Arglwydd Newborough: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Arglwydd Newborough''' yw'r teitl a gafodd Thomas Wynn (Arglwydd Newborough) am ei ffyddlondeb yn y Senedd i frenin Lloegr yn y 18g. Mae'r teitl yn...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Arglwydd Newborough''' yw'r teitl a gafodd [[Thomas Wynn (Arglwydd Newborough)]] am ei ffyddlondeb yn y Senedd i frenin Lloegr yn y 18g. Mae'r teitl yn dal mewn bod ac er bod yr Arglwydd Newborough presennol yn dal i fod yn berchennog ar dir sylweddol yn ardal LLandwrog, mae o bellach, fel ei dad o'i flaen, yn byw yn y Rug, Corwen.  
'''Arglwydd Newborough''' yw'r teitl a gafodd [[Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough]] am ei ffyddlondeb yn y Senedd i frenin Lloegr yn y 18g. Mae'r teitl yn dal mewn bodolaeth ac er bod yr Arglwydd Newborough presennol yn dal i fod yn berchennog ar dir sylweddol yn ardal Llandwrog, mae o bellach, fel ei dad o'i flaen, yn byw yn y Rug, Corwen.  


Mae'r teitl yn perthyn i arglwyddiaeth yr Iwerddon (h.y. nid oedd gan yr arglwyddi Newborough hawl i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, er y caent fod yn aelodau Tŷ Cyffredin o'u cael eu hethol). Dywedir nad oedd hyn wrth fodd yr Arglwydd cyntaf. Fodd bynnag, fe gymerodd ei deitl, fel oedd rhaid, o rywle yn Iwerddon. Gan fod ganddo beth tir ym mhlwyf Niwbwrch, sir Fôn, dewisodd y teitl "Arglwydd Newborough ym Mrenin-deyrnas Iwerddon" - yr oedd tref yn Contae Loch Garman (swydd Llwch Garmon) yn Iwerddon o'r enw Newborough; fe'i hadnabyddir heddiw fel Guaire (neu, yn Saesneg, Gorey). Am y rheswm hwn, sef gan nad yw'r enw'n cyfeirio at rywle yng Nghymru, mae'n anghywir cyfeirio at "Yr Arglwydd Niwbwrch".
Mae'r teitl yn perthyn i arglwyddiaeth yn Iwerddon (h.y. nid oedd gan yr arglwyddi Newborough hawl i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn Llundain, er y caent fod yn aelodau o 'r Cyffredin pe baent yn cael eu hethol iddo). Dywedir nad oedd hyn wrth fodd yr Arglwydd cyntaf a'i fod yn ei hystyried yn sarhad arno mai teitl arglwyddiaeth Wyddelig a gafodd. Fodd bynnag, fe gymerodd enw ei deitl, fel oedd rhaid, o rywle yn Iwerddon. Gan fod ganddo beth tir ym mhlwyf Niwbwrch, sir Fôn, dewisodd y teitl "Arglwydd Newborough ym Mrenin-deyrnas Iwerddon" - yr oedd tref yn Contae Loch Garman (swydd Llwch Garmon) yn Iwerddon o'r enw Newborough; fe'i hadwaenir heddiw fel Guaire (neu, yn Saesneg, Gorey). Am y rheswm hwn mae'n anghywir cyfeirio at "Yr Arglwydd Niwbwrch", gan nad yw'r teitl yn gysylltiedig mewn gwirionedd ag unman yng Nghymru.
 
Am fanylion am y gwahanol arglwyddi Newborough, gweler dan eu henwau unigol (e.e. "Syr Thomas Wynn (Barwn 1af Newborough)"). Am restr o'r wyth Arglwydd Newborough hyd y presennol, gweler [[Arglwyddi Newborough]].
 
==Ffynonellau==
* Samuel Lewis, ''A Topographical Dictionary of Ireland'' (1837)


[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:05, 24 Mehefin 2022

Arglwydd Newborough yw'r teitl a gafodd Syr Thomas Wynn, Arglwydd 1af Newborough am ei ffyddlondeb yn y Senedd i frenin Lloegr yn y 18g. Mae'r teitl yn dal mewn bodolaeth ac er bod yr Arglwydd Newborough presennol yn dal i fod yn berchennog ar dir sylweddol yn ardal Llandwrog, mae o bellach, fel ei dad o'i flaen, yn byw yn y Rug, Corwen.

Mae'r teitl yn perthyn i arglwyddiaeth yn Iwerddon (h.y. nid oedd gan yr arglwyddi Newborough hawl i eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi yn Llundain, er y caent fod yn aelodau o Dŷ'r Cyffredin pe baent yn cael eu hethol iddo). Dywedir nad oedd hyn wrth fodd yr Arglwydd cyntaf a'i fod yn ei hystyried yn sarhad arno mai teitl arglwyddiaeth Wyddelig a gafodd. Fodd bynnag, fe gymerodd enw ei deitl, fel oedd rhaid, o rywle yn Iwerddon. Gan fod ganddo beth tir ym mhlwyf Niwbwrch, sir Fôn, dewisodd y teitl "Arglwydd Newborough ym Mrenin-deyrnas Iwerddon" - yr oedd tref yn Contae Loch Garman (swydd Llwch Garmon) yn Iwerddon o'r enw Newborough; fe'i hadwaenir heddiw fel Guaire (neu, yn Saesneg, Gorey). Am y rheswm hwn mae'n anghywir cyfeirio at "Yr Arglwydd Niwbwrch", gan nad yw'r teitl yn gysylltiedig mewn gwirionedd ag unman yng Nghymru.

Am fanylion am y gwahanol arglwyddi Newborough, gweler dan eu henwau unigol (e.e. "Syr Thomas Wynn (Barwn 1af Newborough)"). Am restr o'r wyth Arglwydd Newborough hyd y presennol, gweler Arglwyddi Newborough.

Ffynonellau

  • Samuel Lewis, A Topographical Dictionary of Ireland (1837)