Cymdeithas Gydweithredol yr Eifl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Cymdeithas Gydweithredol yr Eifl''' yn fudiad a sefydlwyd yn [[Trefor|Nhrefor yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i sefydlu siop i brynu a gwerthu bwydydd a dilladau.
Roedd '''Cymdeithas Gydweithredol yr Eifl''' yn fudiad a sefydlwyd yn [[Trefor|Nhrefor]] yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i sefydlu siop i brynu a gwerthu bwydydd a dilladau.


Methiant fu ymgais cwmni'r chwarel, y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]], i sefydlu siop yn ei adeiladau yn [[Y Gorllwyn]] ym 1866 gan iddi gau ymhen 11 mis o ddiffyg cefnogaeth y chwarelwyr. Yn ystod y blynyddoedd dilynol agorodd sawl siop fechan yn y pentref, rhai'n fwy llwyddiannus nag eraill. Fodd bynnag, daeth awydd i sefydlu siop gymunedol a ffurfiwyd pwyllgor i roi'r fenter ar y gweill. Agorwyd y busnes i ddechrau yn 26 Ffordd yr Eifl (neu Farren Street fel roedd bryd hynny) ac yn ddiweddarach symudodd i safle mwy, sef yn nhri thŷ Trem y Môr (neu Sea View fel y'i gelwid yr adeg honno). Yn y blynyddoedd cynnar gwirfoddolwyr fyddai'n gyfrifol am y siop, gyda mwyafrif y cwsmeriaid yn talu am eu nwyddau yn fisol a chael difidend yn ôl faint roeddent wedi'i brynu. Ar y dechrau telid pum swllt yn y bunt o ddifidend gan nad oedd raid talu cyflogau. Ond pan gafwyd rheolwr a staff cyflogedig i weithio yn y busnes o tua 1920 ymlaen, gostyngodd y difidend yn raddol nes oedd yn ddim ond chwe cheiniog yn y bunt erbyn 1969.
Methiant fu ymgais cwmni'r chwarel, y [[Cwmni Ithfaen Cymreig]], i sefydlu siop yn ei adeiladau yn [[Y Gorllwyn]] ym 1866 gan iddi gau ymhen 11 mis o ddiffyg cefnogaeth y chwarelwyr. Yn ystod y blynyddoedd dilynol agorodd sawl siop fechan yn y pentref, rhai'n fwy llwyddiannus nag eraill. Fodd bynnag, daeth awydd i sefydlu siop gymunedol a ffurfiwyd pwyllgor i roi'r fenter ar y gweill. Agorwyd y busnes i ddechrau yn 26 Ffordd yr Eifl (neu Farren Street fel roedd bryd hynny) ac yn ddiweddarach symudodd i safle mwy, sef yn nhri thŷ 17, 19 a 21 Trem y Môr (neu Sea View fel y'i gelwid yr adeg honno). Yn y blynyddoedd cynnar gwirfoddolwyr fyddai'n gyfrifol am y siop, gyda mwyafrif y cwsmeriaid yn talu am eu nwyddau yn fisol a chael difidend yn ôl faint roeddent wedi'i brynu. Ar y dechrau telid pum swllt yn y bunt o ddifidend gan nad oedd raid talu cyflogau. Ond pan gafwyd rheolwr a staff cyflogedig i weithio yn y busnes o tua 1920 ymlaen, gostyngodd y difidend yn raddol nes oedd yn ddim ond chwe cheiniog yn y bunt erbyn 1969.


Yn y dyddiau cynnar deuai llawer o nwyddau'r siop, neu'r Stôr fel y'i gelwid gan genedlaethau o drigolion Trefor, i'r cei ar longau cwmni'r chwarel, yn ogystal â nwyddau i rai o siopau eraill annibynnol y pentref. Dywed Gwilym Owen yn ei gyfrol ''Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl''<ref>Gwilym Owen, ''Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl'', (Penrhyndeudraeth, 1972), t.83.</ref> fod yna rai yn elyniaethus tuag at y Stôr a bod nwyddau'r Stôr yn cael eu lluchio'n ddiofal i'r wagenni tra cymerid gofal neilltuol gyda nwyddau'r siopau eraill. Beth bynnag y gwir am hynny, mynd o nerth i nerth wnaeth y Stôr gan symud ym 1933 i'w chartref olaf, sef Siop Glandŵr ar [[Pen Hendra|Ben Hendra]] ynghanol y pentref, adeilad a brynwyd oddi wrth Benjamin Roberts. Yno tyfodd yn fusnes sylweddol a hunangynhaliol. Rhannwyd yr adeilad yn ddwy ran, gyda siop fwyd yn un rhan a siop yn gwerthu dilladau a nwyddau tŷ yn y llall. Hefyd agorwyd becws sylweddolyn y cefn ac roedd glo a pharaffin ar werth hefyd. Yn ogystal roedd cigydd yn y siop ac agorwyd lladd-dy newydd ar dir Bryn Gwenith i ddarparu cig i'r Stôr.  
Yn y dyddiau cynnar deuai llawer o nwyddau'r siop, neu'r Stôr fel y'i gelwid gan genedlaethau o drigolion Trefor, i'r cei ar longau cwmni'r chwarel, yn ogystal â nwyddau i rai o siopau eraill annibynnol y pentref. Dywed Gwilym Owen yn ei gyfrol ''Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl''<ref>Gwilym Owen, ''Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl'', (Penrhyndeudraeth, 1972), t.83.</ref> fod yna rai yn elyniaethus tuag at y Stôr a bod nwyddau'r Stôr yn cael eu lluchio'n ddiofal i'r wagenni tra cymerid gofal neilltuol gyda nwyddau'r siopau eraill. Beth bynnag y gwir am hynny, mynd o nerth i nerth wnaeth y Stôr gan symud ym 1933 i'w chartref olaf, sef Siop Glandŵr ar [[Pen Hendra|Ben Hendra]] ynghanol y pentref, adeilad a brynwyd oddi wrth Benjamin Roberts. Yno tyfodd yn fusnes sylweddol a hunangynhaliol. Rhannwyd yr adeilad yn ddwy ran, gyda siop fwyd yn un rhan a siop yn gwerthu dilladau a nwyddau tŷ yn y llall. Hefyd agorwyd becws sylweddol yn y cefn ac roedd glo a pharaffin ar werth hefyd. Yn ogystal roedd cigydd yn y siop ac agorwyd lladd-dy newydd ar dir Bryn Gwenith i ddarparu cig i'r Stôr.  


Ganol y 1960au adeiladwyd estyniad to fflat modern i'r Stôr a symudwyd y siop fwyd a'r cigydd i'r estyniad hwnnw - lle mae unig siop y pentref erbyn hyn. I wneud lle i'r estyniad dymchwelwyd dau o'r tai cyntaf un i'w hadeiladu gan gwmni'r gwaith yn Nhrefor pan sefydlwyd y pentref ym 1856. Yn y 1960au a'r 70au Miss Lilly Newbold a deyrnasai dros y siop ddillad ac offer tŷ. Hanai o un o'r teuluoedd niferus o Saeson a ddaeth i weithio i'r gwaith ac er yn rhugl ei Chymraeg byddai'n troi i'r Saesneg yn bur aml. Ar un adeg dechreuodd werthu tân gwyllt gan ddweud "I've got everything children, bangers and bombers and rockets and wheels." Rhwng y siop fwyd a'r siop ddillad roedd swyddfa fach, fach ac yno byddai Miss Ivy Jane Jones, Croeshigol, yn gofalu am y gwaith papur a gwneud cyfrifon pawb a dalai'n fisol a chael eu difidend. Rheolwyr y Stôr yn y cyfnod yma oedd Owen Griffith Owen, dyn amlwg yn [[Capel Gosen (MC), Trefor|Eglwys Gosen]], a'i olynydd, Harold James, ill dau wedi eu magu yn Nhrefor.  
Ganol y 1960au adeiladwyd estyniad to fflat modern i'r Stôr a symudwyd y siop fwyd a'r cigydd i'r estyniad hwnnw - lle mae unig siop y pentref erbyn hyn. I wneud lle i'r estyniad dymchwelwyd dau o'r tai cyntaf un i'w hadeiladu gan gwmni'r gwaith yn Nhrefor pan sefydlwyd y pentref ym 1856. Yn y 1960au a'r 70au Miss Lilly Newbold a deyrnasai dros y siop ddillad ac offer tŷ. Hanai o un o'r teuluoedd niferus o Saeson a ddaeth i weithio i'r gwaith ac er yn rhugl ei Chymraeg byddai'n troi i'r Saesneg yn bur aml. Ar un adeg dechreuodd werthu tân gwyllt gan ddweud "I've got everything children, bangers and bombers and rockets and wheels." Rhwng y siop fwyd a'r siop ddillad roedd swyddfa fach, fach ac yno byddai Miss Ivy Jane Jones, Croeshigol, yn gofalu am y gwaith papur a gwneud cyfrifon pawb a dalai'n fisol a chael eu difidend. Rheolwyr y Stôr yn y cyfnod yma oedd Owen Griffith Owen, dyn amlwg yn [[Capel Gosen (MC), Trefor|Eglwys Gosen]], a'i olynydd, Harold James, ill dau wedi eu magu yn Nhrefor.  
Llinell 11: Llinell 11:


[[Categori:Siopau]]
[[Categori:Siopau]]
[[Categori:Diwydiant a MMasnach]]
[[Categori:Diwydiant a Masnach]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:57, 28 Hydref 2021

Roedd Cymdeithas Gydweithredol yr Eifl yn fudiad a sefydlwyd yn Nhrefor yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg i sefydlu siop i brynu a gwerthu bwydydd a dilladau.

Methiant fu ymgais cwmni'r chwarel, y Cwmni Ithfaen Cymreig, i sefydlu siop yn ei adeiladau yn Y Gorllwyn ym 1866 gan iddi gau ymhen 11 mis o ddiffyg cefnogaeth y chwarelwyr. Yn ystod y blynyddoedd dilynol agorodd sawl siop fechan yn y pentref, rhai'n fwy llwyddiannus nag eraill. Fodd bynnag, daeth awydd i sefydlu siop gymunedol a ffurfiwyd pwyllgor i roi'r fenter ar y gweill. Agorwyd y busnes i ddechrau yn 26 Ffordd yr Eifl (neu Farren Street fel roedd bryd hynny) ac yn ddiweddarach symudodd i safle mwy, sef yn nhri thŷ 17, 19 a 21 Trem y Môr (neu Sea View fel y'i gelwid yr adeg honno). Yn y blynyddoedd cynnar gwirfoddolwyr fyddai'n gyfrifol am y siop, gyda mwyafrif y cwsmeriaid yn talu am eu nwyddau yn fisol a chael difidend yn ôl faint roeddent wedi'i brynu. Ar y dechrau telid pum swllt yn y bunt o ddifidend gan nad oedd raid talu cyflogau. Ond pan gafwyd rheolwr a staff cyflogedig i weithio yn y busnes o tua 1920 ymlaen, gostyngodd y difidend yn raddol nes oedd yn ddim ond chwe cheiniog yn y bunt erbyn 1969.

Yn y dyddiau cynnar deuai llawer o nwyddau'r siop, neu'r Stôr fel y'i gelwid gan genedlaethau o drigolion Trefor, i'r cei ar longau cwmni'r chwarel, yn ogystal â nwyddau i rai o siopau eraill annibynnol y pentref. Dywed Gwilym Owen yn ei gyfrol Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl[1] fod yna rai yn elyniaethus tuag at y Stôr a bod nwyddau'r Stôr yn cael eu lluchio'n ddiofal i'r wagenni tra cymerid gofal neilltuol gyda nwyddau'r siopau eraill. Beth bynnag y gwir am hynny, mynd o nerth i nerth wnaeth y Stôr gan symud ym 1933 i'w chartref olaf, sef Siop Glandŵr ar Ben Hendra ynghanol y pentref, adeilad a brynwyd oddi wrth Benjamin Roberts. Yno tyfodd yn fusnes sylweddol a hunangynhaliol. Rhannwyd yr adeilad yn ddwy ran, gyda siop fwyd yn un rhan a siop yn gwerthu dilladau a nwyddau tŷ yn y llall. Hefyd agorwyd becws sylweddol yn y cefn ac roedd glo a pharaffin ar werth hefyd. Yn ogystal roedd cigydd yn y siop ac agorwyd lladd-dy newydd ar dir Bryn Gwenith i ddarparu cig i'r Stôr.

Ganol y 1960au adeiladwyd estyniad to fflat modern i'r Stôr a symudwyd y siop fwyd a'r cigydd i'r estyniad hwnnw - lle mae unig siop y pentref erbyn hyn. I wneud lle i'r estyniad dymchwelwyd dau o'r tai cyntaf un i'w hadeiladu gan gwmni'r gwaith yn Nhrefor pan sefydlwyd y pentref ym 1856. Yn y 1960au a'r 70au Miss Lilly Newbold a deyrnasai dros y siop ddillad ac offer tŷ. Hanai o un o'r teuluoedd niferus o Saeson a ddaeth i weithio i'r gwaith ac er yn rhugl ei Chymraeg byddai'n troi i'r Saesneg yn bur aml. Ar un adeg dechreuodd werthu tân gwyllt gan ddweud "I've got everything children, bangers and bombers and rockets and wheels." Rhwng y siop fwyd a'r siop ddillad roedd swyddfa fach, fach ac yno byddai Miss Ivy Jane Jones, Croeshigol, yn gofalu am y gwaith papur a gwneud cyfrifon pawb a dalai'n fisol a chael eu difidend. Rheolwyr y Stôr yn y cyfnod yma oedd Owen Griffith Owen, dyn amlwg yn Eglwys Gosen, a'i olynydd, Harold James, ill dau wedi eu magu yn Nhrefor. Yn ogystal â'r brif gangen yn Nhrefor sefydlwyd canghennau o Gymdeithas Gydweithredol yr Eifl yn Llanaelhaearn, Llithfaen a Chlynnog ac yn ei hanterth roedd y fenter yn cyflogi cryn nifer yn yr ardal. Fodd bynnag, ym mlynyddoedd olaf y chwedegau aeth y gwerthiant i lawr wrth i archfarchnadoedd newydd godi eu pennau yn y trefi cyfagos a mwy o bobl yn berchen ar geir i fynd iddynt. Cynhaliwyd cyfarfod arbennig o'r pwyllgor a'r cyfranddalwyr ar 12 Awst 1969 pryd y penderfynwyd trosglwyddo'r gymdeithas i'r Gymdeithas Gydweithredol (Co-op) ym Manceinion. Parhaodd y Stôr i weithredu dan adain y Co-op am rai blynyddoedd wedyn, ond daeth y siop ddillad a'r canghennau i ben yn fuan. Yn ystod y degawdau diwethaf mae'r busnes wedi newid dwylo sawl tro.[2]

Cyfeiriadau

  1. Gwilym Owen, Pentref Trefor a Chwarel yr Eifl, (Penrhyndeudraeth, 1972), t.83.
  2. Gwybodaeth bersonol.