Richard Evans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Yr oedd '''Richard Evans''' (?-?1619) yn ficer Llanaelhaearn. Yr oedd yn fab i Evan ap Huw, a fu farw, yn ôl J.E.Griffith, ym 1559. Yr oedd taid Rich...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Yr oedd '''Richard Evans''' (?-?1619) yn ficer [[Llanaelhaearn]]. Yr oedd yn fab i Evan ap Huw, a fu farw, yn ôl J.E.Griffith, ym 1559. Yr oedd taid Richard Evans, Huw ap Robert Fychan o Dalhenbont, Llanystumdwy wedi priodi Elizabeth ferch Madog ap Llywelyn ap Morgan o [[Elernion]], a thrwy honno yr etifeddodd Richard Evans eiddo Elernion. Nid yw'n wybyddys am faint y bu Richard Evans yn ficer Llanaelhaearn, er dichon iddo fod yn byw yn Elernion werdi i'r tŷ hwnnw gael ei adeiladu'n wreiddiol a hynny tua ddiwedd y 16g.<ref>G.R.J. Jones, "Early Settlement in Arfon: The Setting of Tre'r Ceiri" (Trafodion Cy. Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.24, (1963), t.6; Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.99</ref> Mae'n bosibl ei fod wedi etifeddu'r eiddo gan ei frawd hŷn, Humphrey Evans.
Bu '''Richard Evans''' (?-?1619) yn ficer [[Llanaelhaearn]]. Roedd yn fab i Evan ap Huw, a fu farw, yn ôl J.E.Griffith, ym 1559. Yr oedd taid Richard Evans, Huw ap Robert Fychan o Dalhenbont, Llanystumdwy, wedi priodi ag Elizabeth ferch Madog ap Llywelyn ap Morgan o [[Elernion]], a thrwy honno yr etifeddodd Richard Evans eiddo Elernion. Nid yw'n wybyddys am faint y bu Richard Evans yn ficer Llanaelhaearn, er dichon iddo fod yn byw yn Elernion wedi i'r tŷ Elizabethaidd newydd gael ei adeiladu yno tua diwedd yr 16g, gan ddisodli'r hen dŷ neuadd canoloesol a fu ar y safle am ganrifoedd cyn hynny.<ref>G.R.J. Jones, "Early Settlement in Arfon: The Setting of Tre'r Ceiri" (Trafodion Cy. Hanes Sir Gaernarfon), Cyf.24, (1963), t.6; Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.99</ref> Mae'n bosibl ei fod wedi etifeddu'r eiddo gan ei frawd hŷn, Humphrey Evans. Bu'n cymryd diddordeb yn ei eiddo, a oedd yn cynnwys tir ym mhlwyf [[Llanwnda]], ac ef oedd yn gyfrifol am godi [[Melin y Bont-faen]] tua dechrau'r 17g.<ref>W. Gilbert Williams, ''Arfon y Dyddiau Gynt'', (Caernarfon, d.d.), t.131</ref>


Priododd Richard Evans Ann, merch y Dr. Edmund Meyrick, Archddiacon Meirionnydd, ac mae'n bosibl mai trwyddo ei ddylanwad ef y cafodd fywoliaeth oedd yn fwy bras fel ficer Hendon ger Llundain. Cafodd y cwpl ddau o feibion, sef Edmund, a briododd Catherine, merch Owen Griffith o Dreiorwerth; a Humphrey (a etifeddodd Elernion) a briododd Catherine, merch [[William Glynn]], [[Glynllifon]].<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.34, 172, 175</ref>
Priododd Richard Evans ag Ann, merch Dr. Edmund Meyrick, Archddiacon Meirionnydd, ac mae'n bosibl mai trwy ei ddylanwad ef y cafodd fywoliaeth frasach fel ficer Hendon ger Llundain. Cafodd y cwpl ddau o feibion, sef Edmund, a briododd â Catherine, merch Owen Griffith o Dreiorwerth; a Humphrey (a etifeddodd Elernion) a briododd â Catherine arall, sef merch [[William Glynn]], [[Glynllifon]].<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.34, 172, 175</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:21, 1 Gorffennaf 2022

Bu Richard Evans (?-?1619) yn ficer Llanaelhaearn. Roedd yn fab i Evan ap Huw, a fu farw, yn ôl J.E.Griffith, ym 1559. Yr oedd taid Richard Evans, Huw ap Robert Fychan o Dalhenbont, Llanystumdwy, wedi priodi ag Elizabeth ferch Madog ap Llywelyn ap Morgan o Elernion, a thrwy honno yr etifeddodd Richard Evans eiddo Elernion. Nid yw'n wybyddys am faint y bu Richard Evans yn ficer Llanaelhaearn, er dichon iddo fod yn byw yn Elernion wedi i'r tŷ Elizabethaidd newydd gael ei adeiladu yno tua diwedd yr 16g, gan ddisodli'r hen dŷ neuadd canoloesol a fu ar y safle am ganrifoedd cyn hynny.[1] Mae'n bosibl ei fod wedi etifeddu'r eiddo gan ei frawd hŷn, Humphrey Evans. Bu'n cymryd diddordeb yn ei eiddo, a oedd yn cynnwys tir ym mhlwyf Llanwnda, ac ef oedd yn gyfrifol am godi Melin y Bont-faen tua dechrau'r 17g.[2]

Priododd Richard Evans ag Ann, merch Dr. Edmund Meyrick, Archddiacon Meirionnydd, ac mae'n bosibl mai trwy ei ddylanwad ef y cafodd fywoliaeth frasach fel ficer Hendon ger Llundain. Cafodd y cwpl ddau o feibion, sef Edmund, a briododd â Catherine, merch Owen Griffith o Dreiorwerth; a Humphrey (a etifeddodd Elernion) a briododd â Catherine arall, sef merch William Glynn, Glynllifon.[3]

Cyfeiriadau

  1. G.R.J. Jones, "Early Settlement in Arfon: The Setting of Tre'r Ceiri" (Trafodion Cy. Hanes Sir Gaernarfon), Cyf.24, (1963), t.6; Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.99
  2. W. Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, d.d.), t.131
  3. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.34, 172, 175