Dolbebin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Hen annedd oedd Dolbebin, neu '''Dôl Pebin''' fel y gelwir weithiau. Credir iddi fod yn gartref i gymeriad o’r Mabinogi, sef Pebin o Ddol Pebin – ta...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Hen annedd oedd Dolbebin, neu '''Dôl Pebin''' fel y gelwir weithiau.
Hen annedd oedd Dolbebin, neu '''Dôl Pebin''' fel y'i gelwir weithiau.


Credir iddi fod yn gartref i gymeriad o’r Mabinogi, sef Pebin o Ddol Pebin – tad Goewin yn y bedwaredd gainc. Yn ôl y chwedl, dewiswyd Goewin fel morwyn i Math fab Mathonwy. Nid oedd Math i fyw heb fod ei draed yn gorffwys ar ei harffed hi, oni bai iddo fod yn brwydro.  
Credir iddi fod yn gartref i gymeriad o[[Y Mabinogi|’r Mabinogi]], sef Pebin o Ddôl Pebin – tad Goewin yn y bedwaredd gainc. Yn ôl y chwedl, dewiswyd Goewin fel morwyn i Math fab Mathonwy. Roedd hynodrwydd yn perthyn i Math, sef na allai fyw oni bai fod ei draed yn gorffwys ar ei harffed hi, oni bai iddo gael ei alw ymaith i ryfel. Syrthiodd Gilfaethwy, brawd y dewin Gwydion, mewn cariad â hi ac fe wnaeth Gwydion achosi rhyfel rhwng teyrnasoedd Gwynedd a Deheubarth, er mwyn i Math orfod gadael ei lys a Goewin. Tra oedd Math i ffwrdd fe wnaeth Gilfaethwy dreisio Goewin a bu'n rhaid i Fath chwilio am forwyn arall yn ei lle.  


Awgrymai rhai fod mae yn ardal Talysarn oedd Dolbebin, sef y man ymhle mae ystâd Bro Silyn heddiw. Mae’r annedd hon hefyd yn ymddangos yng ngherdd R. Williams Parry, ‘Y ddôl a aeth o’r golwg’.  
Awgrymai rhai mai yn ardal [[Tal-y-sarn]] oedd Dolbebin, sef y fan lle mae stad dai [[Bro Silyn]] heddiw. Cyfeirir at Ddôl Pebin hefyd yng ngherdd [[R. Williams Parry]], ‘Y ddôl a aeth o’r golwg’.  


==Ffynonellau==  
==Ffynonellau==  

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:42, 6 Mai 2022

Hen annedd oedd Dolbebin, neu Dôl Pebin fel y'i gelwir weithiau.

Credir iddi fod yn gartref i gymeriad o’r Mabinogi, sef Pebin o Ddôl Pebin – tad Goewin yn y bedwaredd gainc. Yn ôl y chwedl, dewiswyd Goewin fel morwyn i Math fab Mathonwy. Roedd hynodrwydd yn perthyn i Math, sef na allai fyw oni bai fod ei draed yn gorffwys ar ei harffed hi, oni bai iddo gael ei alw ymaith i ryfel. Syrthiodd Gilfaethwy, brawd y dewin Gwydion, mewn cariad â hi ac fe wnaeth Gwydion achosi rhyfel rhwng teyrnasoedd Gwynedd a Deheubarth, er mwyn i Math orfod gadael ei lys a Goewin. Tra oedd Math i ffwrdd fe wnaeth Gilfaethwy dreisio Goewin a bu'n rhaid i Fath chwilio am forwyn arall yn ei lle.

Awgrymai rhai mai yn ardal Tal-y-sarn oedd Dolbebin, sef y fan lle mae stad dai Bro Silyn heddiw. Cyfeirir at Ddôl Pebin hefyd yng ngherdd R. Williams Parry, ‘Y ddôl a aeth o’r golwg’.

Ffynonellau

Carr, Glenda Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Gwasg y Bwthyn, 2011)

Gwefan Swyddogol Dyffryn Nantlle