Sioe Flodau Trefor: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Bu '''Sioe Flodau''' lewyrchus yn cael ei chynnal yn [[Trefor|Nhrefor]] am flynyddoedd lawer. Roedd yna draddodiad garddwriaethol cryf yn y pentref ar hyd y blynyddoedd, gyda llawer o'r chwarelwyr yn trosglwyddo eu medrau yn y maes o'r naill genhedlaeth i'r llall. Roedd llawer o ffermwyr yr ardal hefyd yn neilltuo darn o gae yn gyson i dyfu amrywiaeth o gynnyrch. Arweiniodd hyn at sefydlu'r Sioe Flodau a gynhelid ar y dydd Sadwrn olaf yn Awst bob blwyddyn. Am flynyddoedd yr hen Neuadd Bentref (neu'r Rhyt ar lafar) fu'n gartref i'r sioe, ac yna'r Ganolfan wedi i honno gael ei hagor ym 1983. Roedd y sioe yn denu nifer fawr o gystadleuwyr o'r pentref i hun, yn ogystal ag o ardaloedd cyfagos, gyda rhai wynebau cyfarwydd yn ei chefnogi am flynyddoedd maith. Yn ogystal â nifer helaeth o gystadlaethau planhigion, blodau, llysiau a ffrwythau gardd, roedd adran sylweddol hefyd o gystadlaethau coginio o bob math, yn ogystal â jamiau, gwin cartref ac yn y blaen. Fel nifer o ddigwyddiadau tebyg, edwinodd y sioe yn raddol a daeth i ben ym mlynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif. Bu colli'r Sioe Flodau a'r holl weithgaredd a chymdeithasu a oedd yn gysylltiedig â hi yn golled fawr i'r pentref.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref>
Bu '''Sioe Flodau''' lewyrchus yn cael ei chynnal yn [[Trefor|Nhrefor]] am flynyddoedd lawer. Roedd yna draddodiad garddwriaethol cryf yn y pentref ar hyd y blynyddoedd, gyda llawer o'r chwarelwyr yn trosglwyddo eu medrau yn y maes o'r naill genhedlaeth i'r llall. Roedd llawer o ffermwyr yr ardal hefyd yn neilltuo darn o gae yn gyson i dyfu amrywiaeth o gynnyrch. Arweiniodd hyn at sefydlu'r Sioe Flodau a gynhelid ar y dydd Sadwrn olaf yn Awst bob blwyddyn. Am flynyddoedd yr hen [[Neuadd a Chae Chwarae Trefor|Neuadd Bentref]] (neu'r Rhyt ar lafar) fu'n gartref i'r sioe, ac yna'r [[Canolfan Trefor|Ganolfan]] wedi i honno gael ei hagor ym 1983. Roedd y sioe yn denu nifer fawr o gystadleuwyr o'r pentref i hun, yn ogystal ag o ardaloedd cyfagos, gyda rhai wynebau cyfarwydd yn ei chefnogi am flynyddoedd maith. Yn ogystal â nifer helaeth o gystadlaethau planhigion, blodau, llysiau a ffrwythau gardd, roedd adran sylweddol hefyd o gystadlaethau coginio o bob math, yn ogystal â jamiau, gwin cartref ac yn y blaen. Fel nifer o ddigwyddiadau tebyg, edwinodd y sioe yn raddol a daeth i ben ym mlynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif. Bu colli'r Sioe Flodau a'r holl weithgaredd a chymdeithasu a oedd yn gysylltiedig â hi yn golled fawr i'r pentref.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref>


== Cyfeiriadau ==
== Cyfeiriadau ==
[[Categori:Sioeau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:56, 29 Ionawr 2023

Bu Sioe Flodau lewyrchus yn cael ei chynnal yn Nhrefor am flynyddoedd lawer. Roedd yna draddodiad garddwriaethol cryf yn y pentref ar hyd y blynyddoedd, gyda llawer o'r chwarelwyr yn trosglwyddo eu medrau yn y maes o'r naill genhedlaeth i'r llall. Roedd llawer o ffermwyr yr ardal hefyd yn neilltuo darn o gae yn gyson i dyfu amrywiaeth o gynnyrch. Arweiniodd hyn at sefydlu'r Sioe Flodau a gynhelid ar y dydd Sadwrn olaf yn Awst bob blwyddyn. Am flynyddoedd yr hen Neuadd Bentref (neu'r Rhyt ar lafar) fu'n gartref i'r sioe, ac yna'r Ganolfan wedi i honno gael ei hagor ym 1983. Roedd y sioe yn denu nifer fawr o gystadleuwyr o'r pentref i hun, yn ogystal ag o ardaloedd cyfagos, gyda rhai wynebau cyfarwydd yn ei chefnogi am flynyddoedd maith. Yn ogystal â nifer helaeth o gystadlaethau planhigion, blodau, llysiau a ffrwythau gardd, roedd adran sylweddol hefyd o gystadlaethau coginio o bob math, yn ogystal â jamiau, gwin cartref ac yn y blaen. Fel nifer o ddigwyddiadau tebyg, edwinodd y sioe yn raddol a daeth i ben ym mlynyddoedd olaf yr ugeinfed ganrif. Bu colli'r Sioe Flodau a'r holl weithgaredd a chymdeithasu a oedd yn gysylltiedig â hi yn golled fawr i'r pentref.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth bersonol