Y Wesleaid yng Nghlynnog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ni fu '''achos Wesleaidd'' yng Nghlynnog erioed yn ffurfiol, ond yn nyddiau cynnar yr enwad, bu ychydig o weithgarwch yn yr ardal. Daeth...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 18:09, 18 Chwefror 2020

Ni fu 'achos Wesleaidd yng Nghlynnog erioed yn ffurfiol, ond yn nyddiau cynnar yr enwad, bu ychydig o weithgarwch yn yr ardal. Daeth Wesleaeth (sef y gangen o'r Methodistiaid a ddilynai syniadau John Wesley) i'r sir ym mlynyddoedd cyntaf y 19g., saf o gwmpas 1803-4, ac mae Eben Fardd yn honni bod pregethu ysbeidiol yng Nglynnog Fawr o'r adeg honno. Bu pregethu grymus a gwresog, yn aml mewn cyrddau mewn stabl neu yn yr awyr agored. Defnyddid stôl yn lle pulpud yn ôl Eben Fardd. Serch hyn, ni lwyddwyd i godi digon o gefnogaeth na gosod digon o wreiddiau yn y plwyf i achos Wesleaidd gael ei sefydlu, a'r achos agosaf i Glynnog oedd yr achosion ym Mhen-y-groes, sef Capel Horeb (W),Pen-y-groes ac achos Capel Salem (W), Tŷ'nlôn, plwyf Llandwrog.[1]

  1. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.75