Ffynnon Aelhaearn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ffynnon sanctaidd yw Ffynnon Aelhaearn, a lleolir hi ym mhentref [[Llanaelhaearn]]. Ffynnon betryal ei siâp, sy’n mesur tua 13 X 7 troedfedd. Ers talwm, deuai cleifion ato i gael gwellhad a byddai pererinion yn aros yma hefyd, i yfed y dŵr a gorffwys ar ôl cerdded o Glynnog. Codwyd adeilad o gwmpas dechrau’r ugeinfed ganrif gan y Cyngor Plwyf, er mwyn gwarchod purdeb y dwr rhag diptheria.  
Ffynnon sanctaidd yw '''Ffynnon Aelhaearn''', a lleolir hi ym mhentref [[Llanaelhaearn]]. Fe'i gwelir ar waelod yr allt hir sydd yn arwain dros yr Eifl, ac mae wedi ei hamgylchynu bellach gan wal gerrig. Ffynnon betryal ei siâp ydyw, sy’n mesur tua 13 X 7 troedfedd, gyda sedd/gris ar dair ochr. Ers talwm, deuai cleifion yno i gael gwellhad a byddai pererinion yn aros yma hefyd, i yfed y dŵr a gorffwys ar ôl cerdded o [[Clynnog-fawr|Glynnog]]. Yn ôl traddodiad, arferai’r cleifion eistedd ar sedd garrreg gerllaw, yn disgwyl ‘cynhyrfiad y dyfroedd’, pan fyddai swigod yn codi’n sydyn o waelod y ffynnon. Pan ddigwyddai hynny, aent i’r dŵr ac ymdrochi ynddo. Codwyd adeilad o gerrig o'i chwmpas yn nechrau'r ugeinfed ganrif gyda tho llechi yn rhedeg i lawr at y cefn ac mae drws pren yn wynebu’r ffordd. Mae llechen gyda’r geiriau ‘St. Aelhaearn’s Well. Roofed 1900’ uwchben y drws.  Codwyd yr adeilad hwn ddechrau’r ugeinfed ganrif gan y Cyngor Plwyf, er mwyn gwarchod purdeb y dŵr rhag diptheria.  
 
 
 
 


==Ffynonellau==
==Ffynonellau==
Llinell 8: Llinell 12:


[[Categori: Safleoedd nodedig]]
[[Categori: Safleoedd nodedig]]
[[Categori:Ffynhonnau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:13, 6 Ionawr 2021

Ffynnon sanctaidd yw Ffynnon Aelhaearn, a lleolir hi ym mhentref Llanaelhaearn. Fe'i gwelir ar waelod yr allt hir sydd yn arwain dros yr Eifl, ac mae wedi ei hamgylchynu bellach gan wal gerrig. Ffynnon betryal ei siâp ydyw, sy’n mesur tua 13 X 7 troedfedd, gyda sedd/gris ar dair ochr. Ers talwm, deuai cleifion yno i gael gwellhad a byddai pererinion yn aros yma hefyd, i yfed y dŵr a gorffwys ar ôl cerdded o Glynnog. Yn ôl traddodiad, arferai’r cleifion eistedd ar sedd garrreg gerllaw, yn disgwyl ‘cynhyrfiad y dyfroedd’, pan fyddai swigod yn codi’n sydyn o waelod y ffynnon. Pan ddigwyddai hynny, aent i’r dŵr ac ymdrochi ynddo. Codwyd adeilad o gerrig o'i chwmpas yn nechrau'r ugeinfed ganrif gyda tho llechi yn rhedeg i lawr at y cefn ac mae drws pren yn wynebu’r ffordd. Mae llechen gyda’r geiriau ‘St. Aelhaearn’s Well. Roofed 1900’ uwchben y drws. Codwyd yr adeilad hwn ddechrau’r ugeinfed ganrif gan y Cyngor Plwyf, er mwyn gwarchod purdeb y dŵr rhag diptheria.



Ffynonellau

Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol

Gwefan Ffynhonnau Sanctaidd Cymru