Marged Uch Ifan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
BDim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Marged Uch Ivan''', neu Margaret ferch Evan ac hefyd Peggy Evans yn gymeriad unigryw a oedd yn byw yn Nhelyrnia, [[Nantlle]].  
Roedd '''Marged Uch Ifan''', neu Margaret ferch Evan (1702-1793), ac a elwid hefyd yn Peggy Evans, yn gymeriad unigryw a oedd yn byw yn Nhelyrniau, [[Nantlle]] am gyfnod yn ôl hanesion a gafwyd yn y fro. Bu yn byw yno, os o gwbl, yn y 1770au, er mai dynes o blwyf Llanddeiniolen ydoedd, a threuliodd y rhan fwyaf o'i hoes hir yn gweithio fel cychwraig yn cario llwythi o fwynau yn ei chwch ar hyd llynoedd Peris a Phadarn o'r gwaith copr oedd yno. Roedd yn denant [[Ystad y Faenol]], a'r Faenol oedd yn berchen ar waith copr Llyn Peris ac ar [[Gwaith copr Drws-y-coed|Waith copr Drws-y-coed]] hefyd.  Mae'n bosibl felly ei bod wedi symud am gyfnod i [[Dyffryn Nantlle|Ddyffryn Nantlle]] oherwydd ei cysylltiad efo'r ystad. Er y straeon ei bod yn byw am gyfnod yn Nyffryn Nantlle, fodd bynnag. nid oedd yr hanesydd diweddaraf i drafod ei hanes, y Dr. Dafydd Gwyn, yn gallu canfod unrhyw sail dogfennol iddynt.<ref>David Gwyn, ''The Queen of the Lake: Margred Ferch Ifan'' yn ''Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon'', Cyf.79 (2023)< tt.14-25</ref>


Yn ei chyfnod, roedd nifer yn canu cerddi amdani ac yn adrodd ei hanesion ar draws Cymru. Yn ôl y Parch. W. R. Ambrose, yr oedd hi’n medru gwneud llawer gyda’i llaw ac yn medru adrodd a chanu alawon Cymreig a diddanu llawer o’i hymwelwyr. Yr oedd y teithiwr Thomas Pennant wedi mynd i’r Telyrniau i’w gweld, ond cafodd ei siomi gan nad oedd hi gartref y tro hwnnw. Yr oedd hi wedi gwneud enw iddi hi ei hun fel cymeriad yn yr ardal, ac ar ei marwolaeth yn 1788, cofnodwyd y bennill isod ar ei charreg fedd;
Yn ei chyfnod, roedd nifer yn canu cerddi amdani ac yn adrodd hanesion yn ymwneud â hi ar draws Cymru. Yn ôl y Parch. W. R. Ambrose<ref>W.R. Ambrose, ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872). </ref>, roedd hi’n fedrus iawn gyda'i dwylo ac yn medru adrodd a chanu alawon Cymreig a diddanu llawer o’i hymwelwyr. Roedd y teithiwr Thomas Pennant wedi mynd i’w chartref  i’w gweld, ond cafodd ei siomi gan nad oedd hi gartref y tro hwnnw. Gwnaeth enw iddi ei hun fel cymeriad yn yr ardal ac, ar ei marwolaeth ym 1788, cofnodwyd y pennill isod ar ei charreg fedd;


“''Here lies Peggy Evans who saw ninety-two'',
“''Here lies Peggy Evans who saw ninety-two'',
Llinell 19: Llinell 19:
''I know she has left a few sisters behind her''.”''
''I know she has left a few sisters behind her''.”''


==Ffynhonnell==
Ni ddylid cymysgu'r Marged Uch Ifan hon (marw 1793<ref>Archifdy Caernarfon, Cofrestr plwyf Llanddeiniolen</ref>) gyda dynes arall a fu farw bron i ganrif ynghynt, sef Margaret ach Evan, [[Tal-y-mignedd Uchaf]], nain [[Angharad James]], a fu farw ym 1690.<ref>LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B1690-72</ref>
 
==Cyfeiriadau==


Ambrose, W. R. ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872).


[[Categori: Unigolion a theuluoedd nodedig]]
[[Categori: Unigolion a theuluoedd nodedig]]
[[Categori:Pobl]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 19:55, 10 Mehefin 2024

Roedd Marged Uch Ifan, neu Margaret ferch Evan (1702-1793), ac a elwid hefyd yn Peggy Evans, yn gymeriad unigryw a oedd yn byw yn Nhelyrniau, Nantlle am gyfnod yn ôl hanesion a gafwyd yn y fro. Bu yn byw yno, os o gwbl, yn y 1770au, er mai dynes o blwyf Llanddeiniolen ydoedd, a threuliodd y rhan fwyaf o'i hoes hir yn gweithio fel cychwraig yn cario llwythi o fwynau yn ei chwch ar hyd llynoedd Peris a Phadarn o'r gwaith copr oedd yno. Roedd yn denant Ystad y Faenol, a'r Faenol oedd yn berchen ar waith copr Llyn Peris ac ar Waith copr Drws-y-coed hefyd. Mae'n bosibl felly ei bod wedi symud am gyfnod i Ddyffryn Nantlle oherwydd ei cysylltiad efo'r ystad. Er y straeon ei bod yn byw am gyfnod yn Nyffryn Nantlle, fodd bynnag. nid oedd yr hanesydd diweddaraf i drafod ei hanes, y Dr. Dafydd Gwyn, yn gallu canfod unrhyw sail dogfennol iddynt.[1]

Yn ei chyfnod, roedd nifer yn canu cerddi amdani ac yn adrodd hanesion yn ymwneud â hi ar draws Cymru. Yn ôl y Parch. W. R. Ambrose[2], roedd hi’n fedrus iawn gyda'i dwylo ac yn medru adrodd a chanu alawon Cymreig a diddanu llawer o’i hymwelwyr. Roedd y teithiwr Thomas Pennant wedi mynd i’w chartref i’w gweld, ond cafodd ei siomi gan nad oedd hi gartref y tro hwnnw. Gwnaeth enw iddi ei hun fel cymeriad yn yr ardal ac, ar ei marwolaeth ym 1788, cofnodwyd y pennill isod ar ei charreg fedd;

Here lies Peggy Evans who saw ninety-two,

Could wrestle, row, fiddle and hunt and fox too

Could ring a sweet peal, as the neighbourhood tells

That would charm your two ears – had there been any bells!

Enjoyed rosy health, in a lodging of straw,

Commanded the saw-pit, and wielded the saw,

And though shes departed where you cannot find her

I know she has left a few sisters behind her.”

Ni ddylid cymysgu'r Marged Uch Ifan hon (marw 1793[3]) gyda dynes arall a fu farw bron i ganrif ynghynt, sef Margaret ach Evan, Tal-y-mignedd Uchaf, nain Angharad James, a fu farw ym 1690.[4]

Cyfeiriadau

  1. David Gwyn, The Queen of the Lake: Margred Ferch Ifan yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.79 (2023)< tt.14-25
  2. W.R. Ambrose, Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872).
  3. Archifdy Caernarfon, Cofrestr plwyf Llanddeiniolen
  4. LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B1690-72