Gwyndaf Sant: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 7 golygiad yn y canol gan 4 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae eglwys plwyf [[Llanwnda]] yn Uwchgwyrfai wedi ei chysegru i '''Sant Gwyndaf''' (neu Gwnda), a oedd o bosibl wedi sefydlu llan neu eglwys yma.  
Mae eglwys plwyf [[Llanwnda]] yn Uwchgwyrfai wedi ei chysegru i '''Sant Gwyndaf''' (neu Gwnda), a oedd o bosibl wedi sefydlu llan neu eglwys yma.  


Yn ôl traddodiad, enw arall ar Wyndaf oedd Gwyndaf Hen. Dywedir ei fod wedi teithio gyda Sant Cadfan o Lydaw i Ben Llŷn, yng nghwmni dilynwyr eraill hwnnw, sef y seintiau Padarn, Tydecho, Henwyn, Meugant, Mael, Trinio, Sulien, Tanwg, Sadwrn, Lleuddad, Tecwyn a Maelrys. Roedd y rhain oll, meddir, yn perthyn i'w gilydd, a sefydlodd nifer helaeth ohonynt eglwysi, neu lannau, yng Ngogledd Cymru. Roedd Gwyndaf Hen yn fab i Emyr Lydaw, ac fe briododd Gwenonwy, merch Meurig ap Tewdrig, Brenin Morgannwg a chwaer y Brenin Arthur.
Yn ôl traddodiad, enw arall ar Wyndaf oedd Gwyndaf Hen. Dywedir ei fod wedi teithio gyda Sant Cadfan o Lydaw i Lŷn, yng nghwmni dilynwyr eraill, sef y seintiau Padarn, Tydecho, Henwyn, Meugant, Mael, Trinio, Sulien, Tanwg, Sadwrn, Lleuddad, Tecwyn a Maelrys. Roedd y rhain oll, meddir, yn perthyn i'w gilydd, a sefydlodd nifer helaeth ohonynt eglwysi, neu lannau, yng Ngogledd Cymru. Roedd Gwyndaf Hen yn fab i Emyr Lydaw, ac fe briododd â Gwenonwy, merch Meurig ap Tewdrig, Brenin Morgannwg a chwaer y Brenin Arthur.


Prin y gellir rhoi coel ar y 'ffeithiau' hyn, gan mai'r unig ffynonellau amdanynt yw bucheddau (neu gofiannau) a ysgrifennwyd ganrifoedd wedi i'r bobl hyn fod yn fyw. Y gwir yw, nad ydym yn gwybod dim am Wyndaf ond ei fod wedi gadael ei enw ar eglwysi yng Nghymru - a hynny'n gynnar yn hanes Christnogaeth Cymnru. Digon posibl hefyd yw'r awgrym ei fod yn hanu o Lydaw, gan mai o'r fan honno y daeth llawer o seintiau cynnar Cymnru yn y 5g a 6g OC.
Prin y gellir rhoi coel ar y 'ffeithiau' hyn, gan mai'r unig ffynonellau amdanynt yw bucheddau (neu gofiannau) a ysgrifennwyd ganrifoedd wedi i'r bobl hyn farw. Y gwir yw nad ydym yn gwybod dim am Wyndaf ond ei fod wedi gadael ei enw ar eglwysi yng Nghymru - a hynny'n gynnar yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Digon posibl hefyd fod rhywfaint o wirionedd yn yr awgrym ei fod yn hanu o Lydaw, gan mai o'r fan honno y daeth llawer o seintiau cynnar Cymnru yn y 5g a 6g OC.


Mae plwyf arall yng Nghymru, Llanwnda yn Sir Benfro, wedi ei enwi ar ôl Gwyndaf Hen; ac efallai dyna darddiad yr enw Capel Gwnda, ym mhlwyf Penbryn, Sir Aberteifi (Ceredigion) - er mai dim ond ffermdy sydd yno bellach gyda'r enw hwnnw.   
Mae plwyf arall yng Nghymru, Llanwnda yn Sir Benfro, wedi ei enwi ar ôl Gwyndaf Hen; ac efallai mai dyna darddiad yr enw Capel Gwnda, ym mhlwyf Penbryn, Sir Aberteifi (Ceredigion) - er mai dim ond ffermdy o'r enw hwnnw sydd yno bellach.   


==Ffynonellau==
==Ffynonellau==
Chris Barber a David Pykitt, ''Journey to Avalon'', (York Beach, 1997), t.230-1.
#Chris Barber a David Pykitt, ''Journey to Avalon'', (York Beach, 1997), t.230-1.


[[Categori:Saint]]
[[Categori:Saint]]
[[Categori:Pobl]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:07, 17 Ionawr 2022

Mae eglwys plwyf Llanwnda yn Uwchgwyrfai wedi ei chysegru i Sant Gwyndaf (neu Gwnda), a oedd o bosibl wedi sefydlu llan neu eglwys yma.

Yn ôl traddodiad, enw arall ar Wyndaf oedd Gwyndaf Hen. Dywedir ei fod wedi teithio gyda Sant Cadfan o Lydaw i Lŷn, yng nghwmni dilynwyr eraill, sef y seintiau Padarn, Tydecho, Henwyn, Meugant, Mael, Trinio, Sulien, Tanwg, Sadwrn, Lleuddad, Tecwyn a Maelrys. Roedd y rhain oll, meddir, yn perthyn i'w gilydd, a sefydlodd nifer helaeth ohonynt eglwysi, neu lannau, yng Ngogledd Cymru. Roedd Gwyndaf Hen yn fab i Emyr Lydaw, ac fe briododd â Gwenonwy, merch Meurig ap Tewdrig, Brenin Morgannwg a chwaer y Brenin Arthur.

Prin y gellir rhoi coel ar y 'ffeithiau' hyn, gan mai'r unig ffynonellau amdanynt yw bucheddau (neu gofiannau) a ysgrifennwyd ganrifoedd wedi i'r bobl hyn farw. Y gwir yw nad ydym yn gwybod dim am Wyndaf ond ei fod wedi gadael ei enw ar eglwysi yng Nghymru - a hynny'n gynnar yn hanes Cristnogaeth yng Nghymru. Digon posibl hefyd fod rhywfaint o wirionedd yn yr awgrym ei fod yn hanu o Lydaw, gan mai o'r fan honno y daeth llawer o seintiau cynnar Cymnru yn y 5g a 6g OC.

Mae plwyf arall yng Nghymru, Llanwnda yn Sir Benfro, wedi ei enwi ar ôl Gwyndaf Hen; ac efallai mai dyna darddiad yr enw Capel Gwnda, ym mhlwyf Penbryn, Sir Aberteifi (Ceredigion) - er mai dim ond ffermdy o'r enw hwnnw sydd yno bellach.

Ffynonellau

  1. Chris Barber a David Pykitt, Journey to Avalon, (York Beach, 1997), t.230-1.