Topper: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Band Cymreig o [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]], oedd '''Topper'''. Roedd eu dylanwadau cerddorol yn cynnwys Gorky's Zygotic Mynci a Catatonia.
Band Cymreig o [[Pen-y-groes|Ben-y-groes]], oedd '''Topper'''. Roedd Gorky's Zygotic Mynci a Catatonia ymysg y grwpiau a fu'n ddylanwad ar eu cerddoriaeth.


Ym 1992 ffurfiwyd y band Paladr gan Peter Alan Richardson a'r ddau frawd Dyfrig ac Iwan Evans.
Ym 1992 ffurfiwyd y band Paladr gan Peter Alan Richardson a'r ddau frawd Dyfrig ac Iwan Evans.


Ym 1995 rhyddhawyd eu cân gyntaf, sef ‘Dwi'm yn gwbod. Pam?’, gan gwmni Ankst ar ddisg gan nifer o gantorion. Erbyn 1996, roedd y band wedi newid ei enw i Topper a'r flwyddyn ganlynol
Ym 1995 rhyddhawyd eu cân gyntaf, sef ‘Dwi'm yn gwbod. Pam?’, gan gwmni Ankst ar ddisg a oedd yn cynnwys nifer o gantorion. Erbyn 1996, roedd y band wedi newid ei enw i Topper a'r flwyddyn ganlynol
rhyddhawyd ''Arch Noa'', EP cyntaf y band, a’r albwm ''Something to Tell Her'', y ddwy ddisg ar label Ankst. Yn ogystal â hyn ymddangosodd y band yn fyw ar raglen John Peel a chychwyn ar eu taith cyntaf i hywryddo'r albwm ''Something To Tell Her'' yn cefnogi Catatonia, a gydag aelod newydd, Gwion 'Gysglyd' Morus, ar yr allweddellau. Ym 1998 symudodd y grŵp i label Kooky am gyfnod byr a rhyddhau'r sengl "Cwpan Mewn Dŵr". Yna ar gychwyn 1999 rhyddhawyd albwm 'mini' arall, ''Non Compos Mentis'', y tro yma ar eu label eu hunain, Bedlam.
rhyddhawyd ''Arch Noa'', EP gyntaf y band, a’r albwm ''Something to Tell Her'', y ddwy ddisg ar label Ankst. Yn ogystal â hyn ymddangosodd y band yn fyw ar raglen John Peel a chychwyn ar eu taith gyntaf i hyrwyddo'r albwm ''Something To Tell Her'', gan gefnogi Catatonia. Erbyn hynny roedd ganddynt aelod newydd hefyd, sef Gwion 'Gysglyd' Morus ar yr allweddellau. Ym 1998 symudodd y grŵp i label Kooky am gyfnod byr a rhyddhau'r sengl "Cwpan Mewn Dŵr". Yna ar ddechrau 1999 rhyddhawyd albwm 'mini' arall, ''Non Compos Mentis'', y tro yma ar eu label eu hunain, Bedlam.


Recordiodd y grŵp yr albwm ''Dolur Gwddw'' yn stiwdio Bryn Derwen gyda'r cynhyrchydd o fri David Wrench. Hon oedd albwm mwyaf uchelgeisiol y grwp, a ddaeth yr albwm allan ar label Crai ar ddiwedd 2000. I helpu gyda'r sŵn llawnach oedd ar y record, ymunodd aelod arall (a'r aelod olaf), sef y gitarydd o Fethesda, Sion 'The King' Glyn.
Recordiodd y grŵp yr albwm ''Dolur Gwddw'' yn stiwdio Bryn Derwen gyda'r cynhyrchydd o fri David Wrench. Hon oedd albwm fwyaf uchelgeisiol y grŵp, a daeth yr albwm allan ar label Crai ar ddiwedd 2000. I helpu gyda'r sŵn llawnach oedd ar y record, ymunodd aelod arall (a'r aelod olaf), sef y gitarydd o Fethesda, Sion 'The King' Glyn.


Gadawodd Peter Richardson y band yn 2001 i ymuno â Gorky’s Zygotic Mynci, ac yn fuan wedyn daeth Topper i ben.
Gadawodd Peter Richardson y band yn 2001 i ymuno â Gorky’s Zygotic Mynci, ac yn fuan wedyn daeth Topper i ben.

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:19, 24 Hydref 2022

Band Cymreig o Ben-y-groes, oedd Topper. Roedd Gorky's Zygotic Mynci a Catatonia ymysg y grwpiau a fu'n ddylanwad ar eu cerddoriaeth.

Ym 1992 ffurfiwyd y band Paladr gan Peter Alan Richardson a'r ddau frawd Dyfrig ac Iwan Evans.

Ym 1995 rhyddhawyd eu cân gyntaf, sef ‘Dwi'm yn gwbod. Pam?’, gan gwmni Ankst ar ddisg a oedd yn cynnwys nifer o gantorion. Erbyn 1996, roedd y band wedi newid ei enw i Topper a'r flwyddyn ganlynol rhyddhawyd Arch Noa, EP gyntaf y band, a’r albwm Something to Tell Her, y ddwy ddisg ar label Ankst. Yn ogystal â hyn ymddangosodd y band yn fyw ar raglen John Peel a chychwyn ar eu taith gyntaf i hyrwyddo'r albwm Something To Tell Her, gan gefnogi Catatonia. Erbyn hynny roedd ganddynt aelod newydd hefyd, sef Gwion 'Gysglyd' Morus ar yr allweddellau. Ym 1998 symudodd y grŵp i label Kooky am gyfnod byr a rhyddhau'r sengl "Cwpan Mewn Dŵr". Yna ar ddechrau 1999 rhyddhawyd albwm 'mini' arall, Non Compos Mentis, y tro yma ar eu label eu hunain, Bedlam.

Recordiodd y grŵp yr albwm Dolur Gwddw yn stiwdio Bryn Derwen gyda'r cynhyrchydd o fri David Wrench. Hon oedd albwm fwyaf uchelgeisiol y grŵp, a daeth yr albwm allan ar label Crai ar ddiwedd 2000. I helpu gyda'r sŵn llawnach oedd ar y record, ymunodd aelod arall (a'r aelod olaf), sef y gitarydd o Fethesda, Sion 'The King' Glyn.

Gadawodd Peter Richardson y band yn 2001 i ymuno â Gorky’s Zygotic Mynci, ac yn fuan wedyn daeth Topper i ben.

Rhyddhawyd y casgliad "Y Goreuon O'r Gwaethaf "ar label Rasal yn 2005.[1]

Cyfeiriadau

  1. Proffil y band gan BBC Cymru, [1]; Erthygl Wicipedia am Topper [2], cyrchwyd 24.10.2022