Chwarel Onnen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Chwarel Onnen''' (neu Onen) wedi cael ei henw o hen fwthyn a safai ar y llethrau o dan Mynydd Cilgwyn, lled cae o Dŷ'n-y-fawnog. Agorwyd tai...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Chwarel Onnen''' (neu Onen) wedi cael ei henw o hen fwthyn a safai ar y llethrau o dan [[Mynydd Cilgwyn]], lled cae o Dŷ'n-y-fawnog. Agorwyd tair cloddfa fach ar dir fferm Tal-y-sarn  ond gyda'r amser aeth y tri thwll yn un chwarel fwy. Erbyn 1858, roedd y gwaelod wedi llenwi gyda dŵr ac roedd y chwarel angen ei chlirio, ond ar ôl gwneud hynny, roedd modd gosod pumtheg bargen yno. Meddid fod y llechi o ansawdd da. Fe werthwyd y cloddfeydd bychain hyn gyda gweddill tir fferm Tal-y-sarn ym 1827 fel tir [[Cwmni Llechi Tal-y-sarn]].<ref>Thomas Farries, ''A Guide to Drawing Bills of Costs in nearly every branch of legal practice''(Llundain, 1860), t.4. Mae copi o'r prosbectws ar we, ac mae'n rhoi lmanylion am y chwarel ym 1859:[https://books.google.co.uk/books?id=26sDAAAAQAAJ&pg=PT8&lpg=PT8&dq=%22Talysarn+Slate+Company%22&source=bl&ots=TfuOFk82n1&sig=ACfU3U2Gf1tTleMKzhhXjK-tPL_9lmP71A&hl=cy&sa=X&ved=2ahUKEwiS9-TxlrX7AhXiSkEAHaugBncQ6AF6BAgZEAM#v=onepage&q=%22Talysarn%20Slate%20Company%22&f=false].</ref> Yn y man, aeth y twll yn rhan o dwll [[Chwarel Tal-y-sarn]] ei hun, ac yn wir erbyn diwedd y ganrif, roedd y chwarel wedi llyncu bwthyn Onnen yn ogystal â'r chwarel a enwyd ar ei ôl.<ref>Mapiau Ordnans 1889 a 1901</ref>
Roedd '''Chwarel Onnen''' (neu Onen) wedi cael ei henw o hen fwthyn a safai ar y llethrau o dan [[Mynydd Cilgwyn]], lled cae o Dŷ'n-y-fawnog. Agorwyd tair cloddfa fach ar dir fferm Tal-y-sarn  ond gydag amser aeth y tri thwll yn un chwarel fwy. Erbyn 1858, roedd y gwaelod wedi llenwi gyda dŵr ac roedd y chwarel angen ei chlirio ond, ar ôl gwneud hynny, roedd modd gosod pymtheg bargen yno. Dywedid fod y llechi o ansawdd da. Fe werthwyd y cloddfeydd bychain hyn gyda gweddill tir fferm Tal-y-sarn ym 1827 fel tir [[Cwmni Llechi Tal-y-sarn]].<ref>Thomas Farries, ''A Guide to Drawing Bills of Costs in nearly every branch of legal practice''(Llundain, 1860), t.4. Mae copi o'r prosbectws ar gyfer cyfranddaliadau yng Nghwmni Chwarel Tal-y-sarn ar y We, ac mae'n rhoi manylion am y chwarel ym 1859:[https://books.google.co.uk/books?id=26sDAAAAQAAJ&pg=PT8&lpg=PT8&dq=%22Talysarn+Slate+Company%22&source=bl&ots=TfuOFk82n1&sig=ACfU3U2Gf1tTleMKzhhXjK-tPL_9lmP71A&hl=cy&sa=X&ved=2ahUKEwiS9-TxlrX7AhXiSkEAHaugBncQ6AF6BAgZEAM#v=onepage&q=%22Talysarn%20Slate%20Company%22&f=false].</ref> Yn y man, aeth y twll yn rhan o dwll [[Chwarel Tal-y-sarn]] ei hun, ac yn wir erbyn diwedd y ganrif, roedd y chwarel wedi llyncu bwthyn Onnen yn ogystal â'r chwarel a enwyd ar ei ôl.<ref>Mapiau Ordnans 1889 a 1901</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==


[[Categori:Chwareli]]
[[Categori:Chwareli llechi]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 21:24, 1 Rhagfyr 2022

Roedd Chwarel Onnen (neu Onen) wedi cael ei henw o hen fwthyn a safai ar y llethrau o dan Mynydd Cilgwyn, lled cae o Dŷ'n-y-fawnog. Agorwyd tair cloddfa fach ar dir fferm Tal-y-sarn ond gydag amser aeth y tri thwll yn un chwarel fwy. Erbyn 1858, roedd y gwaelod wedi llenwi gyda dŵr ac roedd y chwarel angen ei chlirio ond, ar ôl gwneud hynny, roedd modd gosod pymtheg bargen yno. Dywedid fod y llechi o ansawdd da. Fe werthwyd y cloddfeydd bychain hyn gyda gweddill tir fferm Tal-y-sarn ym 1827 fel tir Cwmni Llechi Tal-y-sarn.[1] Yn y man, aeth y twll yn rhan o dwll Chwarel Tal-y-sarn ei hun, ac yn wir erbyn diwedd y ganrif, roedd y chwarel wedi llyncu bwthyn Onnen yn ogystal â'r chwarel a enwyd ar ei ôl.[2]

Cyfeiriadau

  1. Thomas Farries, A Guide to Drawing Bills of Costs in nearly every branch of legal practice(Llundain, 1860), t.4. Mae copi o'r prosbectws ar gyfer cyfranddaliadau yng Nghwmni Chwarel Tal-y-sarn ar y We, ac mae'n rhoi manylion am y chwarel ym 1859:[1].
  2. Mapiau Ordnans 1889 a 1901