Treialon Cwn Defaid Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 1: Llinell 1:
Am rai blynyddoedd bu'r '''Treialon Cŵn Defaid''' yn rhan o'r calendr blynyddol yn [[Trefor|Nhrefor]], er nad oeddent yn llwyddo i ddenu tyrfaoedd mor fawr ag a ddeuai i achlysuron eraill yn y pentref, megis yr [[Eisteddfod Trefor|Eisteddfod]], y [[Carnifal Trefor|carnifal]], y [[Sioe Flodau Trefor|Sioe Flodau]], a'r [[Sioe Amaethyddol Trefor|Sioe Amaethyddol]] yn ddiweddarach. Bu treialon cŵn defaid yn cael eu cynnal am flynyddoedd mewn llawer o bentrefi eraill yn yr ardal, megis [[Clynnog Fawr]], [[Pontlyfni]] a [[Llanllyfni]]. Fe'u cynhelid fel rheol o tua diwedd Gorffennaf i ddiwedd Awst, sef y cyfnod rhwng diwedd y cynhaeaf gwair a dechrau'r cynhaeaf ŷd pan oedd gan ffermwyr ychydig o seibiant o'u dyletswyddau arferol. Roedd hefyd yn gyfnod pan oedd y defaid wedi gorffen magu eu hwyn ond heb gael eu troi at yr hyrddod fis Medi.
Am rai blynyddoedd bu'r '''Treialon Cŵn Defaid''' yn rhan o'r calendr blynyddol yn [[Trefor|Nhrefor]], er nad oeddent yn llwyddo i ddenu tyrfaoedd mor fawr ag a ddeuai i achlysuron eraill yn y pentref, megis yr [[Eisteddfod Trefor|Eisteddfod]], y [[Carnifal Trefor|carnifal]], y [[Sioe Flodau Trefor|Sioe Flodau]], a'r [[Sioe Amaethyddol Trefor|Sioe Amaethyddol]] yn ddiweddarach. Bu treialon cŵn defaid yn cael eu cynnal am flynyddoedd mewn llawer o bentrefi eraill yn yr ardal, megis [[Clynnog Fawr]], [[Pontlyfni]] a [[Llanllyfni]]. Fe'u cynhelid fel rheol o tua diwedd Gorffennaf i ddiwedd Awst, sef y cyfnod rhwng diwedd y cynhaeaf gwair a dechrau'r cynhaeaf ŷd pan oedd gan ffermwyr ychydig o seibiant o'u dyletswyddau arferol. Roedd hefyd yn gyfnod pan oedd y defaid wedi gorffen magu eu hwyn ond heb gael eu troi at yr hyrddod fis Medi.


Ar y Cae Chwarae (neu'r Gae'r Rhyt fel y'i gelwid yn lleol) y cynhelid y treialon yn Nhrefor - a hynny ym mis Awst os cofiaf yn iawn. Byddai ffermwyr y gymdogaeth yn rhoi nifer o ddefaid yr un at ddefnydd y treialon. Er nad oedd y cae yn un mawr ar gyfer achlysur o'r fath roedd y giatiau a'r rhwystrau arferol mewn treialon wedi eu gosod mewn gwahanol fannau arno, gyda'r gorlan i gorlanu'r praidd ar y diwedd wedi ei gosod tua gwaelod y cae. Ym mhen ucha'r cae roedd y gorlan fwy lle byddai dau neu dri yn gollwng y defaid angenrheidiol ar gyfer pob cystadleuydd. Byddai cwpanau a gwobrau ariannol i'r cystadleuwyr mewn gwahanol ddosbarthiadau (megis rhedwyr profiadol, dechreuwyr, cŵn ifanc ac yn y blaen) gyda the a lluniaeth yn cael ei baratoi yng nghegin y neuadd bentref gerllaw. Cofiaf y treialon yn eu bri yn niwedd y 1960au a hyd at ganol y degawd dilynol. Diddorol fyddai cael mwy o wybodaeth amdanynt gan rai o ddarllenwyr eraill Cof y Cwmwd.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref>
Ar y Cae Chwarae (neu'r Gae'r Rhyt fel y'i gelwid yn lleol) y cynhelid y treialon yn Nhrefor - a hynny ym mis Awst os cofiaf yn iawn. Byddai ffermwyr y gymdogaeth yn rhoi nifer o ddefaid yr un at ddefnydd y treialon. Er nad oedd y cae yn un mawr ar gyfer achlysur o'r fath roedd y giatiau a'r rhwystrau arferol mewn treialon wedi eu gosod mewn gwahanol fannau arno, gyda'r gorlan i gorlannu'r praidd ar y diwedd wedi ei gosod tua gwaelod y cae. Ym mhen ucha'r cae roedd y gorlan fwy lle byddai dau neu dri yn gollwng y defaid angenrheidiol ar gyfer pob cystadleuydd. Byddai cwpanau a gwobrau ariannol i'r cystadleuwyr mewn gwahanol ddosbarthiadau (megis rhedwyr profiadol, dechreuwyr, cŵn ifanc ac yn y blaen) gyda the a lluniaeth yn cael ei baratoi yng nghegin y neuadd bentref gerllaw. Cofiaf y treialon yn eu bri yn niwedd y 1960au a hyd at ganol y degawd dilynol. Diddorol fyddai cael mwy o wybodaeth amdanynt gan rai o ddarllenwyr eraill Cof y Cwmwd.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref>





Golygiad diweddaraf yn ôl 15:10, 7 Gorffennaf 2021

Am rai blynyddoedd bu'r Treialon Cŵn Defaid yn rhan o'r calendr blynyddol yn Nhrefor, er nad oeddent yn llwyddo i ddenu tyrfaoedd mor fawr ag a ddeuai i achlysuron eraill yn y pentref, megis yr Eisteddfod, y carnifal, y Sioe Flodau, a'r Sioe Amaethyddol yn ddiweddarach. Bu treialon cŵn defaid yn cael eu cynnal am flynyddoedd mewn llawer o bentrefi eraill yn yr ardal, megis Clynnog Fawr, Pontlyfni a Llanllyfni. Fe'u cynhelid fel rheol o tua diwedd Gorffennaf i ddiwedd Awst, sef y cyfnod rhwng diwedd y cynhaeaf gwair a dechrau'r cynhaeaf ŷd pan oedd gan ffermwyr ychydig o seibiant o'u dyletswyddau arferol. Roedd hefyd yn gyfnod pan oedd y defaid wedi gorffen magu eu hwyn ond heb gael eu troi at yr hyrddod fis Medi.

Ar y Cae Chwarae (neu'r Gae'r Rhyt fel y'i gelwid yn lleol) y cynhelid y treialon yn Nhrefor - a hynny ym mis Awst os cofiaf yn iawn. Byddai ffermwyr y gymdogaeth yn rhoi nifer o ddefaid yr un at ddefnydd y treialon. Er nad oedd y cae yn un mawr ar gyfer achlysur o'r fath roedd y giatiau a'r rhwystrau arferol mewn treialon wedi eu gosod mewn gwahanol fannau arno, gyda'r gorlan i gorlannu'r praidd ar y diwedd wedi ei gosod tua gwaelod y cae. Ym mhen ucha'r cae roedd y gorlan fwy lle byddai dau neu dri yn gollwng y defaid angenrheidiol ar gyfer pob cystadleuydd. Byddai cwpanau a gwobrau ariannol i'r cystadleuwyr mewn gwahanol ddosbarthiadau (megis rhedwyr profiadol, dechreuwyr, cŵn ifanc ac yn y blaen) gyda the a lluniaeth yn cael ei baratoi yng nghegin y neuadd bentref gerllaw. Cofiaf y treialon yn eu bri yn niwedd y 1960au a hyd at ganol y degawd dilynol. Diddorol fyddai cael mwy o wybodaeth amdanynt gan rai o ddarllenwyr eraill Cof y Cwmwd.[1]


Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol