Tai Elen Glynn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Tai Elen Glynn''' yn elusendai yn [[Llandwrog]], nid nepell o fferm Cefn Hengwrt. Mae'r adeilad presennol yn weddol fodern, er | Mae '''Tai Elen Glynn''' yn elusendai yn [[Llandwrog]], nid nepell o fferm Cefn Hengwrt. Mae'r adeilad presennol yn weddol fodern, er i'r hen elusendai fod ar yr un safle. | ||
Fe' | Fe'u sefydlwyd gan ewyllys [[Ellen Glynn, Bryn Gwydion]]. Bu i Ellen Glynn farw, mae'n debyg, yn ddi-briod, ym 1733. Yn ei hewyllys, dyddiedig 31 Mawrth 1727, bu iddi adael rhan helaeth o’i hystâd, sef rhannau o [[Eithinog Wen]] a thir Plas Newydd, er mwyn adeiladu elusendai ar gyfer deuddeg o ferched bonheddig a oedd mewn sefyllfa anffodus, megis diffyg arian neu oedd ag angen edrych ar eu hôl.<ref>J. Jones (Llanllyfni), ''Carn y Gewach'', yn ''Y Brython'', 16 Gorffennaf 1858, t.89</ref> Yn ei geiriau hi, roedd y preswylwyr i fod yn "ferched bonheddig di-briod ac bregus ("decayed" yn y gwreiddiol) ac yn hŷn na 50 mlwydd oed" ac roedd blaenoriaeth i'w rhoi i ferched oedd yn perthyn i'w theulu.<ref>''A to Z of Westminster Abbey'', Gwefan Abaty San Steffan, [https://www.westminster-abbey.org/abbey-commemorations/commemorations/ellen-glynne], cyrchwyd 31.12.2020</ref> Mae'n ymddangos ei bod hi'n ofynnol i offeiriad y plwyf ddweud gweddïau yn yr elusendai bedair gwaith y flwyddyn, ar Ŵyl San Steffan, Gŵyl Fair, Gŵyl Sant Ioan Fedyddiwr a Gŵyl Sant Mihangel.<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr plwyf Llandwrog, 1734-1767</ref> | ||
Erbyn 1840, pan wnaethpwyd map o'r plwyf er mwyn pennu rhent y degwm, yr oedd 12 bwthyn ar gyfer pobl dlawd yno, gyda David Williams (sef ficer y plwyf, mae'n debyg) ac ymddiriedolwyr eraill yn gyfrifol amdanynt. Mary Jones oedd enw un o'r preswylwyr.<ref>LLGC, Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer plwyf Llandwrog [https://lleoedd.llyfrgell.cymru/search/53.071/-4.309/14?alt=&page=1&refine=&query=Llandwrog&order=desc&sort=score&rows=100&leaflet-base-layers_92=on]</ref> | |||
Tua 1890, yr oedd yr elusendai mewn cyflwr gwael, a chodwyd adeilad newydd ar yr un safle, eto i roi cartref i ddeuddeg o ferched tlawd y plwyf, ac mae'n parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer darparu cartref i hen bobl. Mae'r elusendai ar ffurf sy'n atgoffa rhywun o fynachdy yn ardal Môr y Canoldir, wedi eu hadeiladu o gwmpas iard ganolog. Cafodd yr adeilad ei ymestyn a'i addasu ym 1960, ac mae'n cael ei weinyddu bellach gan gorff cartrefi lleol.<ref>Gwefan Coflein, [https://www.coflein.gov.uk/en/site/26426/details/ellen-glynne-almshouses-llandwrog], cyrchwyd 2.1.2021</ref> | |||
Erbyn 1974, yr unig ymddiriedolwr oedd Grŵp Cynefin a'i ragflaenwyr. Nid yw'r elusen yn ceisio codi arian o'r newydd, gan fod incwm sylweddol blynyddol ganddi: tua £40,000 yn flynyddol ar gyfartaledd.<ref>Cofrestr y Comisiwn Elusennau, [https://register-of-charities.charitycommission.gov.uk/cy/charity-search/-/charity-details/219790/financial-history], cyrchwyd 2.1.2021</ref> | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori:Elusen]] | [[Categori:Elusen]] | ||
[[Categori:Adeiladau ac adeiladwaith]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:08, 26 Ionawr 2022
Mae Tai Elen Glynn yn elusendai yn Llandwrog, nid nepell o fferm Cefn Hengwrt. Mae'r adeilad presennol yn weddol fodern, er i'r hen elusendai fod ar yr un safle.
Fe'u sefydlwyd gan ewyllys Ellen Glynn, Bryn Gwydion. Bu i Ellen Glynn farw, mae'n debyg, yn ddi-briod, ym 1733. Yn ei hewyllys, dyddiedig 31 Mawrth 1727, bu iddi adael rhan helaeth o’i hystâd, sef rhannau o Eithinog Wen a thir Plas Newydd, er mwyn adeiladu elusendai ar gyfer deuddeg o ferched bonheddig a oedd mewn sefyllfa anffodus, megis diffyg arian neu oedd ag angen edrych ar eu hôl.[1] Yn ei geiriau hi, roedd y preswylwyr i fod yn "ferched bonheddig di-briod ac bregus ("decayed" yn y gwreiddiol) ac yn hŷn na 50 mlwydd oed" ac roedd blaenoriaeth i'w rhoi i ferched oedd yn perthyn i'w theulu.[2] Mae'n ymddangos ei bod hi'n ofynnol i offeiriad y plwyf ddweud gweddïau yn yr elusendai bedair gwaith y flwyddyn, ar Ŵyl San Steffan, Gŵyl Fair, Gŵyl Sant Ioan Fedyddiwr a Gŵyl Sant Mihangel.[3]
Erbyn 1840, pan wnaethpwyd map o'r plwyf er mwyn pennu rhent y degwm, yr oedd 12 bwthyn ar gyfer pobl dlawd yno, gyda David Williams (sef ficer y plwyf, mae'n debyg) ac ymddiriedolwyr eraill yn gyfrifol amdanynt. Mary Jones oedd enw un o'r preswylwyr.[4]
Tua 1890, yr oedd yr elusendai mewn cyflwr gwael, a chodwyd adeilad newydd ar yr un safle, eto i roi cartref i ddeuddeg o ferched tlawd y plwyf, ac mae'n parhau i gael ei ddefnyddio ar gyfer darparu cartref i hen bobl. Mae'r elusendai ar ffurf sy'n atgoffa rhywun o fynachdy yn ardal Môr y Canoldir, wedi eu hadeiladu o gwmpas iard ganolog. Cafodd yr adeilad ei ymestyn a'i addasu ym 1960, ac mae'n cael ei weinyddu bellach gan gorff cartrefi lleol.[5]
Erbyn 1974, yr unig ymddiriedolwr oedd Grŵp Cynefin a'i ragflaenwyr. Nid yw'r elusen yn ceisio codi arian o'r newydd, gan fod incwm sylweddol blynyddol ganddi: tua £40,000 yn flynyddol ar gyfartaledd.[6]
Cyfeiriadau
- ↑ J. Jones (Llanllyfni), Carn y Gewach, yn Y Brython, 16 Gorffennaf 1858, t.89
- ↑ A to Z of Westminster Abbey, Gwefan Abaty San Steffan, [1], cyrchwyd 31.12.2020
- ↑ Archifdy Caernarfon, Cofrestr plwyf Llandwrog, 1734-1767
- ↑ LLGC, Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer plwyf Llandwrog [2]
- ↑ Gwefan Coflein, [3], cyrchwyd 2.1.2021
- ↑ Cofrestr y Comisiwn Elusennau, [4], cyrchwyd 2.1.2021