i ystyried safle Glynrhonwy fel y cam nesaf.<ref>https://www.plaidcymruarfon.org/hanes_ffatri_yn_llanberis_sydd_am_greu_100_o_swyddi_newydd.</ref> O ganlyniad i hynny roedd ffatri Glynrhonwy yn dechrau gweithio yn 1992 dan yr enw Euro-DPC ac o fewn 3 blynedd cyflogid 380 o weithwyr yno.

Enw’r cwmni erbyn 2022 yw Siemen Healthineers a dyma’r datganiad diweddaraf am ei sefyllfa, dyddiedig Tachwedd 2022 gan y Rheolwr Gyfarwyddwr, yr Athro Fraser Logue:

Mae labordai a chlinigau mewn dros 50 gwlad o amgylch y byd yn dibynnu ar yr adweithredyddion IMMULITE rydyn ni'n eu cynhyrchu yn Llanberis, gan gynnwys dros 100 o gyflyrau iechyd a 570 o brofion alergedd. Mae'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn dangos pa mor hanfodol yw'r gwaith mae ein gweithlu presennol o 470 yn ei wneud, a bydd yn ein galluogi i fwrw ymlaen â'n cynlluniau i fuddsoddi yn y safle.
Bydd bron 100 o swyddi ar gyfer gweithwyr medrus iawn yn cael eu creu wrth inni wireddu ein huchelgais cyffredin i drawsnewid Siemens Healthineers yn Llanberis yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer gweithgynhyrchu ac ymchwil a datblygu ym maes diagnosteg labordy.<ref>https://www.llyw.cymru/plaidcymruarfon.org/canolfan-ragoriaeth-newydd-ar-gyfer-gofal-iechyd-yng-ngwynedd-siemens-healthineers-i-uwchraddior.</ref>

==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:21, 5 Chwefror 2024

Osborn Jones

Teuluol

Ganed Osborn Pierce Jones yng Nghefn Uchaf, Rhos-lan, Cricieth. Graddiodd yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor ac ymgartrefodd yng Ngwernafalau, Llandwrog, gyda’i briod Glesni – telynores ac arweinydd côr cerdd dant llwyddiannus. Roedd ei chwaer, y ddiweddar Dora Jones, Tyddyn Gwyn, Rhos-lan, yn briod â W.S. Jones (Wil Sam).

Dyfais fyd-enwog

Dilynodd yrfa fel cemegydd clinigol yn Ysbyty Gwynedd ac o ganlyniad i arbrofi yn y beudai yn ei gartref yn Llandwrog, dyfeisiodd ddull newydd o ddadansoddi gwaed. Denwyd grantiau, cafwyd buddsoddiad gan Awdurdod Datblygu Cymru ac ym 1980 sefydlwyd Alpha Dyffryn Cyfyngedig (ADC), cwmni offer meddygol electronig. Y Cadeirydd oedd Dafydd Wigley.

Sefydlwyd ffatri yng Nghaernarfon, datblygodd y cwmni o nerth i nerth ac ymunodd â chwmni’r DPC a oedd angen sefydlu ffatri ar gyfer eu Marchnad Ewropeaidd. Bu Dafydd Wigley ym mhencadlys y cwmni hwnnw yn Los Angeles. Llwyddodd i’w darbwyllo hwy i ystyried safle Glynrhonwy fel y cam nesaf.[1] O ganlyniad i hynny roedd ffatri Glynrhonwy yn dechrau gweithio ym 1992 dan yr enw Euro-DPC ac o fewn 3 blynedd cyflogid 380 o weithwyr yno.

Enw’r cwmni erbyn 2022 yw Siemen Healthineers a dyma’r datganiad diweddaraf am ei sefyllfa, dyddiedig Tachwedd 2022, gan y Rheolwr Gyfarwyddwr, yr Athro Fraser Logue:

Mae labordai a chlinigau mewn dros 50 gwlad o amgylch y byd yn dibynnu ar yr adweithredyddion IMMULITE rydyn ni'n eu cynhyrchu yn Llanberis, gan gynnwys dros 100 o gyflyrau iechyd a 570 o brofion alergedd. Mae'r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru yn dangos pa mor hanfodol yw'r gwaith mae ein gweithlu presennol o 470 yn ei wneud, a bydd yn ein galluogi i fwrw ymlaen â'n cynlluniau i fuddsoddi yn y safle.

Bydd bron 100 o swyddi ar gyfer gweithwyr medrus iawn yn cael eu creu wrth inni wireddu ein huchelgais gyffredin i drawsnewid Siemens Healthineers yn Llanberis yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang ar gyfer gweithgynhyrchu ac ymchwil a datblygu ym maes diagnosteg labordy.[2]

Cyfeiriadau