Tramffordd Chwareli Treflan a Garreg-fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Codwyd '''Tramffordd Chwareli Treflan a Garreg-fawr''' (dwy chwarel ar ochr Isgwyrfai i'r Afon Gwyrfai) er mwyn mynd â'u cynnyrch at y lôn a redai t...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 09:28, 24 Tachwedd 2017

Codwyd Tramffordd Chwareli Treflan a Garreg-fawr (dwy chwarel ar ochr Isgwyrfai i'r Afon Gwyrfai) er mwyn mynd â'u cynnyrch at y lôn a redai trwy Ddyddryn Gwyrfai ar ochr Uwchgwyrfai i'r afon. Croesodd yr afon ar bont sydd bellach wedi diflannu. Roedd y dramffordd hon yn bodoli cyn i lein Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru agor ym 1877. Roedd hi'n 1902, mae'n debyg, cyn yr ad-drefnwyd pen y dramffordd er mwyn gysylltu â seidin newydd a agorwyd oddi ar y brif lein a hynny oherwydd pwysau gan gwmni cloddfa garreg haearn newydd a rannodd y dramffordd. Cyn hynny, llwytho wagenni a safai ar y brif lein a wnaed yn ôl pob tebyg. Rhannodd y lein fawr a'r seidin yr un lled, sef 1'11 1/2".