Thomas Jones, stiward chwarel: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Penodwyd '''Thomas Jones''', gŵr ifanc poblogaidd, yn stiward yn chwarel Trefor tua 1876, ar adeg pan oedd cyflogau'r chwarelwyr yn...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Penodwyd '''Thomas Jones''', gŵr ifanc poblogaidd, yn stiward yn  [[Chwarel yr Eifl|chwarel Trefor]] tua 1876, ar adeg pan oedd cyflogau'r chwarelwyr yn cael eu lleihau. Gwrandawodd ormod ar gwynion y gweithwyr ac nid oedd yn cyd-dynnu â'r Saeson ac oherwydd hynny fe'i diswyddwyd gan y cwmni ym mis Hydref 1880 am "various instances of misconduct". Sais uniaith, Joseph Sharpe, gafodd ei swydd. Roedd y chwarelwyr o Gymry, y mwyafrif ohonynt yn uniaith Gymraeg, yn gandryll oherwydd hyn ac yn ystyried y penodiad yn sarhad arnynt. Roedd teimladau'n codi'n gryf o blaid Thomas Jones ac roedd yntau'n gwneud ei orau i gynhyrfu'r dyfroedd. Nid oedd gan y gweithwyr unrhyw gwynion personol yn erbyn Sharpe, dim ond na fedrai siarad eu hiaith.  
Penodwyd '''Thomas Jones''', gŵr ifanc poblogaidd, yn stiward yn  [[Chwarel yr Eifl|chwarel Trefor]] tua 1876, ar adeg pan oedd cyflogau'r chwarelwyr yn cael eu lleihau. Gwrandawodd ormod ar gwynion y gweithwyr ac nid oedd yn cyd-dynnu â'r Saeson ac oherwydd hynny fe'i diswyddwyd gan y cwmni ym mis Hydref 1880 am "various instances of misconduct". Sais uniaith, Joseph Sharpe, gafodd ei swydd. Roedd y chwarelwyr o Gymry, y mwyafrif ohonynt yn uniaith Gymraeg, yn gandryll oherwydd hyn ac yn ystyried y penodiad yn sarhad arnynt. Roedd teimladau'n codi'n gryf o blaid Thomas Jones ac roedd yntau'n gwneud ei orau i gynhyrfu'r dyfroedd. Nid oedd gan y gweithwyr unrhyw gwynion personol yn erbyn Sharpe, dim ond na fedrai siarad eu hiaith.  


Aeth pethau o ddrwg i waeth a chlowyd y gwaith gan Farren am ysbaid. Fe'i hail-agorwyd ddiwedd Tachwedd 1880, ond dim ond y Saeson aeth yn ôl i weithio a rhyw ddyrnaid o Gymry gyda hwy. Roedd y mwyafrif yn parhau i fynnu gwell amodau gwaith a byw ac adfer Thomas Jones i'w swydd. Llwyddwyd i ddarbwyllo'r Cymry i gyd ond dau i beidio â gweithio a dywedir i'r ddau gael curfa dost am eu rhyfyg. O ganlyniad i hynny daeth 30 o blismyn i [[Trefor|Drefor]] a buont yno am bythefnos. Gwysiwyd Thomas Jones a rhai o'r gweithwyr gerbron yr ynadon ym Mhwllheli ar gyhuddiadau o fygwth ac ymosod a chawsant eu dirwyo.<ref>Seiliwyd yr uchod ar gofnodion Cymdeithas Hanes Trefor ar gyfarfod a gynhaliwyd yng Nghanolfan Trefor 16 Rhagfyr 1985 pryd y cafwyd darlith gan Geraint Jones ar ''"Streic Chwarel yr Eifl, Rhagfyr 1880"''.</ref>>  
Aeth pethau o ddrwg i waeth a chlowyd y gwaith am ysbaid gan George Farren, y rheolwr. Fe'i hail-agorwyd ddiwedd Tachwedd 1880, ond dim ond y Saeson aeth yn ôl i weithio a rhyw ddyrnaid o Gymry gyda hwy. Roedd y mwyafrif yn parhau i fynnu gwell amodau gwaith a byw ac adfer Thomas Jones i'w swydd. Llwyddwyd i ddarbwyllo'r Cymry i gyd ond dau i beidio â gweithio a dywedir i'r ddau gael curfa dost am eu rhyfyg. O ganlyniad i hynny daeth 30 o blismyn i [[Trefor|Drefor]] a buont yno am bythefnos. Gwysiwyd Thomas Jones a rhai o'r gweithwyr gerbron yr ynadon ym Mhwllheli ar gyhuddiadau o fygwth ac ymosod a chawsant eu dirwyo. <ref>Seiliwyd yr uchod ar gofnodion Cymdeithas Hanes Trefor ar gyfarfod a gynhaliwyd yng Nghanolfan Trefor 16 Rhagfyr 1985 pryd y cafwyd darlith gan Geraint Jones ar ''"Streic Chwarel yr Eifl, Rhagfyr 1880"''</ref>
 
Priododd Thomas Jones ag Ellen [Elin] (g.1848), merch i'r bardd-bregethwr-arlunydd [[Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon]], [[Llanaelhaearn]]. Daeth Thomas i ddiwedd trychinebus ym 1887 pan syrthiodd i'w farwolaeth oddi ar Graig y Cwm. Ni chafodd ei waith yn ôl yn [[Chwarel yr Eifl]] ar ôl ei ddiswyddo rhyw saith mlynedd ynghynt ac erbyn hynny roedd wedi ei benodi'n stiward neu fforman yn un o chwareli Nant Gwrtheyrn ac wrth gerdded i'r Nant o Lanaelhaearn ar hyd y llwybr peryglus uwchben Craig y Cwm fe lithrodd a syrthio i'w dranc. Yn y cwest a ddilynodd dywedwyd iddo farw o anafiadau lluosog, gan gynnwys niweidiau difrifol i'w ben, a nodwyd hefyd ei fod wedi bod yn yfed yn sylweddol - ''was intoxicated'' - pan ddigwyddodd y ddamwain. Pan ddigwyddodd y ddamwain roedd gwraig tyddyn Nant Cwm, a oedd fwy neu lai'n union o dan y graig, yn rhoi dillad ar y lein pan glywodd sgrechfeydd enbyd a gweld dyn yn syrthio dros y dibyn. Cafwyd hyd i'r corff yn fuan wedyn. Efallai mai'r rheswm pam y trodd Thomas Jones at ddiod yw iddo ef a'i briod gael profedigaeth fawr ychydig fisoedd ynghynt pan fu farw mab iddynt, Thomas arall, yn bymtheg oed. Mae'r bachgen, ynghyd â Thomas Jones ac Elin, wedi eu claddu ym mynwent Llithfaen. Ganwyd pump o blant i gyd iddynt ac mae nifer o'u disgynyddion yn hysbys o hyd. <ref>Geraint Jones, ''Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon'', (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), t.65 - achau Thomas Jones ac Ellen [Elin] Hughes</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==


[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]  
[[Categori:Stiwardiaid chwareli]]
[[Categori:Stiwardiaid chwareli]]
[[Categori:Chwarelydda]]
[[Categori:Chwarelydda]]
[[Categori:Undebaeth a streiciau]]
[[Categori:Undebaeth a streiciau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 00:11, 5 Rhagfyr 2021

Penodwyd Thomas Jones, gŵr ifanc poblogaidd, yn stiward yn chwarel Trefor tua 1876, ar adeg pan oedd cyflogau'r chwarelwyr yn cael eu lleihau. Gwrandawodd ormod ar gwynion y gweithwyr ac nid oedd yn cyd-dynnu â'r Saeson ac oherwydd hynny fe'i diswyddwyd gan y cwmni ym mis Hydref 1880 am "various instances of misconduct". Sais uniaith, Joseph Sharpe, gafodd ei swydd. Roedd y chwarelwyr o Gymry, y mwyafrif ohonynt yn uniaith Gymraeg, yn gandryll oherwydd hyn ac yn ystyried y penodiad yn sarhad arnynt. Roedd teimladau'n codi'n gryf o blaid Thomas Jones ac roedd yntau'n gwneud ei orau i gynhyrfu'r dyfroedd. Nid oedd gan y gweithwyr unrhyw gwynion personol yn erbyn Sharpe, dim ond na fedrai siarad eu hiaith.

Aeth pethau o ddrwg i waeth a chlowyd y gwaith am ysbaid gan George Farren, y rheolwr. Fe'i hail-agorwyd ddiwedd Tachwedd 1880, ond dim ond y Saeson aeth yn ôl i weithio a rhyw ddyrnaid o Gymry gyda hwy. Roedd y mwyafrif yn parhau i fynnu gwell amodau gwaith a byw ac adfer Thomas Jones i'w swydd. Llwyddwyd i ddarbwyllo'r Cymry i gyd ond dau i beidio â gweithio a dywedir i'r ddau gael curfa dost am eu rhyfyg. O ganlyniad i hynny daeth 30 o blismyn i Drefor a buont yno am bythefnos. Gwysiwyd Thomas Jones a rhai o'r gweithwyr gerbron yr ynadon ym Mhwllheli ar gyhuddiadau o fygwth ac ymosod a chawsant eu dirwyo. [1]

Priododd Thomas Jones ag Ellen [Elin] (g.1848), merch i'r bardd-bregethwr-arlunydd Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon, Llanaelhaearn. Daeth Thomas i ddiwedd trychinebus ym 1887 pan syrthiodd i'w farwolaeth oddi ar Graig y Cwm. Ni chafodd ei waith yn ôl yn Chwarel yr Eifl ar ôl ei ddiswyddo rhyw saith mlynedd ynghynt ac erbyn hynny roedd wedi ei benodi'n stiward neu fforman yn un o chwareli Nant Gwrtheyrn ac wrth gerdded i'r Nant o Lanaelhaearn ar hyd y llwybr peryglus uwchben Craig y Cwm fe lithrodd a syrthio i'w dranc. Yn y cwest a ddilynodd dywedwyd iddo farw o anafiadau lluosog, gan gynnwys niweidiau difrifol i'w ben, a nodwyd hefyd ei fod wedi bod yn yfed yn sylweddol - was intoxicated - pan ddigwyddodd y ddamwain. Pan ddigwyddodd y ddamwain roedd gwraig tyddyn Nant Cwm, a oedd fwy neu lai'n union o dan y graig, yn rhoi dillad ar y lein pan glywodd sgrechfeydd enbyd a gweld dyn yn syrthio dros y dibyn. Cafwyd hyd i'r corff yn fuan wedyn. Efallai mai'r rheswm pam y trodd Thomas Jones at ddiod yw iddo ef a'i briod gael profedigaeth fawr ychydig fisoedd ynghynt pan fu farw mab iddynt, Thomas arall, yn bymtheg oed. Mae'r bachgen, ynghyd â Thomas Jones ac Elin, wedi eu claddu ym mynwent Llithfaen. Ganwyd pump o blant i gyd iddynt ac mae nifer o'u disgynyddion yn hysbys o hyd. [2]

Cyfeiriadau

  1. Seiliwyd yr uchod ar gofnodion Cymdeithas Hanes Trefor ar gyfarfod a gynhaliwyd yng Nghanolfan Trefor 16 Rhagfyr 1985 pryd y cafwyd darlith gan Geraint Jones ar "Streic Chwarel yr Eifl, Rhagfyr 1880"
  2. Geraint Jones, Gŵr Hynod Uwchlaw'rffynnon, (Gwasg Carreg Gwalch, 2008), t.65 - achau Thomas Jones ac Ellen [Elin] Hughes