Eglwys Crist, Pen-y-groes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 7 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Codwyd yr '''Eglwys Crist''' bresennol ym mhentref [[Pen-y-groes]] ym 1890. Gwaith y pensaer eglwysig [[Henry Kennedy]] ydyw, ac un o'r eglwysi olaf, os nad yr olaf, iddo eu dylunio. Mae'n ail eglwys ym mhlwyf [[Llanllyfni]], a saif llai na milltir i'r gofledd o'r eglwys honno, nid nepell o [[Neuadd Goffa Pen-y-groes]]. Cymerodd yr eglwys bresennol le eglwys gynt o'r un enw ac ar yr un safle, a godwyd yng nghanol y 19g. i wasanaethu'r pentref oedd yn tyfu'n gyflym ar y pryd.<ref>Gwefan Coflein, [https://coflein.gov.uk/cy/safle/43666?term=Christ%20Church],cyrchwyd 24.3.2021</ref> Gyda phum capel anghydffurfiol, dichon bod yr awdurdodau eglwysig yn gweld bod angen eglwys yn nes at y tai newydd nag eglwys Llanllyfni.
[[Delwedd:Eglwys Crist, Pen-y-groes.jpg|bawd|de|400px|Llun: Geograph gan Jaggery CC-SA-4.0]]
 
Yn wreiddiol, adeilad haearn oedd yr eglwys a wasanaethai bentref [[Pen-y-groes]], a dyma oedd yr '''Eglwys Crist''' gychwynnol.
 
Mae erthygl yn ''Y Llan'' ym mis Mehefin 1889 yn rhoi mymryn o gefndir i'r symudiad at gael eglwys gadarn a pharhaol, a hefyd at un o'r ymdrechion i godi arain at y gwaith:
PEN-Y-GROES. YR EGLWYS NEWYDD.—Ffair Wen Fawreddog.—Yn ystod dydd Mercher, dydd lau, a dydd Sadwrn cyn y diwethaf, cynhaliwyd ffair wen, neu ''bazaar'', ar raddfa eang yn y [[Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes|Neuadd Gyhoeddus yn Mhen-y-groes]], yr elw at y gronfa i godi eglwys newydd yn yr ardal boblog hon. Ers blynyddoedd yn ôl, tra yr oedd y Parch. Evan Davies yn rheithor y plwyf, sef Llanllyfni, gwelwyd yr angen o wneud darpariaeth ar gyfer y boblogaeth gynyddol yn yr ardal hon, a threfnwyd i godi adeilad haearn cyfleus fel darpariaeth amserol hyd nes y ceid moddion i sicrhau eglwys fwy sylweddol. Parhaodd yr achos eglwysig i gynyddu yn yr ardal yn ystod amser Mr. Davies, yr hwn gyda'i guradiaid fuont yn hynod weithgar am flynyddoedd, ac y mae y cynnydd hwnnw wedi parhau ers amser penodiad y rheithor a'r pregethwr poblogaidd presennol, y Parch. M. Roberts. Penderfynwyd ar y symudiad presennol o gynnal ffair wen rai misoedd yn ôl, a bu llawer o foneddigesau mwyaf ffyddlon yr ardal yn brysur gyda'r darpariadau. Noddwyd y symudiad gan Arglwydd Esgob Bangor, yr Anrhyd. [[Frederick George Wynn|F. Wynn]], [[Glynllifon]], Mr. F. W. Lloyd Edwards, Nanhoron, y Parch. J. W. Wynne Jones, Mr. T. J. Robinson, Mr. H. J. Ellis-Nanney, Cadben Wynne-Griffith, Mr. F. W. Foster, Glanbeuno; Mr. J. A. A. Williams, Glangwna, ac eraill. Cadeirydd y pwyllgor oedd y Parch. M. Roberts, y trysorydd oedd Mr. Walter M. Hughes, a'r ysgrifennydd oedd Mr. Robert Hughes. Bu'r pwyllgor yn bur ddiwyd gyda'r paratoadau, ac yr oedd y neuadd wedi ei gwisgo yn ysblennydd erbyn agor y gweithrediadau dydd Iau. Yr hyn a dynnai fwyaf o sylw ydoedd yr hen wraig o [[Clynnog Fawr|Glynnog]], yr hon oedd wedi ei gosod ar y llwyfan mewn gwisgiad Cymreig yn nyddu gyda'r hen droell Gymreig. Yr oedd Mis. Wynne Griffith, Llanfair Hall, wedi anfon anrheg o fasgedaid o rosynnau prydferth ar gyfer yr amgylchiad. Cafwyd anrhegion cyffelyb gan Mr.J. A. A. Williams a Mr. [[John Robinson, perchennog chwareli|John Robinson]]. Yn absenoldeb Esgob Bangor, agorwyd y gweithrediadau gan Mr. John Robinson, yr hwn a wnaeth araith bwrpasol. Yna hwyliodd pawb at waith i roddi tro am y gwahanol fyrddau.... [Ceir ar ôl hyn restr hir o’r merched oedd yn gyfrifol am nifer helaeth o stondinau]...Bu nifer mawr o ymwelwyr yn y neuadd y diwrnod cyntaf, ac yn eu plith yr Anrhydeddus F. Wynn, Glynllifon, a'i chwaer, yr Anrhydeddus Mrs. Gladstone. Yr oedd [[Seindorf Bres Pen-y-groes]] yn bresennol yn ystod y tri diwrnod. Cariwyd allan y drawings ar y llwyfan gan Mr. Thomas, Ty Mawr; Mr. W. M. Hughes, a'r Parch, J. Hughes, B.A. Y rhai mwyaf ffodus oeddynt Mr. J. A. A. Williams, Glangwna, a Mr. Robinson. Rhoddodd Mr. J. A. A. Williams fenthyg perdoneg hardd ar gyfer yr amgylchiad, a gwasanaethodd fel cyfeilydd i'r gwahanol gantorion, sef yr Anrhydeddus Mrs. Wynne Jones, Miss Gayney Griffith, ynghyd â'r String Band a wasanaethai ar yr amgylchiad. Yr ail ddydd agorwyd y gweithrediadau gan Mr. Ellis Nanney mewn araith bwrpasol, a'r trydydd dydd gan Mr. J. A. A. Williams. Deallwn fod elw da wedi ei sicrhau.<ref>''Y Llan'', 28.6.1889, t.6</ref>
 
Codwyd yr Eglwys Crist bresennol yn fuan wedyn, sef ym 1890, yn lle'r hen adeilad haearn sinc. Gwaith y pensaer eglwysig [[Henry Kennedy]] ydyw, ac un o'r eglwysi olaf, os nad yr olaf, iddo ei dylunio. Yr adeiladydd oedd R.R. Williams, Caernarfon.<ref>''Caernarvon & Denbigh Herald'', 9 Mai 1890, t.6</ref> Rhoddwyd y safle'n wreiddiol gan berchnogion [[Ystad Bryncir]], sef [[Teulu Huddart]]. Yr oedd y llechi ar y to'n rhodd gan G.W. Duff-Assheton-Smith, [[Ystad y Faenol]].<ref>''North Wales Express'', 8 Awst 1890, t.2</ref> Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Fonesig Puleston 16 Awst 1890, a gwnaeth ei gŵr, Syr John Puleston, AS annerch y gynulleidfa. Bu Côr yr Eglwys yn canu, i gyfeiliant [[Band Pres Pen-y-groes]].<ref>''North Wales Express'', 8 Awst 1890, t.2</ref> Nid yw'n glir pam y cafodd Puleston ei ddewis i wneud hyn, heblaw am y ffaith ei fod yn Gymro, yn amlwg gyda'r Eisteddfod ac Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, ac yn Geidwadwr a fyddai'n gwrthwynebu Lloyd George yn yr etholiad nesaf!<ref>''Y Bywgraffiadur Ar-lein'', [https://bywgraffiadur.cymru/article/c-PULE-HEN-1829], cyrchwyd 25.3.2021</ref> Gwadodd Puleston mai am resymau gwleidyddol yr oedd yn annerch y dorf, ond yn hytrach, meddai, yr oedd yn ymhyfrydu mewn cael cymryd rhan mewn digwyddiad anwleidyddol. Cynhaliwyd y cyfarfod cychwynnol yn [[Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes]] cyn cymud at safle'r eglwys gerllaw. Ymysg y dorf niferus yr oedd un o brif noddwyr yr adeiladu, [[John Robinson]], [[Plas Tal-y-sarn]].<ref>''North Wales Express'', 8 Awst 1890, t.2</ref>
 
Cost y gwaith o godi'r eglwys oedd oddeutu £1400, ac yr oedd tua £1050 mewn llaw cyn cychwyn ar y gwaith. Mae lle yn yr eglwys i 320 o bobl.<ref>''North Wales Chronicle'', 23 Awst 1890, t.6</ref>
 
Hon yw'r ail eglwys ym mhlwyf [[Llanllyfni]], a saif llai na milltir i'r gogledd o'r eglwys honno, nid nepell o [[Neuadd Goffa Pen-y-groes]].<ref>Gwefan Coflein, [https://coflein.gov.uk/cy/safle/43666?term=Christ%20Church],cyrchwyd 24.3.2021</ref> Gyda phum capel anghydffurfiol cyfagos, dichon bod yr awdurdodau eglwysig yn gweld bod angen eglwys yn nes at yr holl dai newydd oedd yn cael eu codi ym Mhen-y-groes nag eglwys Llanllyfni. Gwasanaethai curad plwyf Llanllyfni gynulleidfa Eglwys Crist a phlwyfolion y rhannau amgylchynol o blwyf Llanllyfni, ac ar adeg agor yr eglwys newydd, y Parch. R. Hughes oedd curad Pen-y-groes. Cyn ei ddyddiau ef, Parch. Hughes arall oedd y curad cyn i hwnnw symud i fod yn reithor Y Bermo.<ref>''North Wales Express'', 8 Awst 1890, t.2</ref>


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:45, 8 Ionawr 2023

Llun: Geograph gan Jaggery CC-SA-4.0

Yn wreiddiol, adeilad haearn oedd yr eglwys a wasanaethai bentref Pen-y-groes, a dyma oedd yr Eglwys Crist gychwynnol.

Mae erthygl yn Y Llan ym mis Mehefin 1889 yn rhoi mymryn o gefndir i'r symudiad at gael eglwys gadarn a pharhaol, a hefyd at un o'r ymdrechion i godi arain at y gwaith:

PEN-Y-GROES. YR EGLWYS NEWYDD.—Ffair Wen Fawreddog.—Yn ystod dydd Mercher, dydd lau, a dydd Sadwrn cyn y diwethaf, cynhaliwyd ffair wen, neu bazaar, ar raddfa eang yn y Neuadd Gyhoeddus yn Mhen-y-groes, yr elw at y gronfa i godi eglwys newydd yn yr ardal boblog hon. Ers blynyddoedd yn ôl, tra yr oedd y Parch. Evan Davies yn rheithor y plwyf, sef Llanllyfni, gwelwyd yr angen o wneud darpariaeth ar gyfer y boblogaeth gynyddol yn yr ardal hon, a threfnwyd i godi adeilad haearn cyfleus fel darpariaeth amserol hyd nes y ceid moddion i sicrhau eglwys fwy sylweddol. Parhaodd yr achos eglwysig i gynyddu yn yr ardal yn ystod amser Mr. Davies, yr hwn gyda'i guradiaid fuont yn hynod weithgar am flynyddoedd, ac y mae y cynnydd hwnnw wedi parhau ers amser penodiad y rheithor a'r pregethwr poblogaidd presennol, y Parch. M. Roberts. Penderfynwyd ar y symudiad presennol o gynnal ffair wen rai misoedd yn ôl, a bu llawer o foneddigesau mwyaf ffyddlon yr ardal yn brysur gyda'r darpariadau. Noddwyd y symudiad gan Arglwydd Esgob Bangor, yr Anrhyd. F. Wynn, Glynllifon, Mr. F. W. Lloyd Edwards, Nanhoron, y Parch. J. W. Wynne Jones, Mr. T. J. Robinson, Mr. H. J. Ellis-Nanney, Cadben Wynne-Griffith, Mr. F. W. Foster, Glanbeuno; Mr. J. A. A. Williams, Glangwna, ac eraill. Cadeirydd y pwyllgor oedd y Parch. M. Roberts, y trysorydd oedd Mr. Walter M. Hughes, a'r ysgrifennydd oedd Mr. Robert Hughes. Bu'r pwyllgor yn bur ddiwyd gyda'r paratoadau, ac yr oedd y neuadd wedi ei gwisgo yn ysblennydd erbyn agor y gweithrediadau dydd Iau. Yr hyn a dynnai fwyaf o sylw ydoedd yr hen wraig o Glynnog, yr hon oedd wedi ei gosod ar y llwyfan mewn gwisgiad Cymreig yn nyddu gyda'r hen droell Gymreig. Yr oedd Mis. Wynne Griffith, Llanfair Hall, wedi anfon anrheg o fasgedaid o rosynnau prydferth ar gyfer yr amgylchiad. Cafwyd anrhegion cyffelyb gan Mr.J. A. A. Williams a Mr. John Robinson. Yn absenoldeb Esgob Bangor, agorwyd y gweithrediadau gan Mr. John Robinson, yr hwn a wnaeth araith bwrpasol. Yna hwyliodd pawb at waith i roddi tro am y gwahanol fyrddau.... [Ceir ar ôl hyn restr hir o’r merched oedd yn gyfrifol am nifer helaeth o stondinau]...Bu nifer mawr o ymwelwyr yn y neuadd y diwrnod cyntaf, ac yn eu plith yr Anrhydeddus F. Wynn, Glynllifon, a'i chwaer, yr Anrhydeddus Mrs. Gladstone. Yr oedd Seindorf Bres Pen-y-groes yn bresennol yn ystod y tri diwrnod. Cariwyd allan y drawings ar y llwyfan gan Mr. Thomas, Ty Mawr; Mr. W. M. Hughes, a'r Parch, J. Hughes, B.A. Y rhai mwyaf ffodus oeddynt Mr. J. A. A. Williams, Glangwna, a Mr. Robinson. Rhoddodd Mr. J. A. A. Williams fenthyg perdoneg hardd ar gyfer yr amgylchiad, a gwasanaethodd fel cyfeilydd i'r gwahanol gantorion, sef yr Anrhydeddus Mrs. Wynne Jones, Miss Gayney Griffith, ynghyd â'r String Band a wasanaethai ar yr amgylchiad. Yr ail ddydd agorwyd y gweithrediadau gan Mr. Ellis Nanney mewn araith bwrpasol, a'r trydydd dydd gan Mr. J. A. A. Williams. Deallwn fod elw da wedi ei sicrhau.[1] 

Codwyd yr Eglwys Crist bresennol yn fuan wedyn, sef ym 1890, yn lle'r hen adeilad haearn sinc. Gwaith y pensaer eglwysig Henry Kennedy ydyw, ac un o'r eglwysi olaf, os nad yr olaf, iddo ei dylunio. Yr adeiladydd oedd R.R. Williams, Caernarfon.[2] Rhoddwyd y safle'n wreiddiol gan berchnogion Ystad Bryncir, sef Teulu Huddart. Yr oedd y llechi ar y to'n rhodd gan G.W. Duff-Assheton-Smith, Ystad y Faenol.[3] Gosodwyd y garreg sylfaen gan y Fonesig Puleston 16 Awst 1890, a gwnaeth ei gŵr, Syr John Puleston, AS annerch y gynulleidfa. Bu Côr yr Eglwys yn canu, i gyfeiliant Band Pres Pen-y-groes.[4] Nid yw'n glir pam y cafodd Puleston ei ddewis i wneud hyn, heblaw am y ffaith ei fod yn Gymro, yn amlwg gyda'r Eisteddfod ac Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, ac yn Geidwadwr a fyddai'n gwrthwynebu Lloyd George yn yr etholiad nesaf![5] Gwadodd Puleston mai am resymau gwleidyddol yr oedd yn annerch y dorf, ond yn hytrach, meddai, yr oedd yn ymhyfrydu mewn cael cymryd rhan mewn digwyddiad anwleidyddol. Cynhaliwyd y cyfarfod cychwynnol yn Neuadd y Farchnad, Pen-y-groes cyn cymud at safle'r eglwys gerllaw. Ymysg y dorf niferus yr oedd un o brif noddwyr yr adeiladu, John Robinson, Plas Tal-y-sarn.[6]

Cost y gwaith o godi'r eglwys oedd oddeutu £1400, ac yr oedd tua £1050 mewn llaw cyn cychwyn ar y gwaith. Mae lle yn yr eglwys i 320 o bobl.[7]

Hon yw'r ail eglwys ym mhlwyf Llanllyfni, a saif llai na milltir i'r gogledd o'r eglwys honno, nid nepell o Neuadd Goffa Pen-y-groes.[8] Gyda phum capel anghydffurfiol cyfagos, dichon bod yr awdurdodau eglwysig yn gweld bod angen eglwys yn nes at yr holl dai newydd oedd yn cael eu codi ym Mhen-y-groes nag eglwys Llanllyfni. Gwasanaethai curad plwyf Llanllyfni gynulleidfa Eglwys Crist a phlwyfolion y rhannau amgylchynol o blwyf Llanllyfni, ac ar adeg agor yr eglwys newydd, y Parch. R. Hughes oedd curad Pen-y-groes. Cyn ei ddyddiau ef, Parch. Hughes arall oedd y curad cyn i hwnnw symud i fod yn reithor Y Bermo.[9]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Y Llan, 28.6.1889, t.6
  2. Caernarvon & Denbigh Herald, 9 Mai 1890, t.6
  3. North Wales Express, 8 Awst 1890, t.2
  4. North Wales Express, 8 Awst 1890, t.2
  5. Y Bywgraffiadur Ar-lein, [1], cyrchwyd 25.3.2021
  6. North Wales Express, 8 Awst 1890, t.2
  7. North Wales Chronicle, 23 Awst 1890, t.6
  8. Gwefan Coflein, [2],cyrchwyd 24.3.2021
  9. North Wales Express, 8 Awst 1890, t.2