Brynllidiart: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Brynllidiart''' (a sillefid yn aml yn Brynllidiard) uwchben [[Dyffryn Nantlle]] bellach yn furddun, ac yn  bur ddiarffordd. Eir ato trwy gymryd Lôn Tyddyn Agnes (rhwng [[Llanllyfni]] a phentrefan [[Tan'rallt]] at ben draw'r tarmac ger tyddyn Bryn-gwyn. O'r fan hyn y mae cychwyn ar hyd llwybr [[Cwm Silyn]], ond i fynd i Frynllidiart, cedwir yr ochr uchaf i wal y mynydd lle bu ffordd drol unwaith. Mae Brynllidiart i'w weld ar draws tri chae tra chorsiog ac er y nodir llwybrau cyhoeddus ar fapiau Ordnans, maent i gyd wedi diflannu a llinell rhai wedi'u blocio gan ffensys gwifren bigog.
Mae '''Brynllidiart''' (a sillefid yn aml yn Brynllidiard) uwchben [[Dyffryn Nantlle]]. Yn ôl Mathonwy Hughes, a fu'n byw yno, yr enw gwreiddiol oedd Llidiart y Mynydd, ond boed ân fo am hynny, mae'r ffynonellau'n dangos fel y defnyddid "Brynllidiart" o tua 1840 ymlaen. Mae'n furddun bellach, ac yn  bur ddiarffordd. Eir ato trwy gymryd Lôn Tyddyn Agnes (rhwng [[Llanllyfni]] a phentrefan [[Tan'rallt]] hyd at ben draw'r tarmac ger tyddyn Bryn-gwyn. O'r fan hyn gellir cychwyn ar hyd llwybr [[Cwm Silyn]], ond i fynd i Frynllidiart, cedwir yr ochr uchaf i wal y mynydd lle bu ffordd drol unwaith. Mae Brynllidiart i'w weld ar draws tri chae tra chorsiog ac er y nodir llwybrau cyhoeddus ar fapiau Ordnans, maent i gyd wedi diflannu a llinell rhai wedi'u blocio gan ffensys gwifren bigog.
 
Er bod modd ystyried mai perthyn i ardal [[Nebo]] ydoedd Brynllidiart yn ddaearyddol (ac yn nhrefn y cyfrifiadau), Tan'rallt oedd ffocws naturiol y teulu ac yno yr aethant i'r capel ac i siopa. Mae'r llwybrau o Frynllidiart bellach wedi suddo'n ôl i'r gors, ond cyn i'r chwareli rhwng Tan'rallt a'r mynydd agored ymestyn, roedd nifer o lwybrau cymharol hwylus i lawr i Dan'rallt. Erbyn i gyfnod Mathonwy Hughes, fodd bynnag, ystyriai ei fam y llwybrau hyn trwy'r chwareli'n rhy beryglus, gan ei anfon i [[Ysgol Gynradd Nebo|Ysgol Nebo]] oedd ar hyd llwybrau mwy gwastad, os yn hwy o dipyn.<ref>O.P. Huws yn Gwefan Dyffryn Nantlle, [http://www.nantlle.com/hanes-nebo-nasareth-mathonwy-hughes.htm], cyrchwyd 9.4.2021</ref>


== Y fferm ==
== Y fferm ==
Llinell 5: Llinell 7:
O gwmpas y tŷ y mae pedwar neu bump o gaeau heddiw lle mae glaswellt o hyd yn hytrach na brwgaits a chorsdir. Nid oes arwydd bod unrhyw amaethu ar wahân i bori agored wedi digwydd ers blynyddoedd.
O gwmpas y tŷ y mae pedwar neu bump o gaeau heddiw lle mae glaswellt o hyd yn hytrach na brwgaits a chorsdir. Nid oes arwydd bod unrhyw amaethu ar wahân i bori agored wedi digwydd ers blynyddoedd.


Roedd y fferm yn rhan o [[Ystad Pant Du]], ystad [[Teulu Garnons]] erbyn canol y 19g., os nad wedyn hefyd er bod y dystiolaeth yn ddiffygiol. Nid oedd yn cael ei rhestru ymysg ffermydd yr ystad ym 1813,<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsgr. 11507E</ref> fodd bynnag, ac felly gellid amau mai tir a gaewyd o'r mynydd yn ystod hananer cyntaf y 19g. ydyw.
Roedd y fferm yn rhan o [[Ystad Pant Du]], ystad [[Richard Garnons]] a farwodd yn ddi-etifedd ym 1841. Nid oedd yn cael ei rhestru ymysg ffermydd yr ystad ym 1813,<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsgr. 11507E</ref> fodd bynnag, ac felly gellid amau mai tir a gaewyd o'r mynydd yn ystod hanner cyntaf y 19g. ydoedd.


Yn nogfennau Rhannu'r Degwm tua 1839, gwelir map o'r fferm ynghyd ag enwau a maint y caeau (er bod peth anghysondeb rhwng rhifau'r caeau a'u henwau a'u harwynebedd. Dichon fodd byddag mai Cae Coch yn syth y tu cefn i'r tŷ oedd yr unig dir âr,  â hynny ddim ond ychydig dros acer mewn maint. Wrth ei ochr mae Cae Bach, ac yn nes at y mynydd yr oedd cae 6 acer a elwid yn Rhos. I'r gorllewin o'r tŷ ac yn union o'i flaen yr oedd yr ardd, ac wedyn Cae Griffith, lle mae olion hen feudy neu fwthyn. O flaen y tŷ ei hun roedd y cae mawr arall ar y fferm, sef Rhos o flaen Drws, ychydig dros 7 acer o ran maint. ar ganol y ganrif felly, roedd y fferm yn ymestyn i ryw 16 acer.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map a Rhestr Pennu'r Degwm plwyf Llanllyfni</ref>
Ymysg nogfennau Rhannu'r Degwm dyddiedig tua 1839, ceir map o'r fferm ynghyd ag enwau a maint y caeau (er bod peth anghysondeb rhwng rhifau'r caeau a'u henwau a'u harwynebedd). Dichon fodd byddag mai Cae Coch yn syth y tu cefn i'r tŷ oedd yr unig dir âr,  â hynny ddim ond ychydig dros acer mewn maint. Wrth ei ochr oedd Cae Bach, ac yn nes at y mynydd yr oedd cae 6 acer a elwid yn Rhos. I'r gorllewin o'r tŷ ac yn union o'i flaen yr oedd yr ardd, ac wedyn Cae Griffith, lle mae olion hen feudy neu fwthyn. O flaen y tŷ ei hun roedd y cae mawr arall ar y fferm, sef Rhos o flaen Drws, ychydig dros 7 acer o ran maint. Ar ganol y ganrif, felly, roedd y fferm yn ymestyn i ryw 16 acer.<ref>Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map a Rhestr Pennu'r Degwm plwyf Llanllyfni</ref> Disgrifiodd Mathonwy Hughes y tyddyn fel ag yr oedd pan gymerodd ei daid denantiaeth o'r lle, sef "rhyw dair erw o wair rhos...a phrin y cadwai fwy na buwch a llo". Mae hyn yn gyd-fynd â'r rhestr pennu'r degwm - tyddyn 16 erw ond 13 ohonynt yn rhostir.


Yn nes ymlaen yn y ganrif ac wedyn nes i'r fferm gael ei gadael yn wag, bu'r penteulu weithiau'n ffermio ac weithio'n gweithio fel chwarelwr, gan drin Brynllidiart fel tyddyn rhan amser. Ym 1871 roedd y tir a oedd yn perthyn i'r fferm wedi ymestyn i 30 acer, ac erbyn 1881 roedd y fferm wedi cynyddu i 50 acer - dichon trwy ymdrechion Robert Roberts, tad [[R. Silyn Roberts]].
Ni ellir gwneud yn well, ychwaith, na dyfynnu Mathonwy Hughes wrth iddo ddisgrifio sut y daeth Brynllidiart yn fferm a gadwai gwartheg, defaid, merlen, mochyn ac ieir, a hynny trwy lafur ei daid, a aeth yno'n chwarelwr yn chwarel [[Cloddfa'r Lôn]] ac a barhaodd yn y gwaith hwnnw tra'n gwella'r fferm:
Gweithiai fy nhaid, Robert John Roberts, yng ngwaelod twll mawr Gloddfa’r Lôn a cherdded yn ôl a blaen bob dydd at ei waith. Trwy ddygnu arni hwyr a bore ar ben ei ddiwrnod gwaith hirfaith fe lwyddodd i balu â’i raw fwy a mwy o’r fawnog a chroeni’r tir a chreu tyddyn a godai ddigon o wair meillionog i gynnal buches fechan a chadw merlen ac at hynny fochyn ac ieir ar wahân i ddiadell o ddefaid. Fel llawer o rai tebyg iddo, rhoes ei oes i lafurio yn y ffordd hon.<ref>Mathonwy Hughes, ''Bywyd yr Ucheldir'', Darlith Llyfrgell Pen-y-groes 1972-3 (Caernarfon, 1973), tt.6-7</ref> 


== Y tŷ ==
Yn ddiweddarach, hyd nes i'r fferm gael ei gadael yn wag, bu'r penteulu weithiau'n ffermio ac weithiau'n gweithio fel chwarelwr, gan drin Brynllidiart fel tyddyn rhan amser. Ym 1871 roedd y tir a oedd yn perthyn i'r fferm wedi ymestyn i 30 acer, ac erbyn 1881 roedd y fferm wedi cynyddu i 50 acer - a hynny trwy ymdrechion Robert Roberts, tad [[R. Silyn Roberts]].
 
Mae waliau'r tŷ wedi dadfeilio i raddau er y gellid o hyd gweld mai tŷ deulawr oedd o. Wrth yr adwy lle bu'r drws gwelir plac llechen a osodwyd yno yn 2021 i nodi mai dyna gartref [[R. Silyn Roberts]] a [[Mathonwy Hughes]], ei nai - dau brifardd yr Eisteddfod Genedlaethol. Brynllidiart yw'r unig gartref yng Nghymru sydd wedi cynhyrchu mwy nag un prifardd.


Canodd Mathonwy Hughes englyn milwr i'w hen gartref:
Canodd Mathonwy Hughes englyn milwr i'w hen gartref:
  "Tir pell y diadelloedd,
  "Tir pell y diadelloedd,
  Darn di-werth a driniwyd oedd,
  Darn di-werth a driniwyd oedd,
  Ond Eden i'm tad ydoedd."
  Ond Eden i'm taid ydoedd."
 
== Y tŷ ==
 
Mae waliau'r tŷ wedi dadfeilio i raddau er y gellir o hyd gweld mai tŷ deulawr oedd o. Wrth yr adwy lle bu'r drws gwelir plac llechen a osodwyd yno yn 2021 i nodi mai dyna gartref [[R. Silyn Roberts]] a [[Mathonwy Hughes]], ei nai - dau brifardd yr Eisteddfod Genedlaethol. Brynllidiart yw'r unig gartref yng Nghymru sydd wedi cynhyrchu mwy nag un prifardd.
 
Dywedir mai bwthyn unllawr oedd Brynllidiart pan aeth tad Silyn, Robert J. Roberts, yno rywbryd yn y 1850au gyda'i deulu ifanc. Yn ogystal ag ymestyn y fferm, cododd ail lawr i'r tŷ, ac am ychydig fe elwid Brynllidiart yn "Brynllidiart Mawr" gan fod ail aelwyd ar y safle, naill ai ar dalcen y tŷ neu lle mae murddun heddiw yn yr ail gae i'r gorllewin o'r tŷ.
 
==Y trigolion==
 
Ceir gwybodaeth am y sawl oedd yn byw yn y tŷ o 1841 ymlaen yn y gwahanol gyfrifiadau, fel a ganlyn:
 
* 1841: John Roberts, ffermwr 40 oed, ei wraig Mary 40 oed,, a'u plant Catherine (15) a John(8). Yno hefyd oedd Robert Roberts, labrwr, 40 oed.
* 1851: Robert Jones (30), chwarelwr llechi, Mary Jones (28), dau fab a morwyn
* 1861: Robert Roberts, chwarelwr (tad Silyn), (41), oedd yn hanu o blwyf [[Clynnog Fawr]] a'i wraig Catherine, (29).
* 1871: Robert Roberts, ffermwr 30 acer, (59) [sic], Ellen (38) - ei drydedd wraig, William (25), "ysgolor" a John (19), teiliwr - y ddau'n feibion i Robert ac un o'i ddwy wraig gyntaf, a Robert (sef R.Silyn Roberts), mis oed. Hefyd yn rhan o'r aelwyd oedd Catherine Owens,19 oed, y forwyn.
* 1881: Robert Roberts, ffermwr 50 acer (61), Ellen ei wraig (47), Robert (10) ac Elen Mary (7).
* 1891: Robert J. Roberts, ffermwr (72), Ellen (57) - a aned yn Aberffraw, Robert R. Roberts (Silyn), 20 oed, chwarelwr, ac Ellen Mary, (17), "dressmaker".
* 1901: Ellen Roberts, gweddw ffarmwr (67), Joseph H. Hughes, ei mab-yng-nghyfraith, chwarelwr, (27), Ellen Mary, merch Ellen a gwraig Joseph (27), "dressmaker", a Mathonwy, mis oed.
* 1911: Joseph H. Hughes, chwarelwr llechi, (40), Ellen Mary (38), a Mathonwy, plentyn ysgol 10 oed.<ref>Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni 1841-1911</ref>


Wedi i deulu Hughes ymadael â'r fferm, aeth yn wag a ni fu neb yn byw yno wedyn.


'''I'w Barhau'''
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Ffermydd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 10:38, 14 Ebrill 2021

Mae Brynllidiart (a sillefid yn aml yn Brynllidiard) uwchben Dyffryn Nantlle. Yn ôl Mathonwy Hughes, a fu'n byw yno, yr enw gwreiddiol oedd Llidiart y Mynydd, ond boed ân fo am hynny, mae'r ffynonellau'n dangos fel y defnyddid "Brynllidiart" o tua 1840 ymlaen. Mae'n furddun bellach, ac yn bur ddiarffordd. Eir ato trwy gymryd Lôn Tyddyn Agnes (rhwng Llanllyfni a phentrefan Tan'rallt hyd at ben draw'r tarmac ger tyddyn Bryn-gwyn. O'r fan hyn gellir cychwyn ar hyd llwybr Cwm Silyn, ond i fynd i Frynllidiart, cedwir yr ochr uchaf i wal y mynydd lle bu ffordd drol unwaith. Mae Brynllidiart i'w weld ar draws tri chae tra chorsiog ac er y nodir llwybrau cyhoeddus ar fapiau Ordnans, maent i gyd wedi diflannu a llinell rhai wedi'u blocio gan ffensys gwifren bigog.

Er bod modd ystyried mai perthyn i ardal Nebo ydoedd Brynllidiart yn ddaearyddol (ac yn nhrefn y cyfrifiadau), Tan'rallt oedd ffocws naturiol y teulu ac yno yr aethant i'r capel ac i siopa. Mae'r llwybrau o Frynllidiart bellach wedi suddo'n ôl i'r gors, ond cyn i'r chwareli rhwng Tan'rallt a'r mynydd agored ymestyn, roedd nifer o lwybrau cymharol hwylus i lawr i Dan'rallt. Erbyn i gyfnod Mathonwy Hughes, fodd bynnag, ystyriai ei fam y llwybrau hyn trwy'r chwareli'n rhy beryglus, gan ei anfon i Ysgol Nebo oedd ar hyd llwybrau mwy gwastad, os yn hwy o dipyn.[1]

Y fferm

O gwmpas y tŷ y mae pedwar neu bump o gaeau heddiw lle mae glaswellt o hyd yn hytrach na brwgaits a chorsdir. Nid oes arwydd bod unrhyw amaethu ar wahân i bori agored wedi digwydd ers blynyddoedd.

Roedd y fferm yn rhan o Ystad Pant Du, ystad Richard Garnons a farwodd yn ddi-etifedd ym 1841. Nid oedd yn cael ei rhestru ymysg ffermydd yr ystad ym 1813,[2] fodd bynnag, ac felly gellid amau mai tir a gaewyd o'r mynydd yn ystod hanner cyntaf y 19g. ydoedd.

Ymysg nogfennau Rhannu'r Degwm dyddiedig tua 1839, ceir map o'r fferm ynghyd ag enwau a maint y caeau (er bod peth anghysondeb rhwng rhifau'r caeau a'u henwau a'u harwynebedd). Dichon fodd byddag mai Cae Coch yn syth y tu cefn i'r tŷ oedd yr unig dir âr, â hynny ddim ond ychydig dros acer mewn maint. Wrth ei ochr oedd Cae Bach, ac yn nes at y mynydd yr oedd cae 6 acer a elwid yn Rhos. I'r gorllewin o'r tŷ ac yn union o'i flaen yr oedd yr ardd, ac wedyn Cae Griffith, lle mae olion hen feudy neu fwthyn. O flaen y tŷ ei hun roedd y cae mawr arall ar y fferm, sef Rhos o flaen Drws, ychydig dros 7 acer o ran maint. Ar ganol y ganrif, felly, roedd y fferm yn ymestyn i ryw 16 acer.[3] Disgrifiodd Mathonwy Hughes y tyddyn fel ag yr oedd pan gymerodd ei daid denantiaeth o'r lle, sef "rhyw dair erw o wair rhos...a phrin y cadwai fwy na buwch a llo". Mae hyn yn gyd-fynd â'r rhestr pennu'r degwm - tyddyn 16 erw ond 13 ohonynt yn rhostir.

Ni ellir gwneud yn well, ychwaith, na dyfynnu Mathonwy Hughes wrth iddo ddisgrifio sut y daeth Brynllidiart yn fferm a gadwai gwartheg, defaid, merlen, mochyn ac ieir, a hynny trwy lafur ei daid, a aeth yno'n chwarelwr yn chwarel Cloddfa'r Lôn ac a barhaodd yn y gwaith hwnnw tra'n gwella'r fferm:

Gweithiai fy nhaid, Robert John Roberts, yng ngwaelod twll mawr Gloddfa’r Lôn a cherdded yn ôl a blaen bob dydd at ei waith. Trwy ddygnu arni hwyr a bore ar ben ei ddiwrnod gwaith hirfaith fe lwyddodd i balu â’i raw fwy a mwy o’r fawnog a chroeni’r tir a chreu tyddyn a godai ddigon o wair meillionog i gynnal buches fechan a chadw merlen ac at hynny fochyn ac ieir ar wahân i ddiadell o ddefaid. Fel llawer o rai tebyg iddo, rhoes ei oes i lafurio yn y ffordd hon.[4]  

Yn ddiweddarach, hyd nes i'r fferm gael ei gadael yn wag, bu'r penteulu weithiau'n ffermio ac weithiau'n gweithio fel chwarelwr, gan drin Brynllidiart fel tyddyn rhan amser. Ym 1871 roedd y tir a oedd yn perthyn i'r fferm wedi ymestyn i 30 acer, ac erbyn 1881 roedd y fferm wedi cynyddu i 50 acer - a hynny trwy ymdrechion Robert Roberts, tad R. Silyn Roberts.

Canodd Mathonwy Hughes englyn milwr i'w hen gartref:

"Tir pell y diadelloedd,
Darn di-werth a driniwyd oedd,
Ond Eden i'm taid ydoedd."

Y tŷ

Mae waliau'r tŷ wedi dadfeilio i raddau er y gellir o hyd gweld mai tŷ deulawr oedd o. Wrth yr adwy lle bu'r drws gwelir plac llechen a osodwyd yno yn 2021 i nodi mai dyna gartref R. Silyn Roberts a Mathonwy Hughes, ei nai - dau brifardd yr Eisteddfod Genedlaethol. Brynllidiart yw'r unig gartref yng Nghymru sydd wedi cynhyrchu mwy nag un prifardd.

Dywedir mai bwthyn unllawr oedd Brynllidiart pan aeth tad Silyn, Robert J. Roberts, yno rywbryd yn y 1850au gyda'i deulu ifanc. Yn ogystal ag ymestyn y fferm, cododd ail lawr i'r tŷ, ac am ychydig fe elwid Brynllidiart yn "Brynllidiart Mawr" gan fod ail aelwyd ar y safle, naill ai ar dalcen y tŷ neu lle mae murddun heddiw yn yr ail gae i'r gorllewin o'r tŷ.

Y trigolion

Ceir gwybodaeth am y sawl oedd yn byw yn y tŷ o 1841 ymlaen yn y gwahanol gyfrifiadau, fel a ganlyn:

  • 1841: John Roberts, ffermwr 40 oed, ei wraig Mary 40 oed,, a'u plant Catherine (15) a John(8). Yno hefyd oedd Robert Roberts, labrwr, 40 oed.
  • 1851: Robert Jones (30), chwarelwr llechi, Mary Jones (28), dau fab a morwyn
  • 1861: Robert Roberts, chwarelwr (tad Silyn), (41), oedd yn hanu o blwyf Clynnog Fawr a'i wraig Catherine, (29).
  • 1871: Robert Roberts, ffermwr 30 acer, (59) [sic], Ellen (38) - ei drydedd wraig, William (25), "ysgolor" a John (19), teiliwr - y ddau'n feibion i Robert ac un o'i ddwy wraig gyntaf, a Robert (sef R.Silyn Roberts), mis oed. Hefyd yn rhan o'r aelwyd oedd Catherine Owens,19 oed, y forwyn.
  • 1881: Robert Roberts, ffermwr 50 acer (61), Ellen ei wraig (47), Robert (10) ac Elen Mary (7).
  • 1891: Robert J. Roberts, ffermwr (72), Ellen (57) - a aned yn Aberffraw, Robert R. Roberts (Silyn), 20 oed, chwarelwr, ac Ellen Mary, (17), "dressmaker".
  • 1901: Ellen Roberts, gweddw ffarmwr (67), Joseph H. Hughes, ei mab-yng-nghyfraith, chwarelwr, (27), Ellen Mary, merch Ellen a gwraig Joseph (27), "dressmaker", a Mathonwy, mis oed.
  • 1911: Joseph H. Hughes, chwarelwr llechi, (40), Ellen Mary (38), a Mathonwy, plentyn ysgol 10 oed.[5]

Wedi i deulu Hughes ymadael â'r fferm, aeth yn wag a ni fu neb yn byw yno wedyn.

Cyfeiriadau

  1. O.P. Huws yn Gwefan Dyffryn Nantlle, [1], cyrchwyd 9.4.2021
  2. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsgr. 11507E
  3. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map a Rhestr Pennu'r Degwm plwyf Llanllyfni
  4. Mathonwy Hughes, Bywyd yr Ucheldir, Darlith Llyfrgell Pen-y-groes 1972-3 (Caernarfon, 1973), tt.6-7
  5. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni 1841-1911