Elan Closs Stephens: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Academydd o [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]] yw '''Elan Closs Stephens''' Fe'i ganed ar 16 Mehefin 1948 yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]]. Mae hi'n arbenigo mewn polisi diwylliannol a darlledu. Mae hi hefyd yn gwasanaethu fel cyfarwyddwr anweithredol Bwrdd Llywodraeth Cymru, a arweinir gan yr Ysgrifennydd Parhaol.
Academydd o [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]] yw '''Elan Closs Stephens''' Fe'i ganed ar 16 Mehefin 1948 yn [[Tal-y-sarn|Nhal-y-sarn]]. Mae'n arbenigo mewn polisi diwylliannol a darlledu. Mae hefyd yn gwasanaethu fel cyfarwyddwr anweithredol Bwrdd Llywodraeth Cymru, a arweinir gan yr Ysgrifennydd Parhaol.


Fe'i addysgwyd yn [[Ysgol Dyffryn Nantlle]] a Choleg Somerville, Rhydychen.
Fe'i haddysgwyd yn [[Ysgol Dyffryn Nantlle]] a Choleg Somerville, Rhydychen.


Mae hi'n Athro Emeritws Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Mae hefyd yn gweithredu fel Cyfarwyddwr Menter a Throsglwyddo Gwybodaeth er mwyn galluogi prosiectau ymchwil â phartneriaid mewn diwydiant.
Mae'n Athro Emeritws Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Mae hefyd yn gweithredu fel Cyfarwyddwr Menter a Throsglwyddo Gwybodaeth er mwyn galluogi prosiectau ymchwil â phartneriaid mewn diwydiant.


Ym 1998, fe'i penodwyd yn gadeirydd Awdurdod S4C gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn Llundain, a chfodd ei hail-benodi am ail dymor hyd at 2006. Roedd yn Llywodraethwr y Sefydliad Ffilm Prydeinig tan 2007, a Chadeirydd ei bwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ystod gwaith adnewyddu y Theatr Ffilm Cenedlaethol, Southbank Centre. Bu'n gadeirydd ar Bwyllgor Ymgynghorol Cymru y Y Cyngor Prydeinig tan 2011, a roedd yn aelod o fwrdd Asiantaeth Ffilm Cymru, ac ymddiriedolwr/aelod o fwrdd Celfyddydau & Busnes.
Ym 1998, fe'i penodwyd yn gadeirydd Awdurdod S4C gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn Llundain, a chfodd ei hail-benodi am ail dymor hyd at 2006. Roedd yn Llywodraethwr y Sefydliad Ffilm Prydeinig tan 2007, a Chadeirydd ei bwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ystod gwaith adnewyddu y Theatr Ffilm Cenedlaethol, Southbank Centre. Bu'n gadeirydd ar Bwyllgor Ymgynghorol Cymru Y Cyngor Prydeinig tan 2011, ac roedd yn aelod o fwrdd Asiantaeth Ffilm Cymru, ac ymddiriedolwr/aelod o fwrdd Celfyddydau a Busnes.


Wedi cadeirio Chwarae Teg, y corff sy'n hyrwyddo datblygiad economaidd menywod yng Nghymru, yn 2009 fe'i penodwyd gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru|Llywodraeth Cynulliad Cymru fel cadeirydd y Bwrdd Adfer ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn. Yn 2006, bu'n gadeirydd ar '''Adroddiad Stephens''' yn adrodd ar ariannu a strwythur y celfyddydau yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Roedd yn aelod o Bwrdd Cyflawni a Pherfformio Strategol Llywodraeth Cymru. Ym mis Hydref 2010 cafodd ei phenodi yn aelod Cymru o Ymddiriedolaeth y BBC. Ym mis Gorffennaf 2017 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol y BBC dros Gymru. Roedd hyn yn dilyn atal yr ymgeisydd gwreiddiol, Carol Bell, gan Lywodraeth Cymru.
Wedi cadeirio Chwarae Teg, y corff sy'n hyrwyddo datblygiad economaidd menywod yng Nghymru, yn 2009 fe'i penodwyd gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru|Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gadeirydd y Bwrdd Adfer ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn. Yn 2006, bu'n gadeirydd ar '''Adroddiad Stephens''' a oedd yn adrodd ar ariannu a strwythur y celfyddydau yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Roedd yn aelod o Fwrdd Cyflawni a Pherfformio Strategol Llywodraeth Cymru. Ym mis Hydref 2010 cafodd ei phenodi yn aelod Cymru o Ymddiriedolaeth y BBC. Ym mis Gorffennaf 2017 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol y BBC dros Gymru. Roedd hyn yn dilyn atal yr ymgeisydd gwreiddiol, Carol Bell, gan Lywodraeth Cymru.


Rhwng 13 Mawrth 2017 a 12 Mawrth 2021 bu'n un o Gomisiynwyr y Comisiwn Etholiadol.
Rhwng 13 Mawrth 2017 a 12 Mawrth 2021 bu'n un o Gomisiynwyr y Comisiwn Etholiadol.




Derbyniodd Elen Closs Stephens y CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2001 am ei gwasanaethau i ddarlledu a'r Gymraeg, a fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Dyfed ar gyfer 2012/13. Yn anrhydeddau pen-blwydd y Frenhines 2019, fe'i dyrchafwyd i'r DBE am ei chyfraniad i Lywodraeth Cymru a’r byd darlledu, gan ei wneud yn Fonesig.
Derbyniodd Elan Closs Stephens y CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2001 am ei gwasanaeth i ddarlledu a'r Gymraeg, a fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Dyfed ar gyfer 2012/13. Yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2019, fe'i dyrchafwyd yn DBE am ei chyfraniad i Lywodraeth Cymru a’r byd darlledu, gan ei gwneud yn Fonesig.


Priododd Dr Roy Stephens yn 1972 (bu farw yn 1989). Mae ganddi ddau o blant sydd vbellach yn oedolion.<ref>Wicipedia. Erthygl am Elan Closs Stephens [https://cy.wikipedia.org/wiki/Elan_Closs_Stephens], cyrchwyd 14.2.2022</ref>
Priododd â Dr Roy Stephens yn 1972 (bu ef farw ym 1989). Mae ganddi ddau o blant sydd bellach yn oedolion.<ref>Wicipedia. Erthygl am Elan Closs Stephens [https://cy.wikipedia.org/wiki/Elan_Closs_Stephens], cyrchwyd 14.2.2022</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:02, 15 Chwefror 2022

Academydd o Ddyffryn Nantlle yw Elan Closs Stephens Fe'i ganed ar 16 Mehefin 1948 yn Nhal-y-sarn. Mae'n arbenigo mewn polisi diwylliannol a darlledu. Mae hefyd yn gwasanaethu fel cyfarwyddwr anweithredol Bwrdd Llywodraeth Cymru, a arweinir gan yr Ysgrifennydd Parhaol.

Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Dyffryn Nantlle a Choleg Somerville, Rhydychen.

Mae'n Athro Emeritws Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Prifysgol Aberystwyth. Mae hefyd yn gweithredu fel Cyfarwyddwr Menter a Throsglwyddo Gwybodaeth er mwyn galluogi prosiectau ymchwil â phartneriaid mewn diwydiant.

Ym 1998, fe'i penodwyd yn gadeirydd Awdurdod S4C gan yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn Llundain, a chfodd ei hail-benodi am ail dymor hyd at 2006. Roedd yn Llywodraethwr y Sefydliad Ffilm Prydeinig tan 2007, a Chadeirydd ei bwyllgor Archwilio a Llywodraethu yn ystod gwaith adnewyddu y Theatr Ffilm Cenedlaethol, Southbank Centre. Bu'n gadeirydd ar Bwyllgor Ymgynghorol Cymru Y Cyngor Prydeinig tan 2011, ac roedd yn aelod o fwrdd Asiantaeth Ffilm Cymru, ac ymddiriedolwr/aelod o fwrdd Celfyddydau a Busnes.

Wedi cadeirio Chwarae Teg, y corff sy'n hyrwyddo datblygiad economaidd menywod yng Nghymru, yn 2009 fe'i penodwyd gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn Llywodraeth Cymru|Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gadeirydd y Bwrdd Adfer ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn. Yn 2006, bu'n gadeirydd ar Adroddiad Stephens a oedd yn adrodd ar ariannu a strwythur y celfyddydau yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Roedd yn aelod o Fwrdd Cyflawni a Pherfformio Strategol Llywodraeth Cymru. Ym mis Hydref 2010 cafodd ei phenodi yn aelod Cymru o Ymddiriedolaeth y BBC. Ym mis Gorffennaf 2017 fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol y BBC dros Gymru. Roedd hyn yn dilyn atal yr ymgeisydd gwreiddiol, Carol Bell, gan Lywodraeth Cymru.

Rhwng 13 Mawrth 2017 a 12 Mawrth 2021 bu'n un o Gomisiynwyr y Comisiwn Etholiadol.


Derbyniodd Elan Closs Stephens y CBE yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2001 am ei gwasanaeth i ddarlledu a'r Gymraeg, a fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Dyfed ar gyfer 2012/13. Yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines 2019, fe'i dyrchafwyd yn DBE am ei chyfraniad i Lywodraeth Cymru a’r byd darlledu, gan ei gwneud yn Fonesig.

Priododd â Dr Roy Stephens yn 1972 (bu ef farw ym 1989). Mae ganddi ddau o blant sydd bellach yn oedolion.[1]

Cyfeiriadau

  1. Wicipedia. Erthygl am Elan Closs Stephens [1], cyrchwyd 14.2.2022