Dwyfor-Meirionnydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Dwyfor-Meirionnydd''' yw'r enw ar etholaeth ar gyfer ethodiadau Senedd Cymru a Senedd San Steffan. Fe'i ffurfiwyd mewn pryd ar gyfer etholiadau i'r Cyn...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 08:38, 13 Mai 2020

Dwyfor-Meirionnydd yw'r enw ar etholaeth ar gyfer ethodiadau Senedd Cymru a Senedd San Steffan. Fe'i ffurfiwyd mewn pryd ar gyfer etholiadau i'r Cynulliad yn 2007 a San Steffan yn 2010. Mae'n cynnwys Meirionnydd, Llŷn, Eifionydd, a chymunedau Clynnog Fawr a Llanaelhaearn yn Uwchgwyrfai.

Mae Dafydd Elis-Thomas wedi dal y sedd Cynulliad/Senedd Cymru ers ffurfio'r etholaeth yn 2007. Safodd ym mhob etholiad fel ymgeisydd Plaid Cymru, ond bron yn syth ar ôl ei etholiad diwethaf ym 2016, ymddiswyddodd o Blaid Cymru gan eistedd fel aelod annibynnol, gan ei fod, meddai, yn awyddus i weld cydweithredu efo'r Blaid Lafur. Cafodd ei wneud yn ddirprwy weinidog yn fuan wedyn.

Dyma restr o'r aelodau seneddol San Steffan:

  • 2010 - 2015 Elfyn Llwyd (Plaid Cymru)
  • 2015 - Liz Saville-Roberts (Plaid Cymru)

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau