Jane Roberts (Shan Fwyn), Llanllyfni: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 8: | Llinell 8: | ||
Nid oes ond rhinwedd gwaed yr Oen | Nid oes ond rhinwedd gwaed yr Oen | ||
A dal i son amdano; | A dal i son amdano; | ||
Rwyf wedi penderfynu nghred, | Rwyf wedi penderfynu nghred, | ||
Y rhof f'ymddiried ynddo. | Y rhof f'ymddiried ynddo. | ||
Mae achos canu nos a dydd, | Mae achos canu nos a dydd, | ||
Gan bawb fedd ffydd yn Iesu; | Gan bawb fedd ffydd yn Iesu; | ||
Er bod gorthrymder yn eu rhan, | Er bod gorthrymder yn eu rhan, | ||
Hwy allant orfoleddu. | Hwy allant orfoleddu. | ||
O! ddedwydd deulu'r nefol wlad, | O! ddedwydd deulu'r nefol wlad, | ||
A | A gân am waed y cymod, | ||
Cânt fyw mewn byd o fythol hedd, | |||
A'u llygredd wedi darfod. | A'u llygredd wedi darfod. | ||
J.RS. | J.RS. | ||
Mae emyn rhif 362, sydd â'r teitl "Rhinweddau gwaed Crist", hefyd yn ymddangos yn y ''Llawlyfr Moliant Newydd'' ond erbyn hynny priodolir yr emyn hwn i un arall o grefyddwyr amlwg Uwchgwyrfai, sef John Roberts, Llanllyfni (Llangwm yn ddiweddarach). Roedd ef yn enedigol o fferm Ffridd Baladeulyn ac yn frawd i'r pregethwr nodedig, Robert Roberts, Clynnog. | Mae emyn rhif 362, sydd â'r teitl "Rhinweddau gwaed Crist", hefyd yn ymddangos yn y ''Llawlyfr Moliant Newydd'' ond erbyn hynny priodolir yr emyn hwn i un arall o grefyddwyr amlwg Uwchgwyrfai, sef [[John Roberts, Llanllyfni]] (Llangwm yn ddiweddarach). Roedd ef yn enedigol o fferm [[Ffridd Baladeulyn]] ac yn frawd i'r pregethwr nodedig, [[Robert Roberts, Clynnog Fawr]]. | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == |
Golygiad diweddaraf yn ôl 11:48, 21 Tachwedd 2022
Emynyddes a oedd yn aelod gyda'r Bedyddwyr oedd Jane Roberts, a elwid hefyd yn Shân Fwyn.
Prin iawn yw gwybodaeth amdani, a dywed Cybi iddi fyw yn rhan olaf y ddeunawfed a rhan gyntaf y ganrif ddilynol. Mewn ymddiddan â Cybi, dywedodd Richard Williams, Central Stores, Pen-y-groes wrtho fod Jane yn perthyn mewn rhyw ffordd i'r gweinidog amlwg gyda'r Bedyddwyr, Robert Jones, Llanllyfni, a oedd hefyd yn emynydd. (Roedd Richard Williams yn nai i Robert Jones.) Bedyddwraig o argyhoeddiadau cryfion oedd Jane ac roedd pwnc y bedydd yn bwysig iawn iddi ac yn cael lle amlwg yn ei hemynau. Fodd bynnag, roedd yn anllythrennog a dywedir fod ei hemynau wedi cael eu hysgrifennu gan John Jones, Tal-y-sarn a Robert Jones ar ôl cael eu trosglwyddo ar dafod leferydd. Dywedir bod ei gwaith wedi cael ei ddiogelu mewn tri o lyfrynnau a honnir gan Cybi fod un yn "yr Amgueddfa yn Llundain" (tybed ai'r Llyfrgell Brydeinig sydd dan sylw ganddo), y llall yn "Llyfrfa Bangor" (ai Llyfrgell y Brifysgol?) a'r trydydd ym meddiant Richard Williams, Central Stores. Roedd Robert Jones wedi mynd mor bell â dweud fod ei dawn fel emynydd yn gyffelyb i un Ann Griffiths, ond prin y gellir credu hynny. Yn ôl Cybi ymddangosodd peth o'i gwaith yn llyfr emynau'r Bedyddwyr, y Llawlyfr Moliant ac ambell un mewn casgliadau cynnar o emynau.[1]
Yn y Llawlyfr Moliant (1890) ceir 5 emyn a briodolir i Jane Roberts, sef rhifau 171, 362, 439, 461 a 462. Yn y Llawlyfr Moliant Newydd (1955), ceir un emyn o'i gwaith, a ymddangosodd fel rhif 171 (gyda rhai mân wahaniaethau) yn Llawlyfr Moliant 1890. Dyma'r emyn hwnnw:
Gwaed yr Oen
Nid oes ond rhinwedd gwaed yr Oen A dal i son amdano; Rwyf wedi penderfynu nghred, Y rhof f'ymddiried ynddo.
Mae achos canu nos a dydd, Gan bawb fedd ffydd yn Iesu; Er bod gorthrymder yn eu rhan, Hwy allant orfoleddu.
O! ddedwydd deulu'r nefol wlad, A gân am waed y cymod, Cânt fyw mewn byd o fythol hedd, A'u llygredd wedi darfod. J.RS.
Mae emyn rhif 362, sydd â'r teitl "Rhinweddau gwaed Crist", hefyd yn ymddangos yn y Llawlyfr Moliant Newydd ond erbyn hynny priodolir yr emyn hwn i un arall o grefyddwyr amlwg Uwchgwyrfai, sef John Roberts, Llanllyfni (Llangwm yn ddiweddarach). Roedd ef yn enedigol o fferm Ffridd Baladeulyn ac yn frawd i'r pregethwr nodedig, Robert Roberts, Clynnog Fawr.
Cyfeiriadau
- ↑ Cybi, Beirdd Gwerin Eifionydd, (Pwllheli, 1914), t.9.