Côr Llanllyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Ychydig iawn sy’n hysbys am '''Gôr Llanllyfni''', côr meibion a sefydlwyd tua chanol yr 1870au, er ei fod wedi parhau (yn ysbeidiol beth bynnag) am ddeugain mlynedd a mwy. Yn ystod y 1870au, [[Hugh R. Owen (Tenorydd Llyfnwy)]] oedd yr arweinydd ac mae’n bosibl iawn mai ef oedd sefydlydd y côr. Y cyfeiriad cyntaf i'r côr a geir yn y wasg oedd yn ystod mis Ebrill 1877, pryd y bu’n cymryd rhan mewn cyngerdd er budd [[Capel Bethel (MC), Pen-y-groes]]. Cafodd yr arweinydd (sef Tenorydd Llyfnwy) ei feirniadu yn y Wasg am ei ystumiau corfforol wrth arwain; mae llythyr yn ''Y Genedl Gymreig'' sydd yn ei amddiffyn yn werth ei ddyfynnu oherwydd yr iaith eithafol a ddefnyddiwyd ar y ddwy ochr:
Ychydig iawn sy’n hysbys am '''Gôr Llanllyfni''', côr meibion a sefydlwyd tua chanol yr 1870au, er ei fod wedi parhau (yn ysbeidiol beth bynnag) am ddeugain mlynedd a mwy. Yn ystod y 1870au, [[Hugh R. Owen (Tenorydd Llyfnwy)]] oedd yr arweinydd ac mae’n bosibl iawn mai ef oedd sefydlydd y côr. Y cyfeiriad cyntaf at y côr a geir yn y wasg oedd yn ystod mis Ebrill 1877, pryd y bu’n cymryd rhan mewn cyngerdd er budd [[Capel Bethel (MC), Pen-y-groes]]. Cafodd yr arweinydd (sef Tenorydd Llyfnwy) ei feirniadu yn y wasg am ei ystumiau corfforol wrth arwain; mae llythyr yn ''Y Genedl Gymreig'', sydd yn ei amddiffyn, yn werth ei ddyfynnu oherwydd yr iaith eithafol a ddefnyddiwyd ar y ddwy ochr:

  CYSTADLEUAETH GERDDOROL BETHEL, PENYGROES. Foneddigion,-Yn eich rhifyn diweddaf, mae rhyw un a eilw ei hun yn "Ioan ap Owen" yn cymeryd arno roddi hanes y gystadleuaeth uchod. Er nad ydyw ei adroddiad ond byr, mae crafangc waedlyd cenfigen yn brif nodwedd ynddo. Dywed fod côr Llanllyfni dan arweiniad bachgen ieuanc sydd yn debyg o ennill enwogrwydd fel cerddor, ac mai ei brif hynodrwydd ydyw ci ystimiau corphorol yr hyn sydd yn meddu dylanwad mawr ar ei gôr. Diau nad ymddangosodd erioed ymadroddion mwy bustlaidd a gwawdlyd na'r uchod, mae gwenwyn aspiaid o danynt oll. Yr wyf wedi bod yn edrych ar y bachgen ieuanc gobeithiol a enllibir yn arwain ei gôr lawer gwaith, ac ni welais ynddo ddim allan o le, bu'm yn holi amryw gerddorion galluog am ei ymddygiad nos Lun y Pasg, a thystiant oll mai anwiredd maleisus a ysgrifennodd y gwawdiwr “I. Ap O." Os oedd yr ysgrifennydd yn canfod yn y dyn ieuainc ryw ystumiau anwireddus, onid ei ddylcdswydd oedd dyweyd wrtho yn gyfrinachol a charedig yn hytrach na'i enllibio ar goedd miloedd. Edryched ar ei ymddygiad yn ngwyneb y ffeithiau canlynol. Gwahoddwyd y gwahanol gorau i ymgystadlu gan gyfeillion Bethel, a hynny er mwyn elw iddynt eu hunain. 'Derbyniodd corau Llanllyfni a Soar y gwahoddiad yn garedig, a llafuriasant yn egnïol, nid yn unig er mwyn y wobr. ond hefyd er mwvn cefnogaeth i gerddoriaeth yn yr ardaloedd yn nghyd, a chynorthwyo côr Bethel yn eu hamcan. Dywedodd y beirniad fod y tri chôr wedi canu yn hynod o dda, ac ni roddodd ddim yn erbyn yr un o'r arweinwyr. Cynghorodd hefyd y tri chôr i ymuno yn un cor at eisteddfod Caernarfon, ond am yr holl garedigrwydd hwn, wele Ioan ap Owen yn ymarllwys enllib a gwawd, gan amcanu, hyd y mae yn ei allu i ddistrywio pob teimlad da, ac i ddigalonni bachgen ieuanc gobeithiol a chrefyddol, yr hwn sydd wedi llafurio yn egnïol i godi cor mewn ardal oedd er's blynyddoedd heb yr un. Os ydyw yr Ioan ap Owen hwn yn ieuanc, cymered gyngor i ochel yn bennaf oll lochesu yn ei fynwes genfigen at ereill. Cofied “mae cenfigen a ladd ei pherchennog.” Os ydyw yn awyddus i dd'od yn llenor cyhoeddus, ofaled am osod nod uwch i'w ysgrifau, ac nid enllibio ereill yn ddiachos, Cymered yn rheol wastad iddo ei hun:-" Fel yr ewyllysioch wneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy.”
  CYSTADLEUAETH GERDDOROL BETHEL, PENYGROES. Foneddigion,-Yn eich rhifyn diweddaf, mae rhyw un a eilw ei hun yn "Ioan ap Owen" yn cymeryd arno roddi hanes y gystadleuaeth uchod. Er nad ydyw ei adroddiad ond byr, mae crafangc waedlyd cenfigen yn brif nodwedd ynddo. Dywed fod côr Llanllyfni dan arweiniad bachgen ieuanc sydd yn debyg o ennill enwogrwydd fel cerddor, ac mai ei brif hynodrwydd ydyw ei ystumiau corphorol yr hyn sydd yn meddu dylanwad mawr ar ei gôr. Diau nad ymddangosodd erioed ymadroddion mwy bustlaidd a gwawdlyd na'r uchod, mae gwenwyn aspiaid o danynt oll. Yr wyf wedi bod yn edrych ar y bachgen ieuanc gobeithiol a enllibir yn arwain ei gôr lawer gwaith, ac ni welais ynddo ddim allan o le, bu'm yn holi amryw gerddorion galluog am ei ymddygiad nos Lun y Pasg, a thystiant oll mai anwiredd maleisus a ysgrifennodd y gwawdiwr “I. Ap O." Os oedd yr ysgrifennydd yn canfod yn y dyn ieuainc ryw ystumiau anwireddus, onid ei ddyledswydd oedd dyweyd wrtho yn gyfrinachol a charedig yn hytrach na'i enllibio ar goedd miloedd. Edryched ar ei ymddygiad yn ngwyneb y ffeithiau canlynol. Gwahoddwyd y gwahanol gorau i ymgystadlu gan gyfeillion Bethel, a hynny er mwyn elw iddynt eu hunain. Derbyniodd corau Llanllyfni a Soar y gwahoddiad yn garedig, a llafuriasant yn egnïol, nid yn unig er mwyn y wobr, ond hefyd er mwvn cefnogaeth i gerddoriaeth yn yr ardaloedd yn nghyd, a chynorthwyo côr Bethel yn eu hamcan. Dywedodd y beirniad fod y tri chôr wedi canu yn hynod o dda, ac ni roddodd ddim yn erbyn yr un o'r arweinwyr. Cynghorodd hefyd y tri chôr i ymuno yn un côr at eisteddfod Caernarfon, ond am yr holl garedigrwydd hwn, wele Ioan ap Owen yn ymarllwys enllib a gwawd, gan amcanu, hyd y mae yn ei allu, i ddistrywio pob teimlad da, ac i ddigalonni bachgen ieuanc gobeithiol a chrefyddol, yr hwn sydd wedi llafurio yn egnïol i godi côr mewn ardal oedd er's blynyddoedd heb yr un. Os ydyw yr Ioan ap Owen hwn yn ieuanc, cymered gyngor i ochel yn bennaf oll lochesu yn ei fynwes genfigen at ereill. Cofied “mae cenfigen a ladd ei pherchennog.” Os ydyw yn awyddus i dd'od yn llenor cyhoeddus, gofaled am osod nod uwch i'w ysgrifau, ac nid enllibio ereill yn ddiachos, Cymered yn rheol wastad iddo ei hun:-" Fel yr ewyllysioch wneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy.”
  Yr eiddoch, Llanllyfni. W. W. JONES.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 19.4.1877, t.7</ref>
  Yr eiddoch, Llanllyfni. W. W. JONES.<ref>''Y Genedl Gymreig'', 19.4.1877, t.7</ref>

Bu’r côr yn canu mewn cyngerdd arall ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]] fis Rhagfyr 1877<ref>''Y Goleuad'', 22.12.1877, t.12</ref> ac mewn sawl cyngerdd ac eisteddfod arall yr adeg honno.
Bu’r côr yn canu mewn cyngerdd arall ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]] fis Rhagfyr 1877<ref>''Y Goleuad'', 22.12.1877, t.12</ref> ac mewn sawl cyngerdd ac eisteddfod arall yr adeg honno.
Mae beirniadaeth a gafodd y côr yng nghystadleuaeth Castell Cricieth yn ystod haf 1879 ar gael, pan oedd y côr yn cystadlu’n aflwyddiannus yn erbyn tri chôr arall:
Mae beirniadaeth a gafodd y côr yng nghystadleuaeth Castell Cricieth yn ystod haf 1879 ar gael, pan wnaeth y côr gystadlu’n aflwyddiannus yn erbyn tri chôr arall:

  Côr Llanllyfni. - Lleisiau da, yn enwedig yr air; y bass yn lled dda, ac yn sefydlog a phenderfynol, fel y dylai yr islais fod. Pob peth yn ymddangos eu bod fel côr yn feistrolgar ar fynegiad (expression), ac wedi eu diwyllio yn dda. Eu cychwyniad yn canu yn rhoddi braw i'r corau eraill. Yr arweinydd yn edrych yn sefydlog, ond yn tynnu gormod o'r lleisiau allan o lawer, fel erbyn iddynt dd'od at y diwedd, yr oedd y côr wedi ei amddifadu o'r nerth ddylasai fod wedi ei gadw at ddiwedd y dernyn. Cafodd y côr hwn gam oblegid ei fod wedi ei yrru i ormodedd, fel y dywedodd y beirniad, a'r amseriad ar y cyfan yn cyflymu.<ref>''Y Dydd'', 1.8.1879, t.9</ref>

Yn sgil eu haflwyddiant, pan gyrhaeddodd y côr yn ôl yng [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes|ngorsaf Pen-y-groes]], roedd aelodau o Gôr Pen-y-groes yn disgwyl amdanynt i ffug-gydymdeimlo gyda’r côr a’i ddirmygu,<ref>''Y Genedl Gymreig'', 14.8.1879, t.7</ref>, cymaint oedd y gystadleuaeth rhwng y ddau gôr. Efallai eu bod wedi mynd yn rhy uchelgeisiol, gan eu bod wedi ennill mewn eisteddfodau mwy lleol, megis [[Eisteddfod Gadeiriol Pen-y-groes]], y flwyddyn honno.<ref>''Y Goleuad'', 19.4.1879, t.10</ref> Eisteddfod Eryri oedd honno, mewn gwirionedd, yn ymweld â Phen-y-groes dros Basg 1879. Roedd Corau Tal-y-sarn a Phen-y-groes yn cystadlu yn erbyn Côr Llanllyfni. Honnodd un oherydd i bapur newydd ''Y Dydd'' fod Côr Llanllyfni'n cael mwy o chwarae teg gan ei bentref na'r ddau gôr arall yn cael gan eu pentrefi hwythau, ond eto bod rhai sych-dduwiol yn erbyn y corau ar unrhyw gyfrif, gan eu bod yn ymarfer ar nos Sul ar gyfer cystadleuaeth. Dyma a ddywaid y llythyrwr am Lanllyfni:
Yn sgil eu haflwyddiant, pan gyrhaeddodd y côr yn ôl yng [[Gorsaf reilffordd Pen-y-groes|ngorsaf Pen-y-groes]], roedd aelodau o Gôr Pen-y-groes yn disgwyl amdanynt i ffug-gydymdeimlo gyda’r côr a’i ddirmygu,<ref>''Y Genedl Gymreig'', 14.8.1879, t.7</ref>, cymaint oedd y gystadleuaeth rhwng y ddau gôr. Efallai eu bod wedi mynd yn rhy uchelgeisiol, gan eu bod wedi ennill mewn eisteddfodau mwy lleol, megis [[Eisteddfod Gadeiriol Pen-y-groes]], y flwyddyn honno.<ref>''Y Goleuad'', 19.4.1879, t.10</ref> Eisteddfod Eryri oedd honno, mewn gwirionedd, yn ymweld â Phen-y-groes dros Basg 1879. Roedd Corau Tal-y-sarn a Phen-y-groes yn cystadlu yn erbyn Côr Llanllyfni. Honnodd un gohebydd i bapur newydd ''Y Dydd'' fod Côr Llanllyfni'n cael mwy o chwarae teg gan ei bentref na'r hyn a gawsai'r ddau gôr arall gan eu pentrefi hwythau, ond bod rhai sych-dduwiol yn erbyn y corau beth bynnag, gan eu bod yn ymarfer ar nos Sul ar gyfer cystadleuaeth. Dyma a ddywed y llythyrwr am Lanllyfni:

  Llanllyfni sydd yn rhoddi mwyaf o chwareu teg i'r côr o ddigon. Y mae y cyfeillion eglwysig yma wedi bod mor garedig (?) a thynu yn ôl y seiat nos Sul er's rhai Sabbathau er rhoddi pob mantais i'r côr i lafurio at yr eisteddfod. Ond nid yw Llanllyfni yn lan oddi wrth elynion cerddoriaeth, na, y mae yma rhai o honynt yn gwrthryfela yn eu herbyn yn enbyd iawn. Codai un o wyr y cotiau duon ar cadach gwyn, ar ei draed yn y gyfeillach eglwysig, gan ocheneidio o eigion ei galon, a dywedai, gan ddyrchafu ei ddwylaw, '0! byddai yn dda genym, pe gwelwn y Pasg wedi pasio eto eleni; dichon y byddai gan y cantorion yma hamdden i feddwl ychydig am fater eu heneidiau, a phethau crefydd ar ol hyny.' Wel dyna hi. Yr eiddoch yn eisteddfodol, EISTEDDFODWR.<ref>''Y Dydd'', 11.4/1879, t.11</ref>  
  Llanllyfni sydd yn rhoddi mwyaf o chwareu teg i'r côr o ddigon. Y mae y cyfeillion eglwysig yma wedi bod mor garedig (?) a thynu yn ôl y seiat nos Sul er's rhai Sabbathau er rhoddi pob mantais i'r côr i lafurio at yr eisteddfod. Ond nid yw Llanllyfni yn lân oddi wrth elynion cerddoriaeth, na, y mae yma rai o honynt yn gwrthryfela yn eu herbyn yn enbyd iawn. Codai un o ŵyr y cotiau duon a'r cadach gwyn, ar ei draed yn y gyfeillach eglwysig, gan ocheneidio o eigion ei galon, a dywedai, gan ddyrchafu ei ddwylaw, '0! byddai yn dda genym, pe gwelwn y Pasg wedi pasio eto eleni; dichon y byddai gan y cantorion yma hamdden i feddwl ychydig am fater eu heneidiau, a phethau crefydd ar ôl hyny.' Wel dyna hi. Yr eiddoch yn eisteddfodol, EISTEDDFODWR.<ref>''Y Dydd'', 11.4/1879, t.11</ref>  

Ychydig a glywir am y côr wedi iddynt ganu mewn cyngerdd yn [[Nebo]] ar ddiwedd 1879, pan oedd un W.D. Jones yn arwain y côr. <ref>''Y Genedl Gymreig'', 4.12.1879</ref> Clywir am aelodau o Gôr Llanllyfni ym 1887<ref>''Y Genedl Gymreig'', 20/4/1887</ref>, a bu’r Côr yn ennill allan o bedwar yng Nghylchwyl Lenyddol a Cherddorol Bethel, Pen-y-groes, dan arweinyddiaeth J.W. Jones.<ref>'' Y Genedl Gymreig'', 2/1/1889</ref>
Ychydig a glywir am y côr wedi iddynt ganu mewn cyngerdd yn [[Nebo]] ar ddiwedd 1879, pan oedd un W.D. Jones yn arwain y côr. <ref>''Y Genedl Gymreig'', 4.12.1879</ref> Clywir am aelodau o Gôr Llanllyfni ym 1887<ref>''Y Genedl Gymreig'', 20/4/1887</ref>, ac enillodd y côr allan o bedwar yng Nghylchwyl Lenyddol a Cherddorol Bethel, Pen-y-groes, dan arweinyddiaeth J.W. Jones.<ref>'' Y Genedl Gymreig'', 2/1/1889</ref>

Cafwyd côr o Lanllyfni lwyddiant mawr yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1894, pan enillent y wobr gyntaf am gorau “cynulleidfaol” o 35-50 o aelodau, dan arweiniad D. Washington Davies, Mus. Bac.<ref>''North Wales Chronicle'', 212/7/1894, t.7</ref> Ysywaeth, mae’n amlwg mai côr [[Capel Salem (MC), Llanllyfni]] oedd y côr hwnnw.<ref>''Bye-gones'', Gorffennaf 1894, t.16</ref> Mae’n bosibl mai côr capel oedd y côr a elwid yn Gôr Llanllyfni ar adegau eraill, ond nid oes sicrwydd o hynny i’w gael.
Cafodd côr o Lanllyfni, dan arweiniad D. Washington Davies, Mus.Bac, lwyddiant mawr yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1894, pan enillasant y wobr gyntaf i gorau “cynulleidfaol” o 35-50 o aelodau.<ref>''North Wales Chronicle'', 212/7/1894, t.7</ref> Ysywaeth, mae’n amlwg mai côr [[Capel Salem (MC), Llanllyfni]] oedd y côr hwnnw.<ref>''Bye-gones'', Gorffennaf 1894, t.16</ref> Mae’n bosibl mai côr capel oedd y côr a elwid yn Gôr Llanllyfni ar adegau eraill, ond nid oes sicrwydd o hynny i’w gael.

Ni chafwyd hyd i gyfeiriad ar ôl hynny hyd nes 1910, pan fu’r côr yn fuddugol mewn cystadleuaeth ym [[Brynaerau|Mrynaerau]].<ref>''Herald Cymraeg'', 4/1/1910, t.6</ref>. Ar ddiwedd 1914, roedd y côr yn canu ym [[Plygain Llanllyfni|Mlygain Llanllyfni]].<ref>''Y Llan'', 1/1/1915, t.3</ref>. Y sôn olaf a ddaeth i’r fei oedd cyfeiriad at William D. Roberts fel arweinydd y côr ym mis Ebrill 1915.<ref>''Y Genedl'', 6/4/1915, t.7</ref>
Ni chafwyd hyd i gyfeiriad ar ôl hynny tan 1910, pan fu’r côr yn fuddugol mewn cystadleuaeth ym [[Brynaerau|Mrynaerau]].<ref>''Herald Cymraeg'', 4/1/1910, t.6</ref>. Ar ddiwedd 1914, roedd y côr yn canu ym [[Plygain Llanllyfni|Mhlygain Llanllyfni]].<ref>''Y Llan'', 1/1/1915, t.3</ref>. Y wybodaeth olaf a ddaeth i’r fei oedd cyfeiriad at William D. Roberts fel arweinydd y côr ym mis Ebrill 1915.<ref>''Y Genedl'', 6/4/1915, t.7</ref>

Yng ngoleuni’r ffaith fod papurau lleol yr oes yn cynnwys manylion am bob cyngerdd ac eisteddfod, mae’n bur debyg mai côr oedd â bodolaeth ysbeidiol oedd Côr Llanllyfni, yn weithgar tua 1877-9, 1887-9 a 1910-15.
Yng ngoleuni’r ffaith fod papurau lleol yr oes yn cynnwys manylion am bob cyngerdd ac eisteddfod, mae’n bur debyg mai côr a oedd mewn bodolaeth am gyfnodau ysbeidiol oedd Côr Llanllyfni, yn weithgar tua 1877-9, 1887-9 a 1910-15.

==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 08:45, 6 Medi 2023

Ychydig iawn sy’n hysbys am Gôr Llanllyfni, côr meibion a sefydlwyd tua chanol yr 1870au, er ei fod wedi parhau (yn ysbeidiol beth bynnag) am ddeugain mlynedd a mwy. Yn ystod y 1870au, Hugh R. Owen (Tenorydd Llyfnwy) oedd yr arweinydd ac mae’n bosibl iawn mai ef oedd sefydlydd y côr. Y cyfeiriad cyntaf at y côr a geir yn y wasg oedd yn ystod mis Ebrill 1877, pryd y bu’n cymryd rhan mewn cyngerdd er budd Capel Bethel (MC), Pen-y-groes. Cafodd yr arweinydd (sef Tenorydd Llyfnwy) ei feirniadu yn y wasg am ei ystumiau corfforol wrth arwain; mae llythyr yn Y Genedl Gymreig, sydd yn ei amddiffyn, yn werth ei ddyfynnu oherwydd yr iaith eithafol a ddefnyddiwyd ar y ddwy ochr:

CYSTADLEUAETH GERDDOROL BETHEL, PENYGROES. Foneddigion,-Yn eich rhifyn diweddaf, mae rhyw un a eilw ei hun yn "Ioan ap Owen" yn cymeryd arno roddi hanes y gystadleuaeth uchod. Er nad ydyw ei adroddiad ond byr, mae crafangc waedlyd cenfigen yn brif nodwedd ynddo. Dywed fod côr Llanllyfni dan arweiniad bachgen ieuanc sydd yn debyg o ennill enwogrwydd fel cerddor, ac mai ei brif hynodrwydd ydyw ei ystumiau corphorol yr hyn sydd yn meddu dylanwad mawr ar ei gôr. Diau nad ymddangosodd erioed ymadroddion mwy bustlaidd a gwawdlyd na'r uchod, mae gwenwyn aspiaid o danynt oll. Yr wyf wedi bod yn edrych ar y bachgen ieuanc gobeithiol a enllibir yn arwain ei gôr lawer gwaith, ac ni welais ynddo ddim allan o le, bu'm yn holi amryw gerddorion galluog am ei ymddygiad nos Lun y Pasg, a thystiant oll mai anwiredd maleisus a ysgrifennodd y gwawdiwr “I. Ap O." Os oedd yr ysgrifennydd yn canfod yn y dyn ieuainc ryw ystumiau anwireddus, onid ei ddyledswydd oedd dyweyd wrtho yn gyfrinachol a charedig yn hytrach na'i enllibio ar goedd miloedd. Edryched ar ei ymddygiad yn ngwyneb y ffeithiau canlynol. Gwahoddwyd y gwahanol gorau i ymgystadlu gan gyfeillion Bethel, a hynny er mwyn elw iddynt eu hunain. Derbyniodd corau Llanllyfni a Soar y gwahoddiad yn garedig, a llafuriasant yn egnïol, nid yn unig er mwyn y wobr, ond hefyd er mwvn cefnogaeth i gerddoriaeth yn yr ardaloedd yn nghyd, a chynorthwyo côr Bethel yn eu hamcan. Dywedodd y beirniad fod y tri chôr wedi canu yn hynod o dda, ac ni roddodd ddim yn erbyn yr un o'r arweinwyr. Cynghorodd hefyd y tri chôr i ymuno yn un côr at eisteddfod Caernarfon, ond am yr holl garedigrwydd hwn, wele Ioan ap Owen yn ymarllwys enllib a gwawd, gan amcanu, hyd y mae yn ei allu, i ddistrywio pob teimlad da, ac i ddigalonni bachgen ieuanc gobeithiol a chrefyddol, yr hwn sydd wedi llafurio yn egnïol i godi côr mewn ardal oedd er's blynyddoedd heb yr un. Os ydyw yr Ioan ap Owen hwn yn ieuanc, cymered gyngor i ochel yn bennaf oll lochesu yn ei fynwes genfigen at ereill. Cofied “mae cenfigen a ladd ei pherchennog.” Os ydyw yn awyddus i dd'od yn llenor cyhoeddus, gofaled am osod nod uwch i'w ysgrifau, ac nid enllibio ereill yn ddiachos, Cymered yn rheol wastad iddo ei hun:-" Fel yr ewyllysioch wneuthur o ddynion i chwi, felly gwnewch chwithau iddynt hwy.”
Yr eiddoch, Llanllyfni. W. W. JONES.[1]

Bu’r côr yn canu mewn cyngerdd arall ym Mhen-y-groes fis Rhagfyr 1877[2] ac mewn sawl cyngerdd ac eisteddfod arall yr adeg honno. Mae beirniadaeth a gafodd y côr yng nghystadleuaeth Castell Cricieth yn ystod haf 1879 ar gael, pan wnaeth y côr gystadlu’n aflwyddiannus yn erbyn tri chôr arall:

Côr Llanllyfni. - Lleisiau da, yn enwedig yr air; y bass yn lled dda, ac yn sefydlog a phenderfynol, fel y dylai yr islais fod. Pob peth yn ymddangos eu bod fel côr yn feistrolgar ar fynegiad (expression), ac wedi eu diwyllio yn dda. Eu cychwyniad yn canu yn rhoddi braw i'r corau eraill. Yr arweinydd yn edrych yn sefydlog, ond yn tynnu gormod o'r lleisiau allan o lawer, fel erbyn iddynt dd'od at y diwedd, yr oedd y côr wedi ei amddifadu o'r nerth ddylasai fod wedi ei gadw at ddiwedd y dernyn. Cafodd y côr hwn gam oblegid ei fod wedi ei yrru i ormodedd, fel y dywedodd y beirniad, a'r amseriad ar y cyfan yn cyflymu.[3]

Yn sgil eu haflwyddiant, pan gyrhaeddodd y côr yn ôl yng ngorsaf Pen-y-groes, roedd aelodau o Gôr Pen-y-groes yn disgwyl amdanynt i ffug-gydymdeimlo gyda’r côr a’i ddirmygu,[4], cymaint oedd y gystadleuaeth rhwng y ddau gôr. Efallai eu bod wedi mynd yn rhy uchelgeisiol, gan eu bod wedi ennill mewn eisteddfodau mwy lleol, megis Eisteddfod Gadeiriol Pen-y-groes, y flwyddyn honno.[5] Eisteddfod Eryri oedd honno, mewn gwirionedd, yn ymweld â Phen-y-groes dros Basg 1879. Roedd Corau Tal-y-sarn a Phen-y-groes yn cystadlu yn erbyn Côr Llanllyfni. Honnodd un gohebydd i bapur newydd Y Dydd fod Côr Llanllyfni'n cael mwy o chwarae teg gan ei bentref na'r hyn a gawsai'r ddau gôr arall gan eu pentrefi hwythau, ond bod rhai sych-dduwiol yn erbyn y corau beth bynnag, gan eu bod yn ymarfer ar nos Sul ar gyfer cystadleuaeth. Dyma a ddywed y llythyrwr am Lanllyfni:

Llanllyfni sydd yn rhoddi mwyaf o chwareu teg i'r côr o ddigon. Y mae y cyfeillion eglwysig yma wedi bod mor garedig (?) a thynu yn ôl y seiat nos Sul er's rhai Sabbathau er rhoddi pob mantais i'r côr i lafurio at yr eisteddfod. Ond nid yw Llanllyfni yn lân oddi wrth elynion cerddoriaeth, na, y mae yma rai o honynt yn gwrthryfela yn eu herbyn yn enbyd iawn. Codai un o ŵyr y cotiau duon a'r cadach gwyn, ar ei draed yn y gyfeillach eglwysig, gan ocheneidio o eigion ei galon, a dywedai, gan ddyrchafu ei ddwylaw, '0! byddai yn dda genym, pe gwelwn y Pasg wedi pasio eto eleni; dichon y byddai gan y cantorion yma hamdden i feddwl ychydig am fater eu heneidiau, a phethau crefydd ar ôl hyny.' Wel dyna hi. Yr eiddoch yn eisteddfodol, EISTEDDFODWR.[6] 

Ychydig a glywir am y côr wedi iddynt ganu mewn cyngerdd yn Nebo ar ddiwedd 1879, pan oedd un W.D. Jones yn arwain y côr. [7] Clywir am aelodau o Gôr Llanllyfni ym 1887[8], ac enillodd y côr allan o bedwar yng Nghylchwyl Lenyddol a Cherddorol Bethel, Pen-y-groes, dan arweinyddiaeth J.W. Jones.[9]

Cafodd côr o Lanllyfni, dan arweiniad D. Washington Davies, Mus.Bac, lwyddiant mawr yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1894, pan enillasant y wobr gyntaf i gorau “cynulleidfaol” o 35-50 o aelodau.[10] Ysywaeth, mae’n amlwg mai côr Capel Salem (MC), Llanllyfni oedd y côr hwnnw.[11] Mae’n bosibl mai côr capel oedd y côr a elwid yn Gôr Llanllyfni ar adegau eraill, ond nid oes sicrwydd o hynny i’w gael.

Ni chafwyd hyd i gyfeiriad ar ôl hynny tan 1910, pan fu’r côr yn fuddugol mewn cystadleuaeth ym Mrynaerau.[12]. Ar ddiwedd 1914, roedd y côr yn canu ym Mhlygain Llanllyfni.[13]. Y wybodaeth olaf a ddaeth i’r fei oedd cyfeiriad at William D. Roberts fel arweinydd y côr ym mis Ebrill 1915.[14]

Yng ngoleuni’r ffaith fod papurau lleol yr oes yn cynnwys manylion am bob cyngerdd ac eisteddfod, mae’n bur debyg mai côr a oedd mewn bodolaeth am gyfnodau ysbeidiol oedd Côr Llanllyfni, yn weithgar tua 1877-9, 1887-9 a 1910-15.

Cyfeiriadau

  1. Y Genedl Gymreig, 19.4.1877, t.7
  2. Y Goleuad, 22.12.1877, t.12
  3. Y Dydd, 1.8.1879, t.9
  4. Y Genedl Gymreig, 14.8.1879, t.7
  5. Y Goleuad, 19.4.1879, t.10
  6. Y Dydd, 11.4/1879, t.11
  7. Y Genedl Gymreig, 4.12.1879
  8. Y Genedl Gymreig, 20/4/1887
  9. Y Genedl Gymreig, 2/1/1889
  10. North Wales Chronicle, 212/7/1894, t.7
  11. Bye-gones, Gorffennaf 1894, t.16
  12. Herald Cymraeg, 4/1/1910, t.6
  13. Y Llan, 1/1/1915, t.3
  14. Y Genedl, 6/4/1915, t.7