Ffynnon Cilmin: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae J.E. Griffith yn nodi bod ffynnon o'r enw '''Ffynnon Cilmin''' ar dir Plas Newydd, Llandwrog. Mae ''Fountain'' a ''Spring'' yn cael eu nodi ar fap...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 09:57, 27 Mawrth 2020
Mae J.E. Griffith yn nodi bod ffynnon o'r enw Ffynnon Cilmin ar dir Plas Newydd, Llandwrog. Mae Fountain a Spring yn cael eu nodi ar fap Ordnans 1900, ger Coed y Kennel i'r gogledd-ddwyrain o hen dŷ Plas Newydd, a gerllaw, meddai Griffith, mae olion hen dŷ Cilmin Droed-ddu ei hun i'w gweld. Anodd yw cadarnhau dim o hyn, ond rhaid bod hen draddodiad yn y cylch, gan y byddai'r sgweier a roddodd wybodaeth am ei deulu, mae'n debyg, sef Frederick G. Wynn yn ddi-Gymraeg ac felly'n anhebygol o fathu enw Cymraeg ar ffynnon.
Ni wyddys am gyfeiriad arall at Ffynnon Cilmin heblaw am yr hwnnw a geir gan Griffith.[1]
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.266