Bryn Gwydion: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Synshein (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae fferm '''Bryn Gwydion''' ger Pontlyfni ac ym mhen mwyaf gogledd-orllewin plwyf Llanllyfni. Hen annedd sydd yno, ac yn yr 17g., bu cangen o deu...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 12:34, 20 Awst 2020
Mae fferm Bryn Gwydion ger Pontlyfni ac ym mhen mwyaf gogledd-orllewin plwyf Llanllyfni. Hen annedd sydd yno, ac yn yr 17g., bu cangen o deulu Glynniaid Glynllifon yn byw yma. Roedd Edmund Glynn (Bryn Gwydion) yn ynad heddwch adeg y Piwritaniaid, er nad oedd mor weithgar ar y fainc â'i gefnder o bell, Edmund Glynn o'r Hendre, Llanwnda. Tueddai Edmund Glynn y lle sillafu enw ei gartef fel "Brynygwdion".[1]
Dichon bod yr enw'n hen iawn iawn, gan fod son am Fryn Gwydion ym Mhenwaredd Gainc y Mabinogi.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
{{cyfeiriadau}]
- ↑ Archifdy Caernarfon, XQS/1649-1660/amryw