Eric Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Geraint (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Eric Jones oedd olynydd J.R.Morris yn y Siop Lyfrau Gymraeg enwog yn y Bont Bridd, Caernarfon. 'Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama' oedd y geiriau oedd yn...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:19, 22 Ebrill 2020

Eric Jones oedd olynydd J.R.Morris yn y Siop Lyfrau Gymraeg enwog yn y Bont Bridd, Caernarfon. 'Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama' oedd y geiriau oedd yn ysgrifenedig uwchben ei drws. Roedd Eric Jones yn byw ym mhentref Pontllyfni. Byddai'n dal Moto Coch hanner awr wedi wyth bob bore i fynd i'w waith, ond byddai'n aml yn hwyr yn cyrraedd y bont. Ond doedd dim raid iddo bryderu. Byddai'r Moto Coch yn gofalu sefyll yn ei unfan hyd nes y byddai Eric Jones wedi cyrraedd. Roedd yn genedlaetholwr hollol ddigymrodedd.

Bu farw ym 1982.