Thomas Jones, stiward chwarel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Penodwyd '''Thomas Jones''', gŵr ifanc poblogaidd, yn stiward yn  [[Chwarel yr Eifl|chwarel Trefor]] tua 1876, ar adeg pan oedd cyflogau'r chwarelwyr yn cael eu lleihau. Gwrandawodd ormod ar gwynion y gweithwyr ac nid oedd yn cyd-dynnu â'r Saeson ac oherwydd hynny fe'i diswyddwyd gan y cwmni ym mis Hydref 1880 am "various instances of misconduct". Sais uniaith, Joseph Sharpe, gafodd ei swydd. Roedd y chwarelwyr o Gymry, y mwyafrif ohonynt yn uniaith Gymraeg, yn gandryll oherwydd hyn ac yn ystyried y penodiad yn sarhad arnynt. Roedd teimladau'n codi'n gryf o blaid Thomas Jones ac roedd yntau'n gwneud ei orau i gynhyrfu'r dyfroedd. Nid oedd gan y gweithwyr unrhyw gwynion personol yn erbyn Sharpe, dim ond na fedrai siarad eu hiaith.  
Penodwyd '''Thomas Jones''', gŵr ifanc poblogaidd, yn stiward yn  [[Chwarel yr Eifl|chwarel Trefor]] tua 1876, ar adeg pan oedd cyflogau'r chwarelwyr yn cael eu lleihau. Gwrandawodd ormod ar gwynion y gweithwyr ac nid oedd yn cyd-dynnu â'r Saeson ac oherwydd hynny fe'i diswyddwyd gan y cwmni ym mis Hydref 1880 am "various instances of misconduct". Sais uniaith, Joseph Sharpe, gafodd ei swydd. Roedd y chwarelwyr o Gymry, y mwyafrif ohonynt yn uniaith Gymraeg, yn gandryll oherwydd hyn ac yn ystyried y penodiad yn sarhad arnynt. Roedd teimladau'n codi'n gryf o blaid Thomas Jones ac roedd yntau'n gwneud ei orau i gynhyrfu'r dyfroedd. Nid oedd gan y gweithwyr unrhyw gwynion personol yn erbyn Sharpe, dim ond na fedrai siarad eu hiaith.  


Aeth pethau o ddrwg i waeth a chlowyd y gwaith am ysbaid gan George Farren, y rheolwr. Fe'i hail-agorwyd ddiwedd Tachwedd 1880, ond dim ond y Saeson aeth yn ôl i weithio a rhyw ddyrnaid o Gymry gyda hwy. Roedd y mwyafrif yn parhau i fynnu gwell amodau gwaith a byw ac adfer Thomas Jones i'w swydd. Llwyddwyd i ddarbwyllo'r Cymry i gyd ond dau i beidio â gweithio a dywedir i'r ddau gael curfa dost am eu rhyfyg. O ganlyniad i hynny daeth 30 o blismyn i [[Trefor|Drefor]] a buont yno am bythefnos. Gwysiwyd Thomas Jones a rhai o'r gweithwyr gerbron yr ynadon ym Mhwllheli ar gyhuddiadau o fygwth ac ymosod a chawsant eu dirwyo. Fodd bynnag, yn ddiweddarach adferwyd Thomas Jones i'w swydd fel stiward neu fforman yn y chwarel.
Aeth pethau o ddrwg i waeth a chlowyd y gwaith am ysbaid gan George Farren, y rheolwr. Fe'i hail-agorwyd ddiwedd Tachwedd 1880, ond dim ond y Saeson aeth yn ôl i weithio a rhyw ddyrnaid o Gymry gyda hwy. Roedd y mwyafrif yn parhau i fynnu gwell amodau gwaith a byw ac adfer Thomas Jones i'w swydd. Llwyddwyd i ddarbwyllo'r Cymry i gyd ond dau i beidio â gweithio a dywedir i'r ddau gael curfa dost am eu rhyfyg. O ganlyniad i hynny daeth 30 o blismyn i [[Trefor|Drefor]] a buont yno am bythefnos. Gwysiwyd Thomas Jones a rhai o'r gweithwyr gerbron yr ynadon ym Mhwllheli ar gyhuddiadau o fygwth ac ymosod a chawsant eu dirwyo. <ref>Seiliwyd yr uchod ar gofnodion Cymdeithas Hanes Trefor ar gyfarfod a gynhaliwyd yng Nghanolfan Trefor 16 Rhagfyr 1985 pryd y cafwyd darlith gan Geraint Jones ar ''"Streic Chwarel yr Eifl, Rhagfyr 1880"''</ref>


Priododd Thomas Jones ag Ellen [Elin] (g.1848), merch i'r bardd-bregethwr-arlunydd Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon, Llanaelhaearn. Daeth Thomas i ddiwedd trychinebus ym 1887 pan syrthiodd i'w farwolaeth oddi ar Graig y Cwm. Roedd yn dywydd gwlyb a niwlog pan ddigwyddodd y ddamwain ac er y cafwyd rhai honiadau hefyd ei fod wedi bod yn yfed cyn y digwyddiad ni phrofwyd hynny naill ffordd na'r llall. Yn y cwest a ddilynodd dywedwyd iddo farw o anafiadau lluosog, gan gynnwys niweidiau difrifol i'w ben, ac mewn tystiolaeth dywedodd gwraig tyddyn Nant Cwm, a oedd fwy neu lai'n union o dan y graig, iddi glywed sgrechfeydd enbyd wrth i Thomas Jones syrthio. Ganwyd pump o blant iddo ef ac Elin ac mae nifer o'u disgynyddion yn hysbys o hyd. <sup>[2]</sup>
Priododd Thomas Jones ag Ellen [Elin] (g.1848), merch i'r bardd-bregethwr-arlunydd [[Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon]], [[Llanaelhaearn]]. Daeth Thomas i ddiwedd trychinebus ym 1887 pan syrthiodd i'w farwolaeth oddi ar Graig y Cwm. Ni chafodd ei waith yn ôl yn [[Chwarel yr Eifl]] ar ôl ei ddiswyddo rhyw saith mlynedd ynghynt ac erbyn hynny roedd wedi ei benodi'n stiward neu fforman yn un o chwareli Nant Gwrtheyrn ac wrth gerdded i'r Nant o Lanaelhaearn ar hyd y llwybr peryglus uwchben Craig y Cwm fe lithrodd a syrthio i'w dranc. Yn y cwest a ddilynodd dywedwyd iddo farw o anafiadau lluosog, gan gynnwys niweidiau difrifol i'w ben, a nodwyd hefyd ei fod wedi bod yn yfed yn sylweddol - ''was intoxicated'' - pan ddigwyddodd y ddamwain. Pan ddigwyddodd y ddamwain roedd gwraig tyddyn Nant Cwm, a oedd fwy neu lai'n union o dan y graig, yn rhoi dillad ar y lein pan glywodd sgrechfeydd enbyd a gweld dyn yn syrthio dros y dibyn. Cafwyd hyd i'r corff yn fuan wedyn. Efallai mai'r rheswm pam y trodd Thomas Jones at ddiod yw iddo ef a'i briod gael profedigaeth fawr ychydig fisoedd ynghynt pan fu farw mab iddynt, Thomas arall, yn bymtheg oed. Mae'r bachgen, ynghyd â Thomas Jones ac Elin, wedi eu claddu ym mynwent Llithfaen. Ganwyd pump o blant i gyd iddynt ac mae nifer o'u disgynyddion yn hysbys o hyd. <ref>Geraint Jones, ''Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon'', (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), t.65 - achau Thomas Jones ac Ellen [Elin] Hughes</ref>
 
 
 
<ref>Seiliwyd yr uchod ar gofnodion Cymdeithas Hanes Trefor ar gyfarfod a gynhaliwyd yng Nghanolfan Trefor 16 Rhagfyr 1985 pryd y cafwyd darlith gan Geraint Jones ar ''"Streic Chwarel yr Eifl, Rhagfyr 1880"''.</ref>>  


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


2. Geraint Jones, ''Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon'', (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), t.65 - achau Thomas Jones ac Ellen [Elin] Hughes
[[Categori:Pobl]]  
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Stiwardiaid chwareli]]
[[Categori:Stiwardiaid chwareli]]
[[Categori:Chwarelydda]]
[[Categori:Chwarelydda]]
[[Categori:Undebaeth a streiciau]]
[[Categori:Undebaeth a streiciau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 00:11, 5 Rhagfyr 2021

Penodwyd Thomas Jones, gŵr ifanc poblogaidd, yn stiward yn chwarel Trefor tua 1876, ar adeg pan oedd cyflogau'r chwarelwyr yn cael eu lleihau. Gwrandawodd ormod ar gwynion y gweithwyr ac nid oedd yn cyd-dynnu â'r Saeson ac oherwydd hynny fe'i diswyddwyd gan y cwmni ym mis Hydref 1880 am "various instances of misconduct". Sais uniaith, Joseph Sharpe, gafodd ei swydd. Roedd y chwarelwyr o Gymry, y mwyafrif ohonynt yn uniaith Gymraeg, yn gandryll oherwydd hyn ac yn ystyried y penodiad yn sarhad arnynt. Roedd teimladau'n codi'n gryf o blaid Thomas Jones ac roedd yntau'n gwneud ei orau i gynhyrfu'r dyfroedd. Nid oedd gan y gweithwyr unrhyw gwynion personol yn erbyn Sharpe, dim ond na fedrai siarad eu hiaith.

Aeth pethau o ddrwg i waeth a chlowyd y gwaith am ysbaid gan George Farren, y rheolwr. Fe'i hail-agorwyd ddiwedd Tachwedd 1880, ond dim ond y Saeson aeth yn ôl i weithio a rhyw ddyrnaid o Gymry gyda hwy. Roedd y mwyafrif yn parhau i fynnu gwell amodau gwaith a byw ac adfer Thomas Jones i'w swydd. Llwyddwyd i ddarbwyllo'r Cymry i gyd ond dau i beidio â gweithio a dywedir i'r ddau gael curfa dost am eu rhyfyg. O ganlyniad i hynny daeth 30 o blismyn i Drefor a buont yno am bythefnos. Gwysiwyd Thomas Jones a rhai o'r gweithwyr gerbron yr ynadon ym Mhwllheli ar gyhuddiadau o fygwth ac ymosod a chawsant eu dirwyo. [1]

Priododd Thomas Jones ag Ellen [Elin] (g.1848), merch i'r bardd-bregethwr-arlunydd Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon, Llanaelhaearn. Daeth Thomas i ddiwedd trychinebus ym 1887 pan syrthiodd i'w farwolaeth oddi ar Graig y Cwm. Ni chafodd ei waith yn ôl yn Chwarel yr Eifl ar ôl ei ddiswyddo rhyw saith mlynedd ynghynt ac erbyn hynny roedd wedi ei benodi'n stiward neu fforman yn un o chwareli Nant Gwrtheyrn ac wrth gerdded i'r Nant o Lanaelhaearn ar hyd y llwybr peryglus uwchben Craig y Cwm fe lithrodd a syrthio i'w dranc. Yn y cwest a ddilynodd dywedwyd iddo farw o anafiadau lluosog, gan gynnwys niweidiau difrifol i'w ben, a nodwyd hefyd ei fod wedi bod yn yfed yn sylweddol - was intoxicated - pan ddigwyddodd y ddamwain. Pan ddigwyddodd y ddamwain roedd gwraig tyddyn Nant Cwm, a oedd fwy neu lai'n union o dan y graig, yn rhoi dillad ar y lein pan glywodd sgrechfeydd enbyd a gweld dyn yn syrthio dros y dibyn. Cafwyd hyd i'r corff yn fuan wedyn. Efallai mai'r rheswm pam y trodd Thomas Jones at ddiod yw iddo ef a'i briod gael profedigaeth fawr ychydig fisoedd ynghynt pan fu farw mab iddynt, Thomas arall, yn bymtheg oed. Mae'r bachgen, ynghyd â Thomas Jones ac Elin, wedi eu claddu ym mynwent Llithfaen. Ganwyd pump o blant i gyd iddynt ac mae nifer o'u disgynyddion yn hysbys o hyd. [2]

Cyfeiriadau

  1. Seiliwyd yr uchod ar gofnodion Cymdeithas Hanes Trefor ar gyfarfod a gynhaliwyd yng Nghanolfan Trefor 16 Rhagfyr 1985 pryd y cafwyd darlith gan Geraint Jones ar "Streic Chwarel yr Eifl, Rhagfyr 1880"
  2. Geraint Jones, Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon, (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), t.65 - achau Thomas Jones ac Ellen [Elin] Hughes