Griffith Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 2 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 4: | Llinell 4: | ||
Ganwyd '''Griffith Davies''' (1788-1855) yn Nhŷ Croes, a byw wedyn yn y Beudy Bach, y ddau gerllaw fferm Hafod Boeth sydd erbyn heddiw ar gyrion pentref [[Y Groeslon]] a [[Maestryfan]] - ar y pryd nid oedd yr un o'r ddau anheddiad hynny'n bodoli. Mynychodd ysgol Sul [[Capel Bryn'rodyn (MC)|Bryn'rodyn]] ac fe gafodd dymor neu ddau o addysg ffurfiol mewn ysgol yn [[Llanwnda]]. | Ganwyd '''Griffith Davies''' (1788-1855) yn Nhŷ Croes, a byw wedyn yn y Beudy Bach, y ddau gerllaw fferm Hafod Boeth sydd erbyn heddiw ar gyrion pentref [[Y Groeslon]] a [[Maestryfan]] - ar y pryd nid oedd yr un o'r ddau anheddiad hynny'n bodoli. Mynychodd ysgol Sul [[Capel Bryn'rodyn (MC)|Bryn'rodyn]] ac fe gafodd dymor neu ddau o addysg ffurfiol mewn ysgol yn [[Llanwnda]]. | ||
Bu'n was ffarm yna'n chwarelwr yn y Cilgwyn cyn mynd i Lundain i ddilyn ei ddiddordeb mewn mathemateg ac i ddysgu Saesneg. Ymhen ychydig flynyddoedd agorodd ei ysgol ei hun yno i ddysgu mathemateg. Fe wnaeth enw iddo'i hun trwy fynd yn gyfrifydd ac yn actiwari. Cyhoeddodd daflenni a thablau a roddodd seiliau gwyddonol i yswiriant Prydain. | Bu'n was ffarm ac yna'n chwarelwr yn y Cilgwyn cyn mynd i Lundain i ddilyn ei ddiddordeb mewn mathemateg ac i ddysgu Saesneg. Ymhen ychydig flynyddoedd agorodd ei ysgol ei hun yno i ddysgu mathemateg. Fe wnaeth enw iddo'i hun trwy fynd yn gyfrifydd ac yn actiwari. Cyhoeddodd daflenni a thablau a roddodd seiliau gwyddonol i yswiriant Prydain. | ||
Ac yntau'n dod o gefndir tyddynnod a chwareli ar gomin plwyf [[Llandwrog]], gweithiodd yn ddygn ym 1827 i rwystro [[Ystad Glynllifon]] rhag cipio'r tir a amgaewyd o'r comin a'i droi'n gaeau mawr ar gyfer ffermydd yr ystad. Gan ei fod yn gweithio yn Llundain a llawer o aelodau seneddol dylanwadol yn gleientiaid iddo, roedd mewn sefyllfa i bwyso arnynt i wrthwynebu mesur seneddol a fyddai wedi caniatáu i hynny ddigwydd. Diolch iddo fo felly, fe gafodd y werin leol lonydd i fyw yn eu tyddynnod eu hunain heb orfod talu rhent i unrhyw feistr tir. Mae hyn yn destun rhyfeddod hyd y dydd heddiw. | Ac yntau'n dod o gefndir tyddynnod a chwareli ar gomin plwyf [[Llandwrog]], gweithiodd yn ddygn ym 1827 i rwystro [[Ystad Glynllifon]] rhag cipio'r tir a amgaewyd o'r comin a'i droi'n gaeau mawr ar gyfer ffermydd yr ystad. Gan ei fod yn gweithio yn Llundain a llawer o aelodau seneddol dylanwadol yn gleientiaid iddo, roedd mewn sefyllfa i bwyso arnynt i wrthwynebu mesur seneddol a fyddai wedi caniatáu i hynny ddigwydd. Diolch iddo fo felly, fe gafodd y werin leol lonydd i fyw yn eu tyddynnod eu hunain heb orfod talu rhent i unrhyw feistr tir. Mae hyn yn destun rhyfeddod hyd y dydd heddiw. | ||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
Bu’n flaenor yn eglwys Jewin (MC) Llundain ac am gyfnod yn aelod blaenllaw o Gymreigyddion Llundain. | Bu’n flaenor yn eglwys Jewin (MC) Llundain ac am gyfnod yn aelod blaenllaw o Gymreigyddion Llundain. | ||
Cyhoeddwyd cofiant Cymraeg newydd a sylweddol i Griffith Davies ym mis Mai 2023 fel rhan o'r gyfres Gwyddonwyr Cymru gan Wasg Prifysgol Cymru. Ei awdur yw Haydn E. Edwards, a fagwyd yn Y Groeslon ac felly'n gwbl gyfarwydd â bro Griffith Davies. Gyda chefndir ym maes cemeg, mae Haydn Edwards yn ysgolhaig ac addysgwr blaenllaw a fu'n bennaeth Coleg Menai hyd ei ymddeoliad. Mae'r gyfrol hon wedi'i hysgrifennu'n rhwydd a difyr i'w darllen, ond mae'n cynnwys cyfoeth o wybodaeth am fywyd a gwaith Griffith Davies, wedi'i seilio ar ymchwil drwyadl fel y tystia'r nodiadau ar ddiwedd pob pennod. Llyfr y dylai unrhyw un sy'n ymddiddori yng ngorchestion y Cymro arbennig hwn yn sicr ei geisio a'i ddarllen. | |||
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:10, 6 Gorffennaf 2023
Ganwyd Griffith Davies (1788-1855) yn Nhŷ Croes, a byw wedyn yn y Beudy Bach, y ddau gerllaw fferm Hafod Boeth sydd erbyn heddiw ar gyrion pentref Y Groeslon a Maestryfan - ar y pryd nid oedd yr un o'r ddau anheddiad hynny'n bodoli. Mynychodd ysgol Sul Bryn'rodyn ac fe gafodd dymor neu ddau o addysg ffurfiol mewn ysgol yn Llanwnda.
Bu'n was ffarm ac yna'n chwarelwr yn y Cilgwyn cyn mynd i Lundain i ddilyn ei ddiddordeb mewn mathemateg ac i ddysgu Saesneg. Ymhen ychydig flynyddoedd agorodd ei ysgol ei hun yno i ddysgu mathemateg. Fe wnaeth enw iddo'i hun trwy fynd yn gyfrifydd ac yn actiwari. Cyhoeddodd daflenni a thablau a roddodd seiliau gwyddonol i yswiriant Prydain.
Ac yntau'n dod o gefndir tyddynnod a chwareli ar gomin plwyf Llandwrog, gweithiodd yn ddygn ym 1827 i rwystro Ystad Glynllifon rhag cipio'r tir a amgaewyd o'r comin a'i droi'n gaeau mawr ar gyfer ffermydd yr ystad. Gan ei fod yn gweithio yn Llundain a llawer o aelodau seneddol dylanwadol yn gleientiaid iddo, roedd mewn sefyllfa i bwyso arnynt i wrthwynebu mesur seneddol a fyddai wedi caniatáu i hynny ddigwydd. Diolch iddo fo felly, fe gafodd y werin leol lonydd i fyw yn eu tyddynnod eu hunain heb orfod talu rhent i unrhyw feistr tir. Mae hyn yn destun rhyfeddod hyd y dydd heddiw.
Pan oedd Thomas Telford yn cynllunio Pont y Borth dywedir ei fod yn cael trafferth i gael rhai o'i gyfrifiadau yn ymwneud ag adeiledd y bont i weithio'n iawn ac mae tystiolaeth iddo gael cymorth gan Griffith Davies i sicrhau eu cywirdeb a thrwy hynny ofalu y byddai'r bont yn gwbl ddiogel.
Bu’n flaenor yn eglwys Jewin (MC) Llundain ac am gyfnod yn aelod blaenllaw o Gymreigyddion Llundain.
Cyhoeddwyd cofiant Cymraeg newydd a sylweddol i Griffith Davies ym mis Mai 2023 fel rhan o'r gyfres Gwyddonwyr Cymru gan Wasg Prifysgol Cymru. Ei awdur yw Haydn E. Edwards, a fagwyd yn Y Groeslon ac felly'n gwbl gyfarwydd â bro Griffith Davies. Gyda chefndir ym maes cemeg, mae Haydn Edwards yn ysgolhaig ac addysgwr blaenllaw a fu'n bennaeth Coleg Menai hyd ei ymddeoliad. Mae'r gyfrol hon wedi'i hysgrifennu'n rhwydd a difyr i'w darllen, ond mae'n cynnwys cyfoeth o wybodaeth am fywyd a gwaith Griffith Davies, wedi'i seilio ar ymchwil drwyadl fel y tystia'r nodiadau ar ddiwedd pob pennod. Llyfr y dylai unrhyw un sy'n ymddiddori yng ngorchestion y Cymro arbennig hwn yn sicr ei geisio a'i ddarllen.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma