Sgwrs Delwedd:Golygu.jpg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Gyrn Goch Pentref bach yw Gurn Goch ar droed y mynydd o’r un enw, ar y ffordd A499 rhwng Clynnog Fawr a Llanaelhaearn (Caernarfon/Pwlheli). Afon H...'
 
Dim crynodeb golygu
 
Llinell 10: Llinell 10:
Agorwyd Capel Seion (MC) ar gwr y pentref yn 1826. Fe’i hailadeiladwyd yn 1875 ond fe’i caewyd yn y flwyddyn 2000.  Cyn ei agor arferid addoli yng nghartref Griffith Williams, Hen Derfyn, fferm ar y ffin rhwng plwyfi Clynnog Fawr a Llanaelhaearn.

Yn ei llyfr “Sul, Gŵyl a Gwaith”* ceir hanes yr awdur, Catrin Parri Huws, yn mynd i weld Pistyll Dafn ar Afon Ddalfa, yr ochr uchaf i fferm Cwmgwara.  Byddai ymwelwyr y heidio yno yng nghyfnod ei phlentyndod.  “Ymhen blynyddoedd wedi hynny fe geisiais innau fynd â’m plant i weld y rhyfeddod. Ond methiant a fu, oherwydd y dagfa o’r brwgaits tewaf.  Ni chlywid ei dinc, hyd yn oed, fel yn yr amser gynt.”*
Yn ei llyfr “Sul, Gŵyl a Gwaith”* ceir hanes yr awdur, Catrin Parri Huws, yn mynd i weld Pistyll Dafn ar Afon Ddalfa, yr ochr uchaf i fferm Cwmgwara.  Byddai ymwelwyr yn heidio yno yng nghyfnod ei phlentyndod.  “Ymhen blynyddoedd wedi hynny fe geisiais innau fynd â’m plant i weld y rhyfeddod. Ond methiant a fu, oherwydd y dagfa o’r brwgaits tewaf.  Ni chlywid ei dinc, hyd yn oed, fel yn yr amser gynt.”*

*Sul Gŵyl a Gwaith, Catrin Parri Huws, Gwasg Gwynedd, 1981.

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:34, 12 Rhagfyr 2017

Gyrn Goch

Pentref bach yw Gurn Goch ar droed y mynydd o’r un enw, ar y ffordd A499 rhwng Clynnog Fawr a Llanaelhaearn (Caernarfon/Pwlheli).

Afon Hen yw’r afon sy’n llifo dan y bont i’r môr yn Aberafon.

Roedd yma felin flawd, tafarn (Sportsman)(hyd at tua diwedd y 19g.) a siop hyd at tua hanner cyntaf yr 20fed ganrif.

Agorwyd Capel Seion (MC) ar gwr y pentref yn 1826. Fe’i hailadeiladwyd yn 1875 ond fe’i caewyd yn y flwyddyn 2000. Cyn ei agor arferid addoli yng nghartref Griffith Williams, Hen Derfyn, fferm ar y ffin rhwng plwyfi Clynnog Fawr a Llanaelhaearn.

Yn ei llyfr “Sul, Gŵyl a Gwaith”* ceir hanes yr awdur, Catrin Parri Huws, yn mynd i weld Pistyll Dafn ar Afon Ddalfa, yr ochr uchaf i fferm Cwmgwara. Byddai ymwelwyr yn heidio yno yng nghyfnod ei phlentyndod. “Ymhen blynyddoedd wedi hynny fe geisiais innau fynd â’m plant i weld y rhyfeddod. Ond methiant a fu, oherwydd y dagfa o’r brwgaits tewaf. Ni chlywid ei dinc, hyd yn oed, fel yn yr amser gynt.”*

  • Sul Gŵyl a Gwaith, Catrin Parri Huws, Gwasg Gwynedd, 1981.