Robert Ellis (Llyfnwy): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir 2 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Ganed '''Robert Ellis''' (1806-1872), a gymerodd yr enw barddol "Llyfnwy", yn Penrhyn Bach, [[Llanllyfni]] ym 1806 yn fab i Ellis Dafydd a'i wraig Ann. Cyfansoddodd nifer o garolau a cherddi moesol a chyhoeddwyd casgliad bychan ohonynt dan y teitl: ''Lloffion Awen Llyfnwy; sef Carolau, Cerddi ac amryw Ganiadau moesol. Gan Robert Ellis, Clochydd, Llanllyfni''. Prin ryfeddol ydi canmoliaeth Myrddin Fardd i'r casgliad - rhyw gerddi diddrwg-didda oedden nhw yn ei farn ef. "Nid oes ynddo ddim yn wrthwynebus, na dim ynddo yn ddeniadol", meddai Myrddin am y llyfryn. Beth bynnag, roedd Robert Ellis yn un o nifer o glochyddion eglwysig a drodd eu llaw at farddoni yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu farw 14 Ebrill 1872 a nodir ar ei garreg fedd iddo fod yn glochydd [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni]], am 43 o flynyddoedd ac iddo wasanaethu mewn 2,556 o angladdau.<ref>John Jones (Myrddin Fardd), ''Enwogion Sir Gaernarfon'', tt.65-6.</ref> | Ganed '''Robert Ellis''' (1806-1872), a gymerodd yr enw barddol "Llyfnwy", yn Penrhyn Bach, [[Llanllyfni]] ym 1806 yn fab i Ellis Dafydd a'i wraig Ann. Cyfansoddodd nifer o garolau a cherddi moesol a chyhoeddwyd casgliad bychan ohonynt dan y teitl: ''Lloffion Awen Llyfnwy; sef Carolau, Cerddi ac amryw Ganiadau moesol. Gan Robert Ellis, Clochydd, Llanllyfni''. Prin ryfeddol ydi canmoliaeth Myrddin Fardd i'r casgliad - rhyw gerddi diddrwg-didda oedden nhw yn ei farn ef. "Nid oes ynddo ddim yn wrthwynebus, na dim ynddo yn ddeniadol", meddai Myrddin am y llyfryn. Beth bynnag, roedd Robert Ellis yn un o nifer o glochyddion eglwysig a drodd eu llaw at farddoni yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu farw 14 Ebrill 1872 a nodir ar ei garreg fedd iddo fod yn glochydd [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni]], am 43 o flynyddoedd ac iddo wasanaethu mewn 2,556 o angladdau.<ref>John Jones (Myrddin Fardd), ''Enwogion Sir Gaernarfon'', tt.65-6.</ref> | ||
Tua 1877, ysgrifennodd gŵr o'r enw William Evans a hanai o blwyf Llanllyfni ond oedd wedi ymsefydlu yn Lockport, Illinois, nifer o erthyglau llawn atgofion am Lanllyfni yn ei lencyndod. Ymysg yr atgofion, ceir darlun byw o Robert Ellis: | Tua 1877, ysgrifennodd gŵr o'r enw [[William Evans (Wil Tan-y-Maes)|William Evans]] a hanai o blwyf Llanllyfni ond oedd wedi ymsefydlu yn Lockport, Illinois, nifer o erthyglau llawn atgofion am Lanllyfni yn ei lencyndod. Ymysg yr atgofion, ceir darlun byw o Robert Ellis: | ||
"Mewn cysylltiad ag Eglwys Llanllyfni, hen gymeriad diddan oedd y clochydd, Mr. ROBERT ELLIS, neu "Yr Hen Glochydd", fel y gelwid ef. Efe fyddai yn darllen y gwasanaeth gyda'r Person ar y Sabothau, &c., ac yn gweinyddu mewn priodasau ac angladdau. Clywais lawer gwaith y dyddiau hynny, mai efe oedd y darllenwr Cymraeg gorau o neb ym mhlwyf Llanllyfni. Yr oedd hefyd yn cael ei gyfrif yn brydydd da, ac yr wyf yn deall iddo gyhoeddi cyfrol o'i waith flynyddau lawer wedi hynny, a adnabyddir wrth yr enw ''Awen Llyfnwy''. Yn nechrau cyfnod yr Atgofion hyn, yr oedd yr Hen Glochydd yn sefyll hefyd fel cerddwr yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na neb yn y plwyf; ac efe oedd arweinydd [[Côr Eglwys Llanllyfni|Côr y Llan]], (yr oedd yno gôr er cyn i mi gofio), ac yr oedd yn chwarae ar fath o offeryn a elwid gan y cyffredin, "Bas y Ddeiol," ond gan y dysgedig, Violoncello. Y mae yn fwy na thebyg mai efe fu yn egwyddori Dafydd Williams ar y cyntaf, canys yr ydwyf yn cofio y byddai Dafydd yn myned i ganu i'r Llan yn fynych, tua dechrau y cyfnod hwnnw, ac yr wyf yn sicr fod gyrfa gerddorol Wm. Roberts (Wil y Crydd), wedi dechrau gydag ef. | |||
"Mewn cysylltiad ag [[Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni|Eglwys Llanllyfni]], hen gymeriad diddan oedd y clochydd, Mr. ROBERT ELLIS, neu "Yr Hen Glochydd", fel y gelwid ef. Efe fyddai yn darllen y gwasanaeth gyda'r Person ar y Sabothau, &c., ac yn gweinyddu mewn priodasau ac angladdau. Clywais lawer gwaith y dyddiau hynny, mai efe oedd y darllenwr Cymraeg gorau o neb ym mhlwyf Llanllyfni. Yr oedd hefyd yn cael ei gyfrif yn brydydd da, ac yr wyf yn deall iddo gyhoeddi cyfrol o'i waith flynyddau lawer wedi hynny, a adnabyddir wrth yr enw ''Awen Llyfnwy''. Yn nechrau cyfnod yr Atgofion hyn, yr oedd yr Hen Glochydd yn sefyll hefyd fel cerddwr yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na neb yn y plwyf; ac efe oedd arweinydd [[Côr Eglwys Llanllyfni|Côr y Llan]], (yr oedd yno gôr er cyn i mi gofio), ac yr oedd yn chwarae ar fath o offeryn a elwid gan y cyffredin, "Bas y Ddeiol," ond gan y dysgedig, Violoncello. Y mae yn fwy na thebyg mai efe fu yn egwyddori Dafydd Williams ar y cyntaf, canys yr ydwyf yn cofio y byddai Dafydd yn myned i ganu i'r Llan yn fynych, tua dechrau y cyfnod hwnnw, ac yr wyf yn sicr fod gyrfa gerddorol Wm. Roberts (Wil y Crydd), wedi dechrau gydag ef. | |||
"Yr oedd yr Hen Glochydd o dymer addfwyn a didwrw, ac o ran ymddangosiad yn hynod o wladaidd, o faintioli canolig, yn cerdded yn araf, a'i het yn ei lygaid, blaenau ei draed yn troi allan dipyn yn o lew, a'i liniau yn taflu allan dipyn yn ffurf bachau crochan, fel y dywedai yr hen bobl, locsus crin-goch, ac wedi colli un o'i fysedd (agosaf i'r fawd) yn y bôn. | "Yr oedd yr Hen Glochydd o dymer addfwyn a didwrw, ac o ran ymddangosiad yn hynod o wladaidd, o faintioli canolig, yn cerdded yn araf, a'i het yn ei lygaid, blaenau ei draed yn troi allan dipyn yn o lew, a'i liniau yn taflu allan dipyn yn ffurf bachau crochan, fel y dywedai yr hen bobl, locsus crin-goch, ac wedi colli un o'i fysedd (agosaf i'r fawd) yn y bôn. | ||
"Yr oedd yn byw mewn tŷ a elwid Pen-bryn Moch, yr hwn oedd yn sefyll a'i dalcen i'r ffordd, yr ochr orllewinol iddi, oddeutu hanner ffordd o [[Pont-y-felin (Llanllyfni)|Bont y Felin]] i'r [[Melin-gerrig|Felingerrig]]; ond y mae gennyf ryw atgof ei fod wedi bod yn byw cyn myned yno yn un o dai isaf y pentref uchaf, yr ochr ddwyreiniol i'r ffordd. Wedi bod yn gwasanaethu yn Llanllyfni am fwy na deugain mlynedd, a gweinyddu mewn tua dwy fil, os nad mwy, o angladdau yn yr hen fynwent, yr ydwyf yn deall iddo yntau, ychydig yn ôl, gael bedd ynddi yn eu plith."<ref>''Y Drych'', 13.9.1877, t.2</ref> | "Yr oedd yn byw mewn tŷ a elwid Pen-bryn Moch, yr hwn oedd yn sefyll a'i dalcen i'r ffordd, yr ochr orllewinol iddi, oddeutu hanner ffordd o [[Pont-y-felin (Llanllyfni)|Bont y Felin]] i'r [[Melin-gerrig|Felingerrig]]; ond y mae gennyf ryw atgof ei fod wedi bod yn byw cyn myned yno yn un o dai isaf y pentref uchaf, yr ochr ddwyreiniol i'r ffordd. Wedi bod yn gwasanaethu yn Llanllyfni am fwy na deugain mlynedd, a gweinyddu mewn tua dwy fil, os nad mwy, o angladdau yn yr hen fynwent, yr ydwyf yn deall iddo yntau, ychydig yn ôl, gael bedd ynddi yn eu plith."<ref>''Y Drych'', 13.9.1877, t.2</ref> | ||
Golygiad diweddaraf yn ôl 10:40, 30 Tachwedd 2022
Ganed Robert Ellis (1806-1872), a gymerodd yr enw barddol "Llyfnwy", yn Penrhyn Bach, Llanllyfni ym 1806 yn fab i Ellis Dafydd a'i wraig Ann. Cyfansoddodd nifer o garolau a cherddi moesol a chyhoeddwyd casgliad bychan ohonynt dan y teitl: Lloffion Awen Llyfnwy; sef Carolau, Cerddi ac amryw Ganiadau moesol. Gan Robert Ellis, Clochydd, Llanllyfni. Prin ryfeddol ydi canmoliaeth Myrddin Fardd i'r casgliad - rhyw gerddi diddrwg-didda oedden nhw yn ei farn ef. "Nid oes ynddo ddim yn wrthwynebus, na dim ynddo yn ddeniadol", meddai Myrddin am y llyfryn. Beth bynnag, roedd Robert Ellis yn un o nifer o glochyddion eglwysig a drodd eu llaw at farddoni yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Bu farw 14 Ebrill 1872 a nodir ar ei garreg fedd iddo fod yn glochydd Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni, am 43 o flynyddoedd ac iddo wasanaethu mewn 2,556 o angladdau.[1]
Tua 1877, ysgrifennodd gŵr o'r enw William Evans a hanai o blwyf Llanllyfni ond oedd wedi ymsefydlu yn Lockport, Illinois, nifer o erthyglau llawn atgofion am Lanllyfni yn ei lencyndod. Ymysg yr atgofion, ceir darlun byw o Robert Ellis:
"Mewn cysylltiad ag Eglwys Llanllyfni, hen gymeriad diddan oedd y clochydd, Mr. ROBERT ELLIS, neu "Yr Hen Glochydd", fel y gelwid ef. Efe fyddai yn darllen y gwasanaeth gyda'r Person ar y Sabothau, &c., ac yn gweinyddu mewn priodasau ac angladdau. Clywais lawer gwaith y dyddiau hynny, mai efe oedd y darllenwr Cymraeg gorau o neb ym mhlwyf Llanllyfni. Yr oedd hefyd yn cael ei gyfrif yn brydydd da, ac yr wyf yn deall iddo gyhoeddi cyfrol o'i waith flynyddau lawer wedi hynny, a adnabyddir wrth yr enw Awen Llyfnwy. Yn nechrau cyfnod yr Atgofion hyn, yr oedd yr Hen Glochydd yn sefyll hefyd fel cerddwr yn uwch o'i ysgwyddau i fyny na neb yn y plwyf; ac efe oedd arweinydd Côr y Llan, (yr oedd yno gôr er cyn i mi gofio), ac yr oedd yn chwarae ar fath o offeryn a elwid gan y cyffredin, "Bas y Ddeiol," ond gan y dysgedig, Violoncello. Y mae yn fwy na thebyg mai efe fu yn egwyddori Dafydd Williams ar y cyntaf, canys yr ydwyf yn cofio y byddai Dafydd yn myned i ganu i'r Llan yn fynych, tua dechrau y cyfnod hwnnw, ac yr wyf yn sicr fod gyrfa gerddorol Wm. Roberts (Wil y Crydd), wedi dechrau gydag ef.
"Yr oedd yr Hen Glochydd o dymer addfwyn a didwrw, ac o ran ymddangosiad yn hynod o wladaidd, o faintioli canolig, yn cerdded yn araf, a'i het yn ei lygaid, blaenau ei draed yn troi allan dipyn yn o lew, a'i liniau yn taflu allan dipyn yn ffurf bachau crochan, fel y dywedai yr hen bobl, locsus crin-goch, ac wedi colli un o'i fysedd (agosaf i'r fawd) yn y bôn. "Yr oedd yn byw mewn tŷ a elwid Pen-bryn Moch, yr hwn oedd yn sefyll a'i dalcen i'r ffordd, yr ochr orllewinol iddi, oddeutu hanner ffordd o Bont y Felin i'r Felingerrig; ond y mae gennyf ryw atgof ei fod wedi bod yn byw cyn myned yno yn un o dai isaf y pentref uchaf, yr ochr ddwyreiniol i'r ffordd. Wedi bod yn gwasanaethu yn Llanllyfni am fwy na deugain mlynedd, a gweinyddu mewn tua dwy fil, os nad mwy, o angladdau yn yr hen fynwent, yr ydwyf yn deall iddo yntau, ychydig yn ôl, gael bedd ynddi yn eu plith."[2]