Jerry Hunter: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 5: Llinell 5:
Mae'r Dr Jerry Hunter yn dod yn wreiddiol o Cincinnati, Ohio. Pan oedd yn astudio Saesneg ym Mhrifysgol Cincinnati cyflwynwyd llenyddiaeth Gymraeg iddo. Daeth i Gymru ac i Lanbedr Pont Steffan i ddysgu Cymraeg ar gwrs dwys, ac wedyn i Brifysgol Aberystwyth i ddilyn MPhil yn y Gymraeg.
Mae'r Dr Jerry Hunter yn dod yn wreiddiol o Cincinnati, Ohio. Pan oedd yn astudio Saesneg ym Mhrifysgol Cincinnati cyflwynwyd llenyddiaeth Gymraeg iddo. Daeth i Gymru ac i Lanbedr Pont Steffan i ddysgu Cymraeg ar gwrs dwys, ac wedyn i Brifysgol Aberystwyth i ddilyn MPhil yn y Gymraeg.


Aeth yn ôl i Cincinnati a bu yn athro yno, yn gweithio ar fferm ei dad ac yn weithiwr cyflogedig i Greenpeace.
Aeth yn ôl i Cincinnati a bu'n athro yno, yn gweithio ar fferm ei dad ac yn weithiwr cyflogedig i Greenpeace.
Cafodd ddoethuriaeth o Brifysgol Harvard ar ôl astudio Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd.
Cafodd ddoethuriaeth o Brifysgol Harvard ar ôl astudio Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd.
Wedyn bu yn ddarlithydd yn Harvard am ychydig cyn dod yn ôl i Gymru.
Wedyn bu'n ddarlithydd yn Harvard am ychydig cyn dod yn ôl i Gymru.


Mae wedi dal swyddi academaidd ym Mhrifysgolion Caerdydd a Bangor. Mae'n un o'r aelodau a sefydlodd grŵp Cymuned.
Mae wedi dal swyddi academaidd ym Mhrifysgolion Caerdydd a Bangor. Mae'n Athro y Gymraeg a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor erbyn hyn. Ac yntau wedi uniaethu gydag achosion sydd o bryder i'r gymuned Gymraeg, fo oedd un o'r rhai a sefydlodd grŵp Cymuned, ac fe deithiodd i Genefa yn 2003 i gyflwyno mater diffyg tai a dirywiad y Gymraeg o flaen Gweithgor y Cenhedloedd Unedig ar Leiafrifoedd.<ref>The Free Library, [https://www.thefreelibrary.com/Cymuned+makes+UN+case-a0101640404], cyrchwyd 16.11.2021</ref>


Enwyd ei lyfr ''Soffestri’r Saeson'' (2000) ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2001. Enillodd ei lyfr ''Llwch Cenhedloedd'' y wobr yn 2004. Enillodd y nofel ''Gwenddydd'' y Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010.<ref>Tudalen Jerry Hunter ar Wicipedia, cyrchwyd 16.11.2021</ref>
Enwyd ei lyfr ''Soffestri’r Saeson'' (2000) ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2001. Enillodd ei lyfr ''Llwch Cenhedloedd'' y wobr yn 2004. Enillodd y nofel ''Gwenddydd'' y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010.<ref>Tudalen Jerry Hunter ar Wicipedia, cyrchwyd 16.11.2021</ref>


Ar ôl cwrdd â'i wraig, yr actores a'r Cynghorydd Sir Judith Humphreys, fe ymgartrefodd ym mentref [[Pen-y-groes]].<ref>Gwybodaeth leol</ref>  
Ar ôl cwrdd â'i wraig, yr actores a'r Cynghorydd Sir Judith Humphreys, fe ymgartrefodd ym mhentref [[Pen-y-groes]].<ref>Gwybodaeth leol</ref>  


== Llyfryddiaeth ==
== Llyfryddiaeth ==

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:20, 7 Rhagfyr 2021

Academydd a llenor Americanaidd yw'r Dr Jerry Hunter (ganwyd 1965).

Bywgraffiad

Mae'r Dr Jerry Hunter yn dod yn wreiddiol o Cincinnati, Ohio. Pan oedd yn astudio Saesneg ym Mhrifysgol Cincinnati cyflwynwyd llenyddiaeth Gymraeg iddo. Daeth i Gymru ac i Lanbedr Pont Steffan i ddysgu Cymraeg ar gwrs dwys, ac wedyn i Brifysgol Aberystwyth i ddilyn MPhil yn y Gymraeg.

Aeth yn ôl i Cincinnati a bu'n athro yno, yn gweithio ar fferm ei dad ac yn weithiwr cyflogedig i Greenpeace. Cafodd ddoethuriaeth o Brifysgol Harvard ar ôl astudio Ieithoedd a Llenyddiaethau Celtaidd. Wedyn bu'n ddarlithydd yn Harvard am ychydig cyn dod yn ôl i Gymru.

Mae wedi dal swyddi academaidd ym Mhrifysgolion Caerdydd a Bangor. Mae'n Athro y Gymraeg a Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor erbyn hyn. Ac yntau wedi uniaethu gydag achosion sydd o bryder i'r gymuned Gymraeg, fo oedd un o'r rhai a sefydlodd grŵp Cymuned, ac fe deithiodd i Genefa yn 2003 i gyflwyno mater diffyg tai a dirywiad y Gymraeg o flaen Gweithgor y Cenhedloedd Unedig ar Leiafrifoedd.[1]

Enwyd ei lyfr Soffestri’r Saeson (2000) ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yn 2001. Enillodd ei lyfr Llwch Cenhedloedd y wobr yn 2004. Enillodd y nofel Gwenddydd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd 2010.[2]

Ar ôl cwrdd â'i wraig, yr actores a'r Cynghorydd Sir Judith Humphreys, fe ymgartrefodd ym mhentref Pen-y-groes.[3]

Llyfryddiaeth

Cymraeg

  • Soffestri’r Saeson (Gwasg Prifysgol Cymru, 2000)
  • Llwch Cenhedloedd (Gwasg Carreg Gwalch, 2003)
  • I Ddeffro Ysbryd y Wlad: Robert Everett a’r Ymgyrch yn erbyn Caethwasanaeth Americanaidd (Gwasg Carreg Gwalch, 2007)
  • Ceffylau'r Cymylau (Gwasg Gomer, 2010)
  • Gwenddydd (Gwasg Gwynedd, 2010)
  • Llwybrau Cenhedloedd (Gwasg Prifysgol Cymru, 2012)
  • Gwreiddyn Chwerw (Gwasg Gwynedd, 2012)
  • Ebargofiant (Y Lolfa, 2014)
  • Y Fro Dywyll (Y Lolfa, 2014)
  • Ynys Fadog (Y Lolfa, 2018)

Saesneg

  • Welsh Writing from the American Civil War (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007)
  • Dark Territory (Y Lolfa, 2018)

Cyfeiriadau

  1. The Free Library, [1], cyrchwyd 16.11.2021
  2. Tudalen Jerry Hunter ar Wicipedia, cyrchwyd 16.11.2021
  3. Gwybodaeth leol