Thomas John Wynn, 5ed Arglwydd Newborough: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 5: Llinell 5:
Wedi ysgariad ym 1938, priododd â [[Denisa, Arglwyddes Newborough|Denisa Josephine Malpuech]] (cyn-wraig Jean Malpuech, Rheolwr Laos),a merch Lazar Braun, Subotica, Iwgoslafia. Bu hon yn achosi cryn sgandal yn y teulu wedi iddi hithau gael ei hysgaru gan ei gŵr. Ysgrifennodd  hunangofiant dadlennol, "Fire in my Blood". Cafodd Arglwydd Newborough a hithau un ferch, yr Anrh. (Blanche-Neige) Juno Palma Odette Denisa Wynn (g. 1940), a fu'n ''debutante'' ac a briododd Philip Wolfe-Parry, Wimbledon Park, Llundain ym 1963.  
Wedi ysgariad ym 1938, priododd â [[Denisa, Arglwyddes Newborough|Denisa Josephine Malpuech]] (cyn-wraig Jean Malpuech, Rheolwr Laos),a merch Lazar Braun, Subotica, Iwgoslafia. Bu hon yn achosi cryn sgandal yn y teulu wedi iddi hithau gael ei hysgaru gan ei gŵr. Ysgrifennodd  hunangofiant dadlennol, "Fire in my Blood". Cafodd Arglwydd Newborough a hithau un ferch, yr Anrh. (Blanche-Neige) Juno Palma Odette Denisa Wynn (g. 1940), a fu'n ''debutante'' ac a briododd Philip Wolfe-Parry, Wimbledon Park, Llundain ym 1963.  


Trydedd gwraig Thomas John Wynn oedd Katherine Rudkin Murray, merch Henry Stephen Murray, Melbourne, Awstralia. Fe briododd y ddau fis Awst 1947, a bu'r Arglwyddes Newborough hon fyw tan 1979, mewn tŷ ar gornel ystâd Glan Beuno yn y [[Bontnewydd]] wedi iddi golli ei gŵr ym 1957 - bu farw hwnnw yn Sain Pancras, Llundain.
Trydedd gwraig Thomas John Wynn oedd Katherine Rudkin Murray, merch Henry Stephen Murray, Melbourne, Awstralia. Fe briododd y ddau fis Awst 1947, a bu'r Arglwyddes Newborough hon fyw tan 1979, mewn tŷ ar gornel ystâd Glan Beuno yn y [[Bontnewydd]] wedi iddi golli ei gŵr ym 1957 - bu farw hwnnw yn Sant Pancras, Llundain.


Etifeddodd Thomas John Wynn [[Ystad Glynllifon]] wedi i'w ewythr, yr Anrh. [[Frederick George Wynn]] farw ym 1932.
Etifeddodd Thomas John Wynn [[Ystad Glynllifon]] wedi i'w ewythr, yr Anrh. [[Frederick George Wynn]], farw ym 1932. Er iddo fyw am ran o'i amser ym mlasty [[Glynllifon]], fe'i gwerthwyd ym 1949., nid cymaint am ei fod yn rhy fawr - er bod y plas yn cynnwys 102 o ystafelloedd - ond, a dyfynnu yr hyn a gynigiodd fel rheswm am y gwerthiant: "trethiant uchel ac achos fy mod i'n ei chael hi bron yn amhosibl i benodi staff."<ref>Gwefan "Handed On: Being a random register of long-held private country houses not generally open to the public'', Rhug, Denbighshire, [https://handedon.wordpress.com/2015/07/14/rhug-denbighshire/], cyrchwyd 19.2.2021</ref>


  {{eginyn}}
  {{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:19, 19 Chwefror 2021

Dilynodd Thomas John Wynn (1878-1957), ei frawd hŷn fel y 5ed Arglwydd Newborough wedi i hwnnw farw ym 1916 o ganlyniad i afiechyd a ddaliodd tra'n gwasanaethu yn Ffrainc gyda'r Gwarchodlu Cymreig.

Bu'n briod deirgwaith: yn gyntaf, â Vera Evelen Mary Winch o Down Hall, Swydd Dorset, 1907-1938; cawsant un ferch, Yr Anrh. Stella Maria Glyn Wynn (1908-1977).

Wedi ysgariad ym 1938, priododd â Denisa Josephine Malpuech (cyn-wraig Jean Malpuech, Rheolwr Laos),a merch Lazar Braun, Subotica, Iwgoslafia. Bu hon yn achosi cryn sgandal yn y teulu wedi iddi hithau gael ei hysgaru gan ei gŵr. Ysgrifennodd hunangofiant dadlennol, "Fire in my Blood". Cafodd Arglwydd Newborough a hithau un ferch, yr Anrh. (Blanche-Neige) Juno Palma Odette Denisa Wynn (g. 1940), a fu'n debutante ac a briododd Philip Wolfe-Parry, Wimbledon Park, Llundain ym 1963.

Trydedd gwraig Thomas John Wynn oedd Katherine Rudkin Murray, merch Henry Stephen Murray, Melbourne, Awstralia. Fe briododd y ddau fis Awst 1947, a bu'r Arglwyddes Newborough hon fyw tan 1979, mewn tŷ ar gornel ystâd Glan Beuno yn y Bontnewydd wedi iddi golli ei gŵr ym 1957 - bu farw hwnnw yn Sant Pancras, Llundain.

Etifeddodd Thomas John Wynn Ystad Glynllifon wedi i'w ewythr, yr Anrh. Frederick George Wynn, farw ym 1932. Er iddo fyw am ran o'i amser ym mlasty Glynllifon, fe'i gwerthwyd ym 1949., nid cymaint am ei fod yn rhy fawr - er bod y plas yn cynnwys 102 o ystafelloedd - ond, a dyfynnu yr hyn a gynigiodd fel rheswm am y gwerthiant: "trethiant uchel ac achos fy mod i'n ei chael hi bron yn amhosibl i benodi staff."[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan "Handed On: Being a random register of long-held private country houses not generally open to the public, Rhug, Denbighshire, [1], cyrchwyd 19.2.2021