Roger Hopkins: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Peiriannydd sifil oedd '''Roger Hopkins''' (1775-1847), a hanai o Langyfelach ger Abertawe. Roedd ei dad, Evan Hopkins, yntau'n beiriannydd sifil yn gweithio ar brosiectau ym maes glo'r de, ac yn arbennig ym maes adeiladu camlesi. Cafodd brofiad efo gwaith ei dad, mae'n debyg, cyn mentro ar ei liwt ei hun. Bu'n gysylltiedig â Thramffordd Pen-y-darren pan oedd Trevithick yn rhedeg yr injan stêm gyntaf ar gledrau, a chafodd sawl contract i adeiladu rheilffyrdd cynnar yn ne Cymru, gan gynnwys Rheilffordd Trefynwy. Symudodd i Ddyfnaint wedyn, lle cafodd nifer o gontractau tebyg, gan gynnwys gweithio fel y peiriannydd cynorthwyol ar Reilffordd Plymouth a Dartmoor yn nechrau'r 1820au, gan orfod sicrhau i'r ddeddf angenrheidiol fynd trwy'r Senedd yn llwyddiannus. Roedd ganddo waith glo yng Ngwauncaegurwen hefyd, ond bu'n byw yn Plymouth gydol yr amser hyn. Ym 1842, symudodd i dde Ffrainc, ond dychwelodd i Loegr cyn marw yn nhŷ ei fab, Rice, yn Llundain, ym 1847.<ref>A.W. Skempton a Mike Chrimes, ''A Biographical Dictionary of Civil Engineers in Great Britain and Ireland'', (Llundain, 2002), tt.337-9</ref>

Priododd mewn capel y Bedyddwyr yn Abertawe â Mary Harris, merch y Parch Rees Harris o Bwllheli, gweinidog efo'r Annibynwyr (ond un a gefnogai'r Bedyddwyr),<ref>T.M. Bassett, ''Y Bedyddwyr Cymreig'', (Abertawe, 1977), t. 102</ref> ym 1806.<ref>Skempton a Chrimes, ''loc.cit.''</ref> Dyna'r cysylltiad â Gogledd Cymru, efallai, a barodd iddo gael ei ddewis fel ymgynghorydd cyntaf cwmni [[Rheilffordd Nantlle]]. Mae'n debyg iddo fod yn gysylltiedig â chynlluniau mor gynnar â 1813. Mae lle i gredu mae ef oedd yn gyfrifol am ddewis y lled o 3'6" ar gyfer y lein, a dyfarnu mai platiau haearn bwrw (fel oedd y ffasiwn yn ne Cymru), yn hytrach na chledrau ochr o ddur, oedd i gael eu defnyddio - cyngor a brofodd yn bur aflwyddiannus i'r cwmni. Ni chlywir mwy am Hopkins yn gysylltiedig â Rheilffordd Nantlle, a throdd y cwmni am gyngor at deulu Stephenson.<ref>J.I.C. Boyd, ''Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire'', Cyf. 1, (Oakwood, 1981), tt.11,15.</ref>
Ym 1806 priododd mewn capel perthynol i'r Bedyddwyr yn Abertawe â Mary Harris, merch y Parch Rees Harris o Bwllheli, gweinidog efo'r Annibynwyr (ond un a gefnogai'r Bedyddwyr),<ref>T.M. Bassett, ''Y Bedyddwyr Cymreig'', (Abertawe, 1977), t. 102</ref> <ref>Skempton a Chrimes, ''loc.cit.''</ref> Dyna'r cysylltiad â Gogledd Cymru, efallai, a barodd iddo gael ei ddewis fel ymgynghorydd cyntaf cwmni [[Rheilffordd Nantlle]]. Mae'n debyg iddo fod yn gysylltiedig â chynlluniau mor gynnar â 1813. Mae lle i gredu mae ef oedd yn gyfrifol am ddewis y lled o 3'6" ar gyfer y lein, a dyfarnu mai platiau haearn bwrw (fel oedd y ffasiwn yn ne Cymru), yn hytrach na chledrau ochr o ddur, oedd i gael eu defnyddio - cyngor a brofodd yn bur aflwyddiannus i'r cwmni. Ni chlywir mwy am Hopkins yn gysylltiedig â Rheilffordd Nantlle, a throdd y cwmni am gyngor at deulu Stephenson.<ref>J.I.C. Boyd, ''Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire'', Cyf. 1, (Oakwood, 1981), tt.11,15.</ref>

==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:23, 21 Ionawr 2022

Peiriannydd sifil oedd Roger Hopkins (1775-1847), a hanai o Langyfelach ger Abertawe. Roedd ei dad, Evan Hopkins, yntau'n beiriannydd sifil yn gweithio ar brosiectau ym maes glo'r de, ac yn arbennig ym maes adeiladu camlesi. Cafodd brofiad efo gwaith ei dad, mae'n debyg, cyn mentro ar ei liwt ei hun. Bu'n gysylltiedig â Thramffordd Pen-y-darren pan oedd Trevithick yn rhedeg yr injan stêm gyntaf ar gledrau, a chafodd sawl contract i adeiladu rheilffyrdd cynnar yn ne Cymru, gan gynnwys Rheilffordd Trefynwy. Symudodd i Ddyfnaint wedyn, lle cafodd nifer o gontractau tebyg, gan gynnwys gweithio fel y peiriannydd cynorthwyol ar Reilffordd Plymouth a Dartmoor yn nechrau'r 1820au, gan orfod sicrhau i'r ddeddf angenrheidiol fynd trwy'r Senedd yn llwyddiannus. Roedd ganddo waith glo yng Ngwauncaegurwen hefyd, ond bu'n byw yn Plymouth gydol yr amser hyn. Ym 1842, symudodd i dde Ffrainc, ond dychwelodd i Loegr cyn marw yn nhŷ ei fab, Rice, yn Llundain, ym 1847.[1]

Ym 1806 priododd mewn capel perthynol i'r Bedyddwyr yn Abertawe â Mary Harris, merch y Parch Rees Harris o Bwllheli, gweinidog efo'r Annibynwyr (ond un a gefnogai'r Bedyddwyr),[2] [3] Dyna'r cysylltiad â Gogledd Cymru, efallai, a barodd iddo gael ei ddewis fel ymgynghorydd cyntaf cwmni Rheilffordd Nantlle. Mae'n debyg iddo fod yn gysylltiedig â chynlluniau mor gynnar â 1813. Mae lle i gredu mae ef oedd yn gyfrifol am ddewis y lled o 3'6" ar gyfer y lein, a dyfarnu mai platiau haearn bwrw (fel oedd y ffasiwn yn ne Cymru), yn hytrach na chledrau ochr o ddur, oedd i gael eu defnyddio - cyngor a brofodd yn bur aflwyddiannus i'r cwmni. Ni chlywir mwy am Hopkins yn gysylltiedig â Rheilffordd Nantlle, a throdd y cwmni am gyngor at deulu Stephenson.[4]

Cyfeiriadau

  1. A.W. Skempton a Mike Chrimes, A Biographical Dictionary of Civil Engineers in Great Britain and Ireland, (Llundain, 2002), tt.337-9
  2. T.M. Bassett, Y Bedyddwyr Cymreig, (Abertawe, 1977), t. 102
  3. Skempton a Chrimes, loc.cit.
  4. J.I.C. Boyd, Narrow Gauge Railways in North Caernarvonshire, Cyf. 1, (Oakwood, 1981), tt.11,15.