Seindorf Arian Dyffryn Nantlle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Sefydlwyd '''Seindorf Arian Dyffryn Nantlle''' ym 1865 o dan yr enw ''Band Penyrorsedd'', ond yn fuan daeth i gael ei alw'n "Band Nantlle"". Ym 1894 chwar...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Sefydlwyd '''Seindorf Arian Dyffryn Nantlle''' ym 1865 o dan yr enw ''Band Penyrorsedd'', ond yn fuan daeth i gael ei alw'n "Band Nantlle"". Ym 1894 chwaraeodd Band Nantlle o flaen Tywysog a Thywysoges Cymru yn ystod eu hymweliad i'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon. Am flynyddoedd maith wedi hynny, fe'i hadwaeid fel "Seindorf Arian Frenhinol Dyffryn Nantlle'".
Sefydlwyd '''Seindorf Arian Dyffryn Nantlle''' ym 1865 o dan yr enw "Band Penyrorsedd", ond yn fuan daeth i gael ei alw'n "Band Nantlle". Cafwyd yr enw gwreiddiol oherwydd i [[W.A. Darbishire]], perchennog [[Chwarel Pen-yr-orsedd]] brynu'r offerynnau cyntaf i'r band.<ref>Geraint Jones, ''Cyrn y Diafol'' (Caernarfon, 2004), t.32</ref> Rywbryd tua 1887-1888 newidwyd offerynnau pres y band am rai arian, gan newid yr enw a oedd erbyn hynny'n "Band Pres Dyffryn Nantlle" i "Fand Arian Dyffryn Nantlle".<ref>''Y Genedl Gymreig'', 13.6.1888, t.8</ref> Erbyn hynny, roedd y band ymysg bandiau gorau Cymru, ond daliai i ymarfer mewn hen ysgubor ar y llethrau rhwng pentrefi [[Tal-y-sarn]] a [[Nantlle]]. Cafwyd cwynion nad oedd y lle hwnnw'n deilwng o safon y band nac yn caniatáu ei godi i safon uwch eto. Am sbel wedyn bu'r band yn ymarfer yn Ystafell ymgynnull Tal-y-sarn (yr ''Assembly Rooms'') ond ym 1897 agorwyd yr adeilad pwrpasol yn Nhal-y-sarn sydd yn dal yn gartref i'r band.<ref>Geraint Jones, ''Cyrn y Diafol'' (Caernarfon, 2004), tt.89-90</ref>


Roedd y band, fel rhai o fandiau eraill [[Dyffryn Nantlle]] yn perfformio mewn pob math o gyfarfodydd a chyngherddau yn y dyffryn a thu hwnt, ac yn ymgeisio mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Teithiodd y band mor bell  a De Cymru sawl gwaith i gystadlu yn erbyn bandiau gorau'r genedl.
Er bod y band yn cael ei arwain fel arfer gan rai lleol gyda sgiliau cerddorol, byddai'r band yn cyflogi hyfforddwyr proffesiynol ar adegau, yn arbennig wrth iddynt ymarfer ar gyfer cystadlaethau pwysig megis yr Eiasteddfod Genedlaethol. Er enghraifft, yn ystod y 1870-90au, cyflogwyd [[John Hartmann]], cyfansoddwr ac arweinydd bandiau enwog o Lundain, ac wedyn Lerpwl, i hyfforddi aelodau'r band. Ym 1888, er enghraifft, arweiniodd Hartmann Fand Nantlle mewn perfformiad ar bîr Llandudno yn ystod y ffair Fenisaidd a gynhaliwyd ym mis Medi'r flwyddyn honno.<ref>''Caernarvon and Denbigh Herald'', 31.8.1888, t.6</ref>


Y mae o'n arferiad ers pan ydw i'n cofio yn y Dyffryn, i'r band (Nantlle Vale Silver Band), ddwad i orymdeithio a chanu bob nos Calan, a mawr fydd yr helynt gan fawr a bach wrth ei gwrando. Eleni, buont yn canu mewn Watchnight ym Mhenygroes, a gynhelid gan y Wesleaid, ac wedi hynny, can- asant hyd y strydoedd, ac amryw o las- lancia yn cario ffagla, iddyn nhw weld y miwsig. Mi rodd hi fel canol dydd ym Mhenygroes a'r Nant nos Wener, a hogia Nahlla yn croesawu'r flwyddyn newydd gan i bedyddio hi efo miwsig swynol, nes oedd hen greigiau'r Silyn 'ma a gwaelod y Nant yn diaspedain. Ymhen arall y Dyffryn, 'roedd Seindorf Deulyn a'u holl egni yn gwneud yr un peth. Pwy fel hogia'r chwareli am fiwsig mewn rhyw ffurf neu gilydd, ynte ?
Ym 1894 chwaraeodd Band Nantlle o flaen Tywysog a Thywysoges Cymru yn ystod eu hymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon. Am flynyddoedd maith wedi hynny, fe'i hadwaeid fel "Seindorf Arian ''Frenhinol'' Dyffryn Nantlle'".


Roedd yn un o'r bandiau pres cyntaf i gael ystafell bwrpasol wedi ei adeiladu yn arbennig ar eu cyfer, a hynny yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]]. Diddorol yw sylwi ar ffurf yr adeilad: er ei fod wedi ei godi'n bwrpasol at ddefnydd band, mae'n ymdebygu i gapel. Yn Nhalysarn mae'r band yn ymarfer hyd heddiw.<ref>Gwefan Nantlle.com, [http://www.nantlle.com/band-dyffryn-nantlle-cymraeg.htm], cyrchwyd 25..11.2022</ref>
Roedd y band, fel rhai o fandiau eraill [[Dyffryn Nantlle]], yn perfformio mewn pob math o gyfarfodydd a chyngherddau yn y dyffryn a thu hwnt, ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Teithiodd y band sawl gwaith mor bell â De Cymru i gystadlu yn erbyn bandiau gorau'r genedl. Ym 1899 cafwyd un o'i lwyddiannau mwyaf wrth ennill yng nghystadleuaeth y bandiau pres yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.<ref>''South Wales Daily News'', 24.7.1899, t.4</ref>


Erbyn heddiw, nid oes ond y band hwn a Seindorf Trefor ar ól o nifer helaeth o fandiau pres a fu wrthi yn ystod y 19g.
Ceir darlun o un o'i ddigwyddiadau mwyaf poblogadd yn ''Y Brython'' mewn erthygl ddyddiedig Ionawr 1910 gan ddynes ddi-enw:
Y mae o'n arferiad ers pan ydw i'n cofio yn y Dyffryn, i'r band (Nantlle Vale Silver Band), ddwad i orymdeithio a chanu bob nos Calan, a mawr fydd yr helynt gan fawr a bach wrth ei gwrando. Eleni, buont yn canu mewn Watchnight ym [[Pen-y-groes|Mhenygroes]], a gynhelid gan y Wesleaid, ac wedi hynny, canasant hyd y strydoedd, ac amryw o laslancia yn cario ffagla, iddyn nhw weld y miwsig. Mi rodd hi fel canol dydd ym Mhenygroes a'r Nant nos Wener, a hogia Nanlla yn croesawu'r flwyddyn newydd gan i bedyddio hi efo miwsig swynol, nes oedd hen greigiau'r Silyn 'ma a gwaelod y Nant yn diaspedain. Ymhen arall y Dyffryn, 'roedd [[Band Deulyn||Seindorf Deulyn]] a'u holl egni yn gwneud yr un peth. Pwy fel hogia'r chwareli am fiwsig mewn rhyw ffurf neu gilydd, ynte?<ref>''Y Brython Cymreig'', 6.1.1910, t.5</ref>
 
Arweinydd y band am bump ar hugain o flynyddoedd oedd [[Tom Sarah]], ac ef a gododd y band i'w safle uchel ymysg bandiau Cymru. Ymysg aelodau'r band ar ddechrau'r 20g. oedd ei fab [[John Sarah (Pencerdd Cernyw)]], a aeth ymlaen i fod yn arweinydd [[Band Moeltryfan]].
 
Roedd Band Arian Dyffryn Nantlle yn un o'r bandiau pres cyntaf i gael ystafell bwrpasol wedi ei adeiladu yn arbennig ar eu cyfer, a hynny yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]]. Diddorol yw sylwi ar ffurf yr adeilad: er ei fod wedi ei godi'n bwrpasol at ddefnydd band, mae'n ymdebygu i gapel. Yn Nhal-y-sarn mae'r band yn ymarfer hyd heddiw.<ref>Gwefan Nantlle.com, [http://www.nantlle.com/band-dyffryn-nantlle-cymraeg.htm], cyrchwyd 25..11.2022</ref>
 
Erbyn heddiw, nid oes ond y band hwn a [[Seindorf Trefor]] ar ôl o'r nifer helaeth o fandiau pres a fu wrthi yn ystod y 19g.


{[eginyn}}
{[eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:26, 28 Tachwedd 2022

Sefydlwyd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle ym 1865 o dan yr enw "Band Penyrorsedd", ond yn fuan daeth i gael ei alw'n "Band Nantlle". Cafwyd yr enw gwreiddiol oherwydd i W.A. Darbishire, perchennog Chwarel Pen-yr-orsedd brynu'r offerynnau cyntaf i'r band.[1] Rywbryd tua 1887-1888 newidwyd offerynnau pres y band am rai arian, gan newid yr enw a oedd erbyn hynny'n "Band Pres Dyffryn Nantlle" i "Fand Arian Dyffryn Nantlle".[2] Erbyn hynny, roedd y band ymysg bandiau gorau Cymru, ond daliai i ymarfer mewn hen ysgubor ar y llethrau rhwng pentrefi Tal-y-sarn a Nantlle. Cafwyd cwynion nad oedd y lle hwnnw'n deilwng o safon y band nac yn caniatáu ei godi i safon uwch eto. Am sbel wedyn bu'r band yn ymarfer yn Ystafell ymgynnull Tal-y-sarn (yr Assembly Rooms) ond ym 1897 agorwyd yr adeilad pwrpasol yn Nhal-y-sarn sydd yn dal yn gartref i'r band.[3]

Er bod y band yn cael ei arwain fel arfer gan rai lleol gyda sgiliau cerddorol, byddai'r band yn cyflogi hyfforddwyr proffesiynol ar adegau, yn arbennig wrth iddynt ymarfer ar gyfer cystadlaethau pwysig megis yr Eiasteddfod Genedlaethol. Er enghraifft, yn ystod y 1870-90au, cyflogwyd John Hartmann, cyfansoddwr ac arweinydd bandiau enwog o Lundain, ac wedyn Lerpwl, i hyfforddi aelodau'r band. Ym 1888, er enghraifft, arweiniodd Hartmann Fand Nantlle mewn perfformiad ar bîr Llandudno yn ystod y ffair Fenisaidd a gynhaliwyd ym mis Medi'r flwyddyn honno.[4]

Ym 1894 chwaraeodd Band Nantlle o flaen Tywysog a Thywysoges Cymru yn ystod eu hymweliad â'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon. Am flynyddoedd maith wedi hynny, fe'i hadwaeid fel "Seindorf Arian Frenhinol Dyffryn Nantlle'".

Roedd y band, fel rhai o fandiau eraill Dyffryn Nantlle, yn perfformio mewn pob math o gyfarfodydd a chyngherddau yn y dyffryn a thu hwnt, ac yn cystadlu mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Teithiodd y band sawl gwaith mor bell â De Cymru i gystadlu yn erbyn bandiau gorau'r genedl. Ym 1899 cafwyd un o'i lwyddiannau mwyaf wrth ennill yng nghystadleuaeth y bandiau pres yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.[5]

Ceir darlun o un o'i ddigwyddiadau mwyaf poblogadd yn Y Brython mewn erthygl ddyddiedig Ionawr 1910 gan ddynes ddi-enw:

Y mae o'n arferiad ers pan ydw i'n cofio yn y Dyffryn, i'r band (Nantlle Vale Silver Band), ddwad i orymdeithio a chanu bob nos Calan, a mawr fydd yr helynt gan fawr a bach wrth ei gwrando. Eleni, buont yn canu mewn Watchnight ym Mhenygroes, a gynhelid gan y Wesleaid, ac wedi hynny, canasant hyd y strydoedd, ac amryw o laslancia yn cario ffagla, iddyn nhw weld y miwsig. Mi rodd hi fel canol dydd ym Mhenygroes a'r Nant nos Wener, a hogia Nanlla yn croesawu'r flwyddyn newydd gan i bedyddio hi efo miwsig swynol, nes oedd hen greigiau'r Silyn 'ma a gwaelod y Nant yn diaspedain. Ymhen arall y Dyffryn, 'roedd |Seindorf Deulyn a'u holl egni yn gwneud yr un peth. Pwy fel hogia'r chwareli am fiwsig mewn rhyw ffurf neu gilydd, ynte?[6]

Arweinydd y band am bump ar hugain o flynyddoedd oedd Tom Sarah, ac ef a gododd y band i'w safle uchel ymysg bandiau Cymru. Ymysg aelodau'r band ar ddechrau'r 20g. oedd ei fab John Sarah (Pencerdd Cernyw), a aeth ymlaen i fod yn arweinydd Band Moeltryfan.

Roedd Band Arian Dyffryn Nantlle yn un o'r bandiau pres cyntaf i gael ystafell bwrpasol wedi ei adeiladu yn arbennig ar eu cyfer, a hynny yn Nhal-y-sarn. Diddorol yw sylwi ar ffurf yr adeilad: er ei fod wedi ei godi'n bwrpasol at ddefnydd band, mae'n ymdebygu i gapel. Yn Nhal-y-sarn mae'r band yn ymarfer hyd heddiw.[7]

Erbyn heddiw, nid oes ond y band hwn a Seindorf Trefor ar ôl o'r nifer helaeth o fandiau pres a fu wrthi yn ystod y 19g.

{[eginyn}}

Cyfeiriadau

  1. Geraint Jones, Cyrn y Diafol (Caernarfon, 2004), t.32
  2. Y Genedl Gymreig, 13.6.1888, t.8
  3. Geraint Jones, Cyrn y Diafol (Caernarfon, 2004), tt.89-90
  4. Caernarvon and Denbigh Herald, 31.8.1888, t.6
  5. South Wales Daily News, 24.7.1899, t.4
  6. Y Brython Cymreig, 6.1.1910, t.5
  7. Gwefan Nantlle.com, [1], cyrchwyd 25..11.2022