Cwmni Loriau O.H. Owen a'i Fab: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Cwmni lorïau a fu'n gweithredu am flynyddoedd o bentref Trefor oedd cwmni '''O.H. Owen a'i Fab'''. | Cwmni lorïau a fu'n gweithredu am flynyddoedd o bentref [[Trefor]] oedd cwmni '''O.H. Owen a'i Fab'''. | ||
Fe'i sefydlwyd gan Owen Humphrey Owen, a fagwyd yn Llain Las, Rhos-fawr ger Y Ffôr, ac a ddaeth yn yrrwr (a mecanic) cyntaf cwmni bysiau Clynnog a | Fe'i sefydlwyd gan Owen Humphrey Owen, a fagwyd yn Llain Las, Rhos-fawr ger Y Ffôr, ac a ddaeth yn yrrwr (a mecanic) cyntaf cwmni bysiau [[Clynnog a Threfor]] (y Moto Coch) ym 1912. Priododd â Maggie Roberts a ganwyd tri o blant iddynt. Daeth yn aelod ac yn drysorydd yng [[Capel Bethania (B), Trefor|nghapel Bethania]] y Bedyddwyr yn Nhrefor. Collodd ei briod yn 44 oed ym 1936 a bu yntau farw yn ddim ond 51 oed ym 1938. | ||
Bu O.H. Owen yn gweithio i'r Moto Coch am saith mlynedd ond gadawodd ym 1919 pryd y sefydlodd bartneriaeth â William Williams, gyrrwr bws arall, gan brynu lori Daimler. Erbyn hynny roedd Chwarel yr Eifl yn troi fwyfwy i gynhyrchu metlin yn hytrach na sets a chafodd y cwmni newydd ddigon o waith yn cario metlin o'r gwaith i wynebu ffyrdd Sir Gaernarfon. Yn dilyn marwolaeth O.H. Owen datblygwyd y cwmni'n sylweddol gan ei fab, James (Jim) Owen ac yn fuan daeth lorïau O.H. Owen a'i Fab, gyda'u cabanau coch llachar, yn adnabyddus ymhell y tu hwnt i ffiniau Sir Gaernarfon. Adeiladwyd garej helaeth yng ngwaelod Ffordd yr Eifl, ac ar gwr | Bu O.H. Owen yn gweithio i'r Moto Coch am saith mlynedd ond gadawodd ym 1919 pryd y sefydlodd bartneriaeth â William Williams, gyrrwr bws arall, gan brynu lori Daimler. Erbyn hynny roedd [[Chwarel yr Eifl]] yn troi fwyfwy i gynhyrchu metlin yn hytrach na sets a chafodd y cwmni newydd ddigon o waith yn cario metlin o'r gwaith i wynebu ffyrdd Sir Gaernarfon. Yn dilyn marwolaeth O.H. Owen datblygwyd y cwmni'n sylweddol gan ei fab, James (Jim) Owen ac yn fuan daeth lorïau O.H. Owen a'i Fab, gyda'u cabanau coch llachar, yn adnabyddus ymhell y tu hwnt i ffiniau Sir Gaernarfon. Adeiladwyd garej helaeth yng ngwaelod Ffordd yr Eifl, ac ar gwr [[Gwaith brics Trefor]], i'w cadw a'u trin.<ref>Geraint Jones, ''Moto Ni, Moto Coch'', (Gwasg Carreg Gwalch, 2012), tt.32-3.</ref> Fodd bynnag, daeth y cwmni i ben yn fuan wedi i Chwarel yr Eifl gau ym 1971. Am flynyddoedd wedyn bu Huw, mab Jim Owen, yn cynnal busnes trin ceir o'r garej ac erbyn hyn mae dyn arall o Drefor, Jonathan Sherret, wedi prynu'r garej ac yn parhau gyda busnes trin ceir yno. | ||
== Cyfeiriadau == | == Cyfeiriadau == | ||
[[Categori:Cludiant]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 12:29, 16 Tachwedd 2022
Cwmni lorïau a fu'n gweithredu am flynyddoedd o bentref Trefor oedd cwmni O.H. Owen a'i Fab.
Fe'i sefydlwyd gan Owen Humphrey Owen, a fagwyd yn Llain Las, Rhos-fawr ger Y Ffôr, ac a ddaeth yn yrrwr (a mecanic) cyntaf cwmni bysiau Clynnog a Threfor (y Moto Coch) ym 1912. Priododd â Maggie Roberts a ganwyd tri o blant iddynt. Daeth yn aelod ac yn drysorydd yng nghapel Bethania y Bedyddwyr yn Nhrefor. Collodd ei briod yn 44 oed ym 1936 a bu yntau farw yn ddim ond 51 oed ym 1938.
Bu O.H. Owen yn gweithio i'r Moto Coch am saith mlynedd ond gadawodd ym 1919 pryd y sefydlodd bartneriaeth â William Williams, gyrrwr bws arall, gan brynu lori Daimler. Erbyn hynny roedd Chwarel yr Eifl yn troi fwyfwy i gynhyrchu metlin yn hytrach na sets a chafodd y cwmni newydd ddigon o waith yn cario metlin o'r gwaith i wynebu ffyrdd Sir Gaernarfon. Yn dilyn marwolaeth O.H. Owen datblygwyd y cwmni'n sylweddol gan ei fab, James (Jim) Owen ac yn fuan daeth lorïau O.H. Owen a'i Fab, gyda'u cabanau coch llachar, yn adnabyddus ymhell y tu hwnt i ffiniau Sir Gaernarfon. Adeiladwyd garej helaeth yng ngwaelod Ffordd yr Eifl, ac ar gwr Gwaith brics Trefor, i'w cadw a'u trin.[1] Fodd bynnag, daeth y cwmni i ben yn fuan wedi i Chwarel yr Eifl gau ym 1971. Am flynyddoedd wedyn bu Huw, mab Jim Owen, yn cynnal busnes trin ceir o'r garej ac erbyn hyn mae dyn arall o Drefor, Jonathan Sherret, wedi prynu'r garej ac yn parhau gyda busnes trin ceir yno.
Cyfeiriadau
- ↑ Geraint Jones, Moto Ni, Moto Coch, (Gwasg Carreg Gwalch, 2012), tt.32-3.