William Griffith, Drws-y-coed Uchaf: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Bu '''William Griffith (1719-82)''' yn ffermio Drws-y-coed Uchaf ym mhen eithaf Dyffryn Nantlle o 1744 ymlaen, ac roedd yn un o brif hyrwyddwyr y genhadae...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Bu '''William Griffith (1719-82)''' yn ffermio Drws-y-coed Uchaf ym mhen eithaf Dyffryn Nantlle o 1744 ymlaen, ac roedd yn un o brif hyrwyddwyr y genhadaeth Forafaidd yng Ngwynedd.  
Bu '''William Griffith''' (1719-82) yn ffermio [[Drws-y-coed Uchaf]] ym mhen eithaf [[Dyffryn Nantlle]] o 1744 ymlaen, ac roedd yn un o brif hyrwyddwyr y genhadaeth [[Morafiaid Drws-y-coed|Forafaidd]] yng Ngwynedd.  


Roedd William Griffith yn ymhel â llenyddiaeth yn sylweddol a gohebai â Goronwy Owen a Dafydd Ddu Eryri (David Thomas) ymysg eraill. Ond fe'i cofir yn arbennig am groesawu cenhadon yr athrawiaeth Forafaidd i'w gartref, gyda dynion fel David Williams, David Mathias a John Morgan yn pregethu ar ei aelwyd. Roedd ei briod Alice (1730-1808), a oedd yn ferch Tyddyn Mawr, Llanfihangel y Pennant, hefyd yr un mor frwd â'i gŵr dros ddaliadau'r Morafiaid a rhannai hefyd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth. Bu farw William Griffith 20 Ebrill 1782 ac Alice 6 Mawrth 1808 ac fe'u claddwyd ym Meddgelert. Cawsant fab, a ymfudodd i America, ac wyth merch. Bu pump o'r rheini'n amlwg gyda chenhadaeth y Morafiaid yn Nulyn a Bryste. Daeth un arall o'r merched yn fam i Alicia Evans, a briododd â William Griffith (1801-81). Roedd ef yn enedigol o Lanfaglan a daeth yn weinidog amlwg gyda'r Annibynwyr ym Môn.<sup>[1]</sup>
Roedd William Griffith yn ymhel â llenyddiaeth yn sylweddol a gohebai â Goronwy Owen a Dafydd Ddu Eryri (David Thomas) ymysg eraill. Ond fe'i cofir yn arbennig am groesawu cenhadon yr athrawiaeth Forafaidd i'w gartref, gyda dynion fel David Williams, David Mathias a John Morgan yn pregethu ar ei aelwyd. Roedd ei briod Alice (1730-1808), a oedd yn ferch Tyddyn Mawr, Llanfihangel y Pennant, hefyd yr un mor frwd â'i gŵr dros ddaliadau'r Morafiaid a rhannai hefyd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth. Bu farw William Griffith 20 Ebrill 1782 ac Alice 6 Mawrth 1808 ac fe'u claddwyd ym Meddgelert. Cawsant fab, a ymfudodd i America, ac wyth merch. Bu pump o'r rheini'n amlwg gyda chenhadaeth y Morafiaid yn Nulyn a Bryste. Daeth un arall o'r merched yn fam i Alicia Evans, a briododd â [[William Griffith, Llanfaglan|William Griffith]] (1801-81). Roedd ef yn enedigol o Lanfaglan a daeth yn weinidog amlwg gyda'r Annibynwyr ym Môn.<ref>''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd at 1940'', t.282 - erthygl gan R.T. Jenkins</ref>


== Cyfeiriadau ==  
== Cyfeiriadau ==  


''Y Bywgraffiadur Cymreig hyd at 1940'', t.282 - erthygl gan R.T. Jenkins
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Amaethwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:01, 30 Tachwedd 2021

Bu William Griffith (1719-82) yn ffermio Drws-y-coed Uchaf ym mhen eithaf Dyffryn Nantlle o 1744 ymlaen, ac roedd yn un o brif hyrwyddwyr y genhadaeth Forafaidd yng Ngwynedd.

Roedd William Griffith yn ymhel â llenyddiaeth yn sylweddol a gohebai â Goronwy Owen a Dafydd Ddu Eryri (David Thomas) ymysg eraill. Ond fe'i cofir yn arbennig am groesawu cenhadon yr athrawiaeth Forafaidd i'w gartref, gyda dynion fel David Williams, David Mathias a John Morgan yn pregethu ar ei aelwyd. Roedd ei briod Alice (1730-1808), a oedd yn ferch Tyddyn Mawr, Llanfihangel y Pennant, hefyd yr un mor frwd â'i gŵr dros ddaliadau'r Morafiaid a rhannai hefyd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth. Bu farw William Griffith 20 Ebrill 1782 ac Alice 6 Mawrth 1808 ac fe'u claddwyd ym Meddgelert. Cawsant fab, a ymfudodd i America, ac wyth merch. Bu pump o'r rheini'n amlwg gyda chenhadaeth y Morafiaid yn Nulyn a Bryste. Daeth un arall o'r merched yn fam i Alicia Evans, a briododd â William Griffith (1801-81). Roedd ef yn enedigol o Lanfaglan a daeth yn weinidog amlwg gyda'r Annibynwyr ym Môn.[1]

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig hyd at 1940, t.282 - erthygl gan R.T. Jenkins