Comin Uwchgwyrfai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Comin Uwchgwyrfai''' yw'r tir agored yn rhan uchaf plwyfi Llandwrog a Llanwnda. nas caewyd o'r mynydd adeg cau'r tiroedd comin oherwydd gwrthwy...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:44, 14 Hydref 2020

Comin Uwchgwyrfai yw'r tir agored yn rhan uchaf plwyfi Llandwrog a Llanwnda. nas caewyd o'r mynydd adeg cau'r tiroedd comin oherwydd gwrthwynebiad i gynlluniau'r Arglwydd Newborough a arweinwyd gan Griffith Davies, yr actiwari yn Llundain a hanodd o'r ardal. Mae llawer wedi cael ei brydlesu gan y Goron dros y blynyddoedd ar gyfer chwareli llechi, ond erys erwau eang o dir mynydd a gweundir. Mae nifer o ffermwyr yr ardal yn dal i arddel eu hawlio pori ar y comin.

Mae'r comin fel y mae heddiw'n cynnwys llethrau Moel Tryfan, llethrau gorlleinol Mynydd Mawr a Mynydd Cilgwyn i gyd.