Anne Elizabeth Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Dr Anne Elizabeth Williams''' yn awdur sydd wedi arbenigo ym maes Meddyginiaethau Gwerin Cymreig. Fe'i magwyd yn Llangybi Stesion, lle roedd ei rh...' |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Dr Anne Elizabeth Williams''' yn awdur sydd wedi arbenigo ym maes Meddyginiaethau Gwerin Cymreig. | Mae '''Dr Anne Elizabeth Williams''' yn awdur sydd wedi arbenigo ym maes Meddyginiaethau Gwerin Cymreig. | ||
Fe'i magwyd yn Llangybi Stesion, lle roedd ei rhieni'n cadw siop. Yn dilyn addysg uwchradd yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhen-y-groes aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor, gan raddio yn y Gymraeg. Aeth ymlaen i astudio am Ddiploma mewn Palaeograffeg a Gweinyddu Archifau ac yna cwblhaodd Ddoethuriaeth ar fywyd a gwaith Gwilym Tew, bardd o'r bymthegfed ganrif y diogelwyd crynswth ei waith yn llawysgrif Peniarth 51. | Fe'i magwyd yn Llangybi Stesion, lle roedd ei rhieni'n cadw siop. Yn dilyn addysg uwchradd yn [[Ysgol Dyffryn Nantlle]] ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]] aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor, gan raddio yn y Gymraeg. Aeth ymlaen i astudio am Ddiploma mewn Palaeograffeg a Gweinyddu Archifau ac yna cwblhaodd Ddoethuriaeth ar fywyd a gwaith Gwilym Tew, bardd o'r bymthegfed ganrif y diogelwyd crynswth ei waith yn llawysgrif Peniarth 51. | ||
Wedi cyfnod yn gweithio yn Archifdy Caernarfon, symudodd i Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, i ymchwilio ym maes Meddyginiaethau Gwerin. Treuliodd flynyddoedd yn ymchwilio i'r maes hwn gan deithio'n helaeth ledled Cymru yn cyfweld a holi pobl (hŷn gan amlaf) am wybodaeth am feddyginiaethau a hanesion yn ymwneud â'r maes yn eu gwahanol ardaloedd. Tyfodd hyn gydag amser yn gasgliad helaeth o dapiau sain a gwybodaeth brintiedig hynod bwysig a fyddai wedi mynd i ddifancoll pe na bai wedi ei chofnodi mewn da bryd cyn i'r to hŷn a feddai'r wybodaeth hon ddiflannu. Bu Anne Elizabeth hefyd yn rhannu ffrwyth ei hymchwil trwy ddarlithio a chyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolion. | Wedi cyfnod yn gweithio yn Archifdy Caernarfon, symudodd i Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, i ymchwilio ym maes Meddyginiaethau Gwerin. Treuliodd flynyddoedd yn ymchwilio i'r maes hwn gan deithio'n helaeth ledled Cymru yn cyfweld a holi pobl (hŷn gan amlaf) am wybodaeth am feddyginiaethau a hanesion yn ymwneud â'r maes yn eu gwahanol ardaloedd. Tyfodd hyn gydag amser yn gasgliad helaeth o dapiau sain a gwybodaeth brintiedig hynod bwysig a fyddai wedi mynd i ddifancoll pe na bai wedi ei chofnodi mewn da bryd cyn i'r to hŷn a feddai'r wybodaeth hon ddiflannu. Maent yn rhoi darlun unigryw o un agwedd ar fywyd y werin yn negawdau cynnar yr ugeinfed ganrif. Bu Anne Elizabeth hefyd yn rhannu ffrwyth ei hymchwil trwy ddarlithio, cyfweliadau radio a chyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolion. | ||
Ar ôl treulio cyfnod yn byw yng Nghaerdydd, lle cyfarfu â'i phriod, Dr Howard Williams, fe wnaethant hwy a'u mab symud i fyw i ( | Ar ôl treulio cyfnod yn byw yng Nghaerdydd, lle cyfarfu â'i phriod, Dr Howard Williams, fe wnaethant hwy a'u mab, Alun, symud i fyw i ffermdy [[Hengwm]] yng nghysgod [[Mynydd Bwlch Mawr]] uwchlaw [[Clynnog Fawr]]. Yno buont yn gweithio fel cyfieithwyr llawrydd am rai blynyddoedd nes ymddeol yn ddiweddar. Yn 2017 cyhoeddodd Anne Elizabeth ffrwyth ei hymchwil mewn cyfrol hynod sylweddol, sef ''Meddyginiaethau Gwerin Cymru''.<ref>Anne Elizabeth Williams, ''Meddyginiaethau Gwerin Cymru'', (Y Lolfa Cyf., 2017).</ref> Mae'r gyfrol yn cynnwys penodau ar y meddyginiaethau a'r planhigion a ddefnyddid i drin gwahanol anhwylderau a chyflyrau a cheir ynddi hefyd luniau o'r gwahanol blanhigion a dulliau a ddefnyddid, yn ogystal â lluniau o rai o'r bobl a fu mor barod i rannu eu gwybodaeth â'r awdur. Cafodd y gyfrol dderbyniad gwresog pan gafodd ei chyhoeddi, gan gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn, ac mae'n gyfraniad hollbwysig at ein dealltwriaeth o'r maes hwn. Dyma sylwadau Dr Robin Gwyndaf yn y broliant ar gefn y gyfrol: | ||
"Bu yng Nghymru draddodiad maith a chyfoethog o ymarfer meddyginiaethau gwerin. A dyma nawr gyfrol gynhwysfawr, ardderchog; cofnod o dystiolaeth llygad y ffynnon personau sydd naill ai yn cofio'r meddyginiaethau, neu a fu'n eu hymarfer eu hunain. Llongyfarchiadau diffuant i'r awdur, a chanmil diolch am gymwynas nodedig iawn." | |||
Mae Anne Elizabeth a Howard wedi bod yn weithgar hefyd gyda gweithgareddau [[Canolfan Hanes Uwchgwyrfai]] ers ei sefydlu yn 2006. Hwy sydd wedi arwain y gwaith o sefydlu gardd sylweddol y tu ôl i'r Ysgoldy sy'n cynnwys llawer o berlysiau a phlanhigion a fyddai i'w cael mewn gardd fwthyn nodweddiadol rhyw ganrif neu lai yn ôl. | |||
== Cyfeiriadau == | |||
[[Categori:Pobl]] | |||
[[Categori:Academyddion]] | |||
[[Categori:Archifyddion]] | |||
[[Categori:Awduron]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 17:25, 26 Mehefin 2022
Mae Dr Anne Elizabeth Williams yn awdur sydd wedi arbenigo ym maes Meddyginiaethau Gwerin Cymreig.
Fe'i magwyd yn Llangybi Stesion, lle roedd ei rhieni'n cadw siop. Yn dilyn addysg uwchradd yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhen-y-groes aeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru ym Mangor, gan raddio yn y Gymraeg. Aeth ymlaen i astudio am Ddiploma mewn Palaeograffeg a Gweinyddu Archifau ac yna cwblhaodd Ddoethuriaeth ar fywyd a gwaith Gwilym Tew, bardd o'r bymthegfed ganrif y diogelwyd crynswth ei waith yn llawysgrif Peniarth 51.
Wedi cyfnod yn gweithio yn Archifdy Caernarfon, symudodd i Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, i ymchwilio ym maes Meddyginiaethau Gwerin. Treuliodd flynyddoedd yn ymchwilio i'r maes hwn gan deithio'n helaeth ledled Cymru yn cyfweld a holi pobl (hŷn gan amlaf) am wybodaeth am feddyginiaethau a hanesion yn ymwneud â'r maes yn eu gwahanol ardaloedd. Tyfodd hyn gydag amser yn gasgliad helaeth o dapiau sain a gwybodaeth brintiedig hynod bwysig a fyddai wedi mynd i ddifancoll pe na bai wedi ei chofnodi mewn da bryd cyn i'r to hŷn a feddai'r wybodaeth hon ddiflannu. Maent yn rhoi darlun unigryw o un agwedd ar fywyd y werin yn negawdau cynnar yr ugeinfed ganrif. Bu Anne Elizabeth hefyd yn rhannu ffrwyth ei hymchwil trwy ddarlithio, cyfweliadau radio a chyhoeddi erthyglau mewn cyfnodolion.
Ar ôl treulio cyfnod yn byw yng Nghaerdydd, lle cyfarfu â'i phriod, Dr Howard Williams, fe wnaethant hwy a'u mab, Alun, symud i fyw i ffermdy Hengwm yng nghysgod Mynydd Bwlch Mawr uwchlaw Clynnog Fawr. Yno buont yn gweithio fel cyfieithwyr llawrydd am rai blynyddoedd nes ymddeol yn ddiweddar. Yn 2017 cyhoeddodd Anne Elizabeth ffrwyth ei hymchwil mewn cyfrol hynod sylweddol, sef Meddyginiaethau Gwerin Cymru.[1] Mae'r gyfrol yn cynnwys penodau ar y meddyginiaethau a'r planhigion a ddefnyddid i drin gwahanol anhwylderau a chyflyrau a cheir ynddi hefyd luniau o'r gwahanol blanhigion a dulliau a ddefnyddid, yn ogystal â lluniau o rai o'r bobl a fu mor barod i rannu eu gwybodaeth â'r awdur. Cafodd y gyfrol dderbyniad gwresog pan gafodd ei chyhoeddi, gan gyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn, ac mae'n gyfraniad hollbwysig at ein dealltwriaeth o'r maes hwn. Dyma sylwadau Dr Robin Gwyndaf yn y broliant ar gefn y gyfrol:
"Bu yng Nghymru draddodiad maith a chyfoethog o ymarfer meddyginiaethau gwerin. A dyma nawr gyfrol gynhwysfawr, ardderchog; cofnod o dystiolaeth llygad y ffynnon personau sydd naill ai yn cofio'r meddyginiaethau, neu a fu'n eu hymarfer eu hunain. Llongyfarchiadau diffuant i'r awdur, a chanmil diolch am gymwynas nodedig iawn."
Mae Anne Elizabeth a Howard wedi bod yn weithgar hefyd gyda gweithgareddau Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ers ei sefydlu yn 2006. Hwy sydd wedi arwain y gwaith o sefydlu gardd sylweddol y tu ôl i'r Ysgoldy sy'n cynnwys llawer o berlysiau a phlanhigion a fyddai i'w cael mewn gardd fwthyn nodweddiadol rhyw ganrif neu lai yn ôl.
Cyfeiriadau
- ↑ Anne Elizabeth Williams, Meddyginiaethau Gwerin Cymru, (Y Lolfa Cyf., 2017).