Tyrpeg Clynnog Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Tyrpeg Clynnog Fawr''' yn un o nifer o giatiau a thai tyrpeg a godwyd ar ochr y briffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Roedd hon yn ffordd a sefydlwyd gan Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon, a ffurfiwyd drwy ddeddf seneddol ym 1768.  
Roedd '''Tyrpeg Clynnog Fawr''' yn un o nifer o giatiau a thai tyrpeg a godwyd ar ochr y briffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Roedd hon yn ffordd a sefydlwyd gan [[Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon]], a ffurfiwyd drwy ddeddf seneddol ym 1768.  


Yn wahanol iawn i sawl tŷ tyrpeg a fu ar y ffordd honno, mae tŷ tyrpeg Clynnog yn dal ar ei draed ac mewn cyflwr rhagorol a rhywun yn byw ynddo. O edrych ar ei gynllun mae'n amlwg mai tŷ tyrpeg ydoedd. Saif ar ochr chwith y ffordd wrth ddod i mewn i bentref Clynnog o gyfeiriad Caernarfon. Mae dros y ffordd i'r hen efail a ger y gyffordd, lle troir i'r chwith i fyny am Gapel Uchaf. Roedd mewn safle da, felly, nid yn unig i godi tâl ar deithwyr, cerbydau ac anifeiliaid a ddeuai ar hyd y briffordd o Gaernarfon neu Bwllheli, ond hefyd y rhai a oedd yn ymuno â'r briffordd o gyfeiriad Capel Uchaf ac ardal Tai'n Lôn. Ym 1832 casglwyd £74 gan geidwad tyrpeg Clynnog. Roedd hyn dipyn mwy na'r £54 a gasglwyd wrth dyrpeg Llanaelhaearn ym 1824, ond yn sylweddol is na'r £168 a gasglwyd wrth dyrpeg Pont Saint, y tu allan i Gaernarfon, ym 1832. Y giât honno oedd un o'r rhai prysuraf ar y briffordd.<sup>[1]</sup>  
Yn wahanol iawn i sawl tŷ tyrpeg a fu ar y ffordd honno, mae tŷ tyrpeg [[Clynnog Fawr|Clynnog]] yn dal ar ei draed ac mewn cyflwr rhagorol a rhywun yn byw ynddo. O edrych ar ei gynllun mae'n amlwg mai tŷ tyrpeg ydoedd. Saif ar ochr chwith y ffordd wrth ddod i mewn i bentref Clynnog o gyfeiriad Caernarfon. Mae dros y ffordd i'r hen efail a ger y gyffordd, lle troir i'r chwith i fyny am [[Capel Uchaf|Gapel Uchaf]]. Roedd mewn safle da, felly, nid yn unig i godi tâl ar deithwyr, cerbydau ac anifeiliaid a ddeuai ar hyd y briffordd o Gaernarfon neu Bwllheli, ond hefyd y rhai a oedd yn ymuno â'r briffordd o gyfeiriad Capel Uchaf ac ardal [[Tai'n Lôn]]. Ym 1832 casglwyd £74 gan geidwad tyrpeg Clynnog. Roedd hyn dipyn mwy na'r £54 a gasglwyd wrth [[Tyrpaig Llanaelhaearn|dyrpeg Llanaelhaearn]] ym 1824, ond yn sylweddol is na'r £168 a gasglwyd wrth dyrpeg Pont Saint, y tu allan i Gaernarfon, ym 1832. Y giât honno oedd un o'r rhai prysuraf ar y briffordd.<ref>Geraint Jones, ''Moto Coch, Moto Ni'', (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 2012), t.11.</ref>  


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


1. Geraint Jones, ''Moto Coch, Moto Ni'', (Gwasg Carreg Gwalch, 2012), t.11.
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]]
[[Categori:Ffyrdd]]
[[Categori:Anheddau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:04, 26 Rhagfyr 2022

Roedd Tyrpeg Clynnog Fawr yn un o nifer o giatiau a thai tyrpeg a godwyd ar ochr y briffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Roedd hon yn ffordd a sefydlwyd gan Ymddiriedolaeth Dyrpeg Sir Gaernarfon, a ffurfiwyd drwy ddeddf seneddol ym 1768.

Yn wahanol iawn i sawl tŷ tyrpeg a fu ar y ffordd honno, mae tŷ tyrpeg Clynnog yn dal ar ei draed ac mewn cyflwr rhagorol a rhywun yn byw ynddo. O edrych ar ei gynllun mae'n amlwg mai tŷ tyrpeg ydoedd. Saif ar ochr chwith y ffordd wrth ddod i mewn i bentref Clynnog o gyfeiriad Caernarfon. Mae dros y ffordd i'r hen efail a ger y gyffordd, lle troir i'r chwith i fyny am Gapel Uchaf. Roedd mewn safle da, felly, nid yn unig i godi tâl ar deithwyr, cerbydau ac anifeiliaid a ddeuai ar hyd y briffordd o Gaernarfon neu Bwllheli, ond hefyd y rhai a oedd yn ymuno â'r briffordd o gyfeiriad Capel Uchaf ac ardal Tai'n Lôn. Ym 1832 casglwyd £74 gan geidwad tyrpeg Clynnog. Roedd hyn dipyn mwy na'r £54 a gasglwyd wrth dyrpeg Llanaelhaearn ym 1824, ond yn sylweddol is na'r £168 a gasglwyd wrth dyrpeg Pont Saint, y tu allan i Gaernarfon, ym 1832. Y giât honno oedd un o'r rhai prysuraf ar y briffordd.[1]

Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, Moto Coch, Moto Ni, (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 2012), t.11.