Robert Roberts, almanaciwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Malan% (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '== Robert Roberts yr Almanaciwr == Roedd '''Robert Roberts (1777-1836)''' yn fab i Siôn Robert Lewis (John Roberts) o Llanaelhaearn/Lanaelhaearn...' |
(Dim gwahaniaeth)
|
Fersiwn yn ôl 21:38, 22 Chwefror 2020
Robert Roberts yr Almanaciwr
Roedd Robert Roberts (1777-1836) yn fab i Siôn Robert Lewis (John Roberts) o Llanaelhaearn/Lanaelhaearn yn wreiddiol a Margaret Roberts (née Jones), Caergybi.
Dilynodd ei dad fel cyhoeddwr a golygydd almanaciau poblogaidd Caergybi, o dan y teitlau ’’Cyfaill Glandeg’’, ’’Cyfaill Taeredd’’, ayb., o 1805 hyd 1837. Argraffwyd y rhain gan John Jones o Drefriw gyda ffugargraffnod Dulyn arnynt er mwyn osgoi treth y Llywodraeth. Cyhoeddodd hefyd ’’Eurgrawn Môn’’, neu ’’Y Drysorfa Hanesyddol’’, 1825-6, a ddarfu gyda rhif 21.
Ef hefyd oedd awdur ’’Daearyddiaeth Gymreig’’ (Caer, 1816), a ’’Seryddiaeth neu lyfr gwybodaeth yn dangos rheoliad y planedau ar bersonau dynion’’ (Llanrwst, 1830).
Bu farw 2 Awst 1836 yn 58 mlwydd oed.[1]
- ↑ Allan o Y Bywgraffiadur Cymraeg