Katie Wyn Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Cantores eisteddfodol lwyddiannus dros ben oedd '''Katie Wyn Jones''' (1921-2005) o fferm Cefn Hengwrt, ger pentref Llandwrog. Dechreuodd gystadl...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Cantores eisteddfodol lwyddiannus dros ben oedd '''Katie Wyn Jones''' (1921-2005) o fferm [[Cefn Hengwrt]], ger pentref [[Llandwrog]].
Cantores eisteddfodol lwyddiannus dros ben oedd '''Katie Wyn Jones''' (1921-2005) o fferm [[Cefn Hengwrt]], ger pentref [[Llandwrog]].


Dechreuodd gystadlu yn ifanc iawn dan adain a dylanwad cryf ei thad ar aelwyd y cartref yn Llandwrog. Yn ddiweddarach bu'n cystadlu ar unawdau soprano a chanu deuawdau gyda'i chwaer a chael hyfforddiant am gyfnod gan y diweddar Evan Lewis, Bangor. Ar ôl egwyl o rai blynyddoedd oherwydd cleisio drwg i dannau'r llais, magu pedwar o blant a ffermio, fe ail gydiodd yn ei diddordeb o ganu. Dechreuodd gystadlu ar yr Emyn ar hyd a lled Cymru a hefyd Glannau Mersi. Bu ar lwyfan y Genedlaethol bum gwaith a dod i'r brig deirgwaith ac enillodd yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid naw gwaith, bum gwaith yn olynol. O ganlyniad roedd ganddi dros gant a hanner o gwpanau, ynghyd â sawl tarian a phlatiau arian wedi eu hennill mewn amrywiol Eisteddfodau. Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000, cafodd ei derbyn i'r Orsedd, ac offrymodd weddi'r Orsedd yn Eisteddfod Meifod 2003.<ref>Gwefan North Wales Live, 23.3.2005 [https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/farewell-faithful-queen-scene-2915360], cyrchwyd 23.10.2023; ''Lleu'', Rhagfyr 2007</ref> Mae sawl grynoddisg o'i chanu ar gael.
Dechreuodd gystadlu yn ifanc iawn dan adain a dylanwad cryf ei thad ar aelwyd y cartref yn Llandwrog. Yn ddiweddarach bu'n cystadlu ar unawdau soprano a chanu deuawdau gyda'i chwaer a chael hyfforddiant am gyfnod gan y diweddar Evan Lewis, Bangor. Ar ôl egwyl o rai blynyddoedd oherwydd iddi ddioddef cleisio drwg i dannau'r llais, magu pedwar o blant a ffermio, fe ail gydiodd yn ei diddordeb o ganu. Dechreuodd gystadlu ar yr Emyn ar hyd a lled Cymru a hefyd Glannau Mersi. Bu ar lwyfan y Genedlaethol bum gwaith a dod i'r brig deirgwaith ac enillodd yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid naw gwaith, bum gwaith yn olynol. O ganlyniad roedd ganddi dros gant a hanner o gwpanau, ynghyd â sawl tarian a phlatiau arian wedi eu hennill mewn amrywiol eisteddfodau. Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000, cafodd ei derbyn i'r Orsedd, ac offrymodd weddi'r Orsedd yn Eisteddfod Meifod 2003.<ref>Gwefan North Wales Live, 23.3.2005 [https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/farewell-faithful-queen-scene-2915360], cyrchwyd 23.10.2023; ''Lleu'', Rhagfyr 2007</ref> Mae sawl crynoddisg ohoni'n canu ar gael.


Er nad oedd hi wedi dilyn gyrfa actores, bu'n chwarae rhan y fam yn ffilm fer [[''A Letter from Wales'']] a ryddhawyd ym 1953, a'i phlant go iawn oedd yn chwarae rôl debyg yn y ffilm.<ref>Gwefan IMDb, [1], cyrchwyd 23/10/2023</ref>
Er nad oedd wedi dilyn gyrfa fel actores, bu'n chwarae rhan y fam yn y ffilm fer ''[[A Letter from Wales]]'' a ryddhawyd ym 1953, gyda'i phlant ei hun yn chwarae rhannau rhai o'r plant yn y ffilm hefyd.<ref>Gwefan IMDb, [1], cyrchwyd 23/10/2023</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:20, 26 Hydref 2023

Cantores eisteddfodol lwyddiannus dros ben oedd Katie Wyn Jones (1921-2005) o fferm Cefn Hengwrt, ger pentref Llandwrog.

Dechreuodd gystadlu yn ifanc iawn dan adain a dylanwad cryf ei thad ar aelwyd y cartref yn Llandwrog. Yn ddiweddarach bu'n cystadlu ar unawdau soprano a chanu deuawdau gyda'i chwaer a chael hyfforddiant am gyfnod gan y diweddar Evan Lewis, Bangor. Ar ôl egwyl o rai blynyddoedd oherwydd iddi ddioddef cleisio drwg i dannau'r llais, magu pedwar o blant a ffermio, fe ail gydiodd yn ei diddordeb o ganu. Dechreuodd gystadlu ar yr Emyn ar hyd a lled Cymru a hefyd Glannau Mersi. Bu ar lwyfan y Genedlaethol bum gwaith a dod i'r brig deirgwaith ac enillodd yn Eisteddfod Pontrhydfendigaid naw gwaith, bum gwaith yn olynol. O ganlyniad roedd ganddi dros gant a hanner o gwpanau, ynghyd â sawl tarian a phlatiau arian wedi eu hennill mewn amrywiol eisteddfodau. Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000, cafodd ei derbyn i'r Orsedd, ac offrymodd weddi'r Orsedd yn Eisteddfod Meifod 2003.[1] Mae sawl crynoddisg ohoni'n canu ar gael.

Er nad oedd wedi dilyn gyrfa fel actores, bu'n chwarae rhan y fam yn y ffilm fer A Letter from Wales a ryddhawyd ym 1953, gyda'i phlant ei hun yn chwarae rhannau rhai o'r plant yn y ffilm hefyd.[2]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan North Wales Live, 23.3.2005 [1], cyrchwyd 23.10.2023; Lleu, Rhagfyr 2007
  2. Gwefan IMDb, [1], cyrchwyd 23/10/2023