Robert Owen (Eryron Gwyllt Walia): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Robert Owen''' (1803-1870) (a gymerodd yr enw barddol urddasol Eryron Gwyllt Walia) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd a phaentiwr o ran ei grefft. | Roedd '''Robert Owen''' (1803-1870) (a gymerodd yr enw barddol urddasol Eryron Gwyllt Walia) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd a phaentiwr o ran ei grefft. | ||
Fei ganed 3 Ebrill 1803, yn fferm Ffridd | Fei ganed 3 Ebrill 1803, yn fferm [[Ffridd Baladeulyn]], rhyw filltir i'r gogledd o [[Tal-y-sarn|Dal-y-sarn]] yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]]. Roedd yn fab i Griffith Owen, brodor o'r Waunfawr, ac Anne Owen, gynt Roberts, merch y Ffridd a chwaer y pregethwyr [[Robert Roberts, Clynnog Fawr]], a [[John Roberts, Llangwm]]. Symudodd y teulu i Gaernarfon pan oedd Robert yn blentyn bach ac yno y cafodd ei fagu. Derbyniodd addysg well na'r cyffredin yn ysgol y Parch. [[Evan Richardson]] yn y dref, ac wedyn fe'i prentisiwyd yn baentiwr. Er iddo ddechrau pregethu, a chael ei ordeinio i'r weinidogaeth yn ddiweddarach, bu'n gweithio fel paentiwr ar hyd ei oes bron. Yn llanc yng Nghaernarfon profodd ddylanwad 'Diwygiad Beddgelert' (1817-8) - un o ddiwygiadau grymusaf yr 19g - a gwnaeth John Elias argraff ddofn ar ei feddwl. Tua'r un amser dechreuodd ymddiddori mewn llenyddiaeth; bu'n cymdeithasu â rhai o feirdd yr ardal a chafodd gyfarwyddyd a chefnogaeth gan y prifardd 'Dewi Wyn o Eifion' (David Owen 1784-1841). Yn 21 oed (tua diwedd mis Ebrill 1824) aeth i Lundain. Ymaelododd yng nghapel Jewin Crescent a daeth i'r amlwg fel athro yn yr ysgol Sul ac wedyn fel arolygwr. Ym 1832 priododd ag Ellen Owen; roedd hi'n chwaer i wraig [[Griffith Davies]] FRS, y mathemategydd ac actiwari nodedig, ac roedd tipyn o ymwneud rhwng y ddau deulu yn Llundain. Ordeiniwyd Robert Owen i waith y weinidogaeth yng Nghymdeithasfa Treffynnon ym 1859. Roedd yn enwog, meddir, am ei anerchiadau. Ei hynodrwydd oedd ei wybodaeth drylwyr o'r Beibl a'i allu i'w chymhwyso at wahanol achlysuron, a hefyd ei ddiddordeb yn niwinyddiaeth y Piwritaniaid. Cyfansoddodd lawer o farddoniaeth yn y mesurau caeth a rhydd, y rhan fwyaf o natur grefyddol. Am beth amser bu'n gyndyn iawn o fynd i berthyn i Gymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain oherwydd ei hawyrgylch anghrefyddol; ond ym 1833 ef oedd ei 'bardd' swyddogol. Am yr un rheswm nid âi i eisteddfodau er ei fod yn cystadlu ynddynt weithiau. Bu farw 22 Awst 1870.<ref>Seiliwyd ar erthygl yn ''Y Bywgraffiadur Cymreig'' ar-lein; cyrchwyd 23/06/2023.</ref> | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Gweinidogion]] | |||
[[Categori:Artistiaid]] | |||
[[Categori:Beirdd]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 12:16, 23 Mehefin 2023
Roedd Robert Owen (1803-1870) (a gymerodd yr enw barddol urddasol Eryron Gwyllt Walia) yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, bardd a phaentiwr o ran ei grefft.
Fei ganed 3 Ebrill 1803, yn fferm Ffridd Baladeulyn, rhyw filltir i'r gogledd o Dal-y-sarn yn Nyffryn Nantlle. Roedd yn fab i Griffith Owen, brodor o'r Waunfawr, ac Anne Owen, gynt Roberts, merch y Ffridd a chwaer y pregethwyr Robert Roberts, Clynnog Fawr, a John Roberts, Llangwm. Symudodd y teulu i Gaernarfon pan oedd Robert yn blentyn bach ac yno y cafodd ei fagu. Derbyniodd addysg well na'r cyffredin yn ysgol y Parch. Evan Richardson yn y dref, ac wedyn fe'i prentisiwyd yn baentiwr. Er iddo ddechrau pregethu, a chael ei ordeinio i'r weinidogaeth yn ddiweddarach, bu'n gweithio fel paentiwr ar hyd ei oes bron. Yn llanc yng Nghaernarfon profodd ddylanwad 'Diwygiad Beddgelert' (1817-8) - un o ddiwygiadau grymusaf yr 19g - a gwnaeth John Elias argraff ddofn ar ei feddwl. Tua'r un amser dechreuodd ymddiddori mewn llenyddiaeth; bu'n cymdeithasu â rhai o feirdd yr ardal a chafodd gyfarwyddyd a chefnogaeth gan y prifardd 'Dewi Wyn o Eifion' (David Owen 1784-1841). Yn 21 oed (tua diwedd mis Ebrill 1824) aeth i Lundain. Ymaelododd yng nghapel Jewin Crescent a daeth i'r amlwg fel athro yn yr ysgol Sul ac wedyn fel arolygwr. Ym 1832 priododd ag Ellen Owen; roedd hi'n chwaer i wraig Griffith Davies FRS, y mathemategydd ac actiwari nodedig, ac roedd tipyn o ymwneud rhwng y ddau deulu yn Llundain. Ordeiniwyd Robert Owen i waith y weinidogaeth yng Nghymdeithasfa Treffynnon ym 1859. Roedd yn enwog, meddir, am ei anerchiadau. Ei hynodrwydd oedd ei wybodaeth drylwyr o'r Beibl a'i allu i'w chymhwyso at wahanol achlysuron, a hefyd ei ddiddordeb yn niwinyddiaeth y Piwritaniaid. Cyfansoddodd lawer o farddoniaeth yn y mesurau caeth a rhydd, y rhan fwyaf o natur grefyddol. Am beth amser bu'n gyndyn iawn o fynd i berthyn i Gymdeithas y Gwyneddigion yn Llundain oherwydd ei hawyrgylch anghrefyddol; ond ym 1833 ef oedd ei 'bardd' swyddogol. Am yr un rheswm nid âi i eisteddfodau er ei fod yn cystadlu ynddynt weithiau. Bu farw 22 Awst 1870.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Seiliwyd ar erthygl yn Y Bywgraffiadur Cymreig ar-lein; cyrchwyd 23/06/2023.