Y Pedwar Cabalero: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 1 olygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 11: Llinell 11:
Richard Eammes, gitâr fâs.
Richard Eammes, gitâr fâs.


Dennis Williams fyddai'n cyfansoddi geiriau'r caneuon.  Mae ef bellach wedi ymddeol o fod yn Brif Weinyddwr Gwasanaeth Cerdd William Matthias yng Ngwynedd a Môn, ac mae'n byw yn Llanfair Pwllgwyngyll. Deil Glyn Jones i fyw yn Nhrefor. Yn gymharol ddiweddar ffurfiodd Glyn a Dennis ddeuawd hynod o boblogaidd o'r enw MONTRE, yr enw wedi ei fathu o 'Môn' a 'Trefor', lle mae'r ddau heddiw'n byw. Yn wir, maent hefyd yn frodyr-yng-nghyfraith i'w gilydd gan iddynt briodi dwy ferch o Glynnog Fawr - Glyn â Heather, a Dennis â Faith.
Dennis Williams fyddai'n cyfansoddi geiriau'r caneuon.  Cyn iddo ymddeol bu'n gweithio fel Prif Weinyddwr Gwasanaeth Cerdd William Matthias yng Ngwynedd a Môn. Ymgartrefodd gyda'i deulu yn Llanfair Pwllgwyngyll a bu farw yn 2021. Treuliodd Glyn Jones ei oes yn byw yn Nhrefor a'r cyffiniau a bu farw yn 2022, ddim ond rhyw flwyddyn ar ôl ei gyfaill Dennis. Yn gymharol ddiweddar ffurfiodd Glyn a Dennis ddeuawd hynod o boblogaidd o'r enw MONTRE, yr enw wedi ei fathu o 'Môn' a 'Trefor', lle'r oedd y ddau'n byw. Yn wir, roeddent hefyd yn frodyr-yng-nghyfraith i'w gilydd gan iddynt briodi dwy ferch o Glynnog Fawr - Glyn â Heather, a Dennis â Faith.


Pedair cân sydd ar y record, a'r oll o'r geiriau wedi eu cyfansoddi gan Dennis Williams :
Pedair cân sydd ar y record, a'r oll o'r geiriau wedi eu cyfansoddi gan Dennis Williams :

Golygiad diweddaraf yn ôl 17:00, 17 Awst 2023

Grŵp canu gwlad a ffurfiwyd yn ail hanner y 1960'au oedd Y Pedwar Cabalero. Canai yn Saesneg hefyd dan yr enw The Four Caballeros. Pum aelod oedd i'r grŵp pan gyhoeddwyd record EP ohonynt gan Recordiau'r Dryw ym Mehefin 1970 sef :

Glyn Jones, o Fryn Eryr, Trefor - prif ganwr, iodliwr a gitâr rhythm ;

Dennis Williams, o bentref Trefor - canwr (yn y deuawdau yn arbennig) a phrif gitarydd ;

John Hanks, organ drydan ;

Johnny Evans, o Glynnog - drymiwr ;

Richard Eammes, gitâr fâs.

Dennis Williams fyddai'n cyfansoddi geiriau'r caneuon. Cyn iddo ymddeol bu'n gweithio fel Prif Weinyddwr Gwasanaeth Cerdd William Matthias yng Ngwynedd a Môn. Ymgartrefodd gyda'i deulu yn Llanfair Pwllgwyngyll a bu farw yn 2021. Treuliodd Glyn Jones ei oes yn byw yn Nhrefor a'r cyffiniau a bu farw yn 2022, ddim ond rhyw flwyddyn ar ôl ei gyfaill Dennis. Yn gymharol ddiweddar ffurfiodd Glyn a Dennis ddeuawd hynod o boblogaidd o'r enw MONTRE, yr enw wedi ei fathu o 'Môn' a 'Trefor', lle'r oedd y ddau'n byw. Yn wir, roeddent hefyd yn frodyr-yng-nghyfraith i'w gilydd gan iddynt briodi dwy ferch o Glynnog Fawr - Glyn â Heather, a Dennis â Faith.

Pedair cân sydd ar y record, a'r oll o'r geiriau wedi eu cyfansoddi gan Dennis Williams :

1. Morfudd

2. O 'rwy'n dy garu

3. Caraf Cymru

4. Menna annwyl

Enw'r record yw Y 4 CABALERO.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma